Gofal iechyd yng Nghymru

(Ailgyfeiriad o Iechyd Cymru)

Darperir gofal iechyd yng Nghymru yn bennaf gan wasanaeth iechyd gyhoeddus Cymru (GIG Cymru). Mae GIG Cymru'n darparu gofal iechyd i bob preswylydd parhaol; gwasanaeth sydd am ddim pan fo'i angen, ac y telir amdano o drethiant cyffredinol. Mae iechyd yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac mae gwahaniaethau sylweddol yn datblygu rhwng systemau gofal iechyd cyhoeddus gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig, gyda'i gilydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).[1] Er bod y system gyhoeddus yn dominyddu darpariaeth gofal iechyd, mae gofal iechyd preifat ac amrywiaeth eang o driniaethau amgen a chyflenwol ar gael i'r rhai sy'n barod i dalu.[2][3]

Gofal iechyd yng Nghymru
Map o'r saith bwrdd iechyd lleol; Betsi Cadwaladr (gogledd), Hywel Dda (gorllewin), Powys (canolbarth), Bae Abertawe (de-orllewin), Cwm Taf (de-canol), Aneurin Bevan (de-ddwyrain), Caerdydd a'r Fro (mwyaf deheuol).
Enghraifft o'r canlynolgofal iechyd yn ôl gwlad neu ranbarth Edit this on Wikidata
Rhan oiechyd yng Nghymru Edit this on Wikidata
LleoliadCymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ysbyty Athrofaol Cymru, y Mynydd Bychan, Caerdydd yw ysbyty mwyaf Cymru, ond roedd Ysbyty Calon y Ddraig yn ysbyty dros dro mwy, a sefydlwyd mewn ymateb i'r pandemig COVID-19 yng Nghymru.[4]

Yn wahanol i Loegr, mae presgripsiynau'r GIG am ddim i bawb sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru.[5]

Cymru yw man geni'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol modern, gyda'r syniad yn cael ei gyflwyno ledled y DU gan y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Aneurin Bevan, ym 1948.[6] Cafodd y gwasanaeth ei weinyddu gan Lywodraeth y DU i ddechrau; ers 1999 mae GIG Cymru wedi cael ei ariannu a'i reoli gan Lywodraeth Cymru.[7]

Ymddiriedolaethau'r GIG a'r byrddau iechyd golygu

Cyn 2009, rhannwyd Cymru yn 10 ymddiriedolaeth GIG:[8]

Byrddau iechyd presennol golygu

Mae Cymru bellach wedi'i rhannu'n 7 bwrdd iechyd lleol a 3 ymddiriedolaeth GIG:[9]

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy'n rheoli'r holl wasanaethau ambiwlans yng Nghymru o'i chanolfan yn Sir Ddinbych.

Gofal Sylfaenol golygu

Cyrhaeddodd wasanaethau y tu allan i oriau yng ngogledd a gorllewin Cymru ‘bwynt argyfwng' ym mis Ebrill 2019. Bu'n rhaid i wasanaethau yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Sir Benfro ac Ysbyty Tywysog Philip yn Sir Gaerfyrddin gau am benwythnos 30/31 Mawrth.[10] Yn ystod 2018 roedd o leiaf 146 o shifftiau gofal brys yng Nghymru heb feddyg teulu ar y gwasanaeth y tu allan i oriau.[11]

Fferyllfeydd golygu

Mae cynlluniau i ehangu rôl fferyllwyr cymunedol yng Nghymru. Cafodd y cynlluniau eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru ac fe'u lluniwyd gan Bwyllgor Fferyllol Cymru sy'n rhagweld y bydd fferyllwyr annibynnol â'r hawl i roi presgripsiwn ym mhob fferyllfa gymunedol wedi'u hintegreiddio â meddygfeydd lleol i gael mynediad at gofnodion cleifion. Bydd hyn yn galluogi'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, sy'n galluogi fferyllwyr i drin 26 o afiechydon cyffredin, megis llygaid sych, diffyg traul a doluriau annwyd, a bydd y fferyllwyr yn gallu cyfeirio cleifion am brofion.[12] Darparodd 702 o fferyllfeydd yng Nghymru gyfanswm o 43,158 o ymgynghoriadau gwasanaeth anhwylderau cyffredin yn 2018/2019, mwy na dwbl y nifer yn y flwyddyn flaenorol. Ym Mai 2019 roedd 97% o fferyllfeydd y wlad yn cynnig y gwasanaeth.[13]

Dechreuodd y gwasanaeth ‘profi a thrin' peilot ar gyfer dolur gwddf mewn 70 o fferyllfeydd cymunedol yn ardaloedd byrddau iechyd lleol Cwm Taf a Betsi Cadwaladr yn Nhachwedd 2018. Mae fferyllwyr yn gwneud prawf swab i ddarganfod achos dolur gwddf facteriol neu firaol. Dim ond mewn 20% o achosion yr oedd angen presgripsiwn o wrthfiotigau.[14]

Gwasanaethau Cymunedol golygu

Yn Ebrill 2019, cyhoeddodd Vaughan Gething gronfa o £11 miliwn i 'drawsnewid' gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Bydd ymarferwyr iechyd meddwl yn gweithio gyda chriwiau ambiwlans; mewn ystafelloedd rheoli'r heddlu; caffis argyfwng. Bydd hafanau diogel a gwasanaethau triniaeth cartref cryfach yn cael eu datblygu hefyd. Bydd gwasanaethau ymyrraeth gynnar i blant a phobl hŷn yn cael eu cryfhau.[15]

Ystadegau gofal ac iechyd golygu

 

 

Coronafeirws golygu

Cafodd system gofal iechyd Cymru ei heffeithio'n wael gan achosion Coronafeirws ar ddechrau 2020. Gwaethygwyd hyn gan y ffaith bod poblogaeth Cymru, yn ôl ymchwil Ymddiriedolaeth Nuffield, ar gyfartaledd yn “hŷn, yn salach ac yn fwy difreintiedig na phoblogaeth Lloegr – felly mae'n rhaid i'r GIG weithio'n galetach”.[16]

Gwnaeth Llywodraeth Cymru newidiadau penodol i ofal iechyd yng Nghymru i ddelio â'r achosion, gan gynnwys canslo llawdriniaethau dewisol[17], adeiladu ail ysbyty mwyaf y DU yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, cymeradwyo'r “peiriant anadlu brys COVID”, dyfais a ddyluniwyd gan ymgynghorydd meddygol yn Rhydaman.[18] Serch hynny, ar ddiwedd Mawrth cafwyd yr achosion lleol mwyaf yn y DU yng Nghymru. Bu Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yng Nghasnewydd yn ganolbwynt i'r achosion hyn, a bu nifer uwch o achosion fesul 1,000 o bobl nag unrhyw ddinas arall yn y DU, gan gynnwys Llundain.[19]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. NHS now four different systems BBC 2 January 2008
  2. Peregrine, Chris (2019-01-29). "Here is why people choose private health care for life-changing operations". walesonline. Cyrchwyd 2019-10-31.
  3. "Health centres in Wales | Find a health centre | Bupa UK". www.bupa.co.uk. Cyrchwyd 2019-10-31.
  4. CVUHB, Cardiff & Vale University Health Board- (2017-01-20). "NHS Wales | Staff at Wales' biggest hospital reveal how flu is impacting wards". www.wales.nhs.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-31. Cyrchwyd 2019-10-31.
  5. "Free prescriptions". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-10-31.
  6. "Aneurin Bevan and the Birth of the NHS". Past Medical History (yn Saesneg). 2016-01-31. Cyrchwyd 2019-10-31.
  7. "One NHS, or Many? The National Health Service under Devolution | The Political Studies Association (PSA)". One NHS, or Many? The National Health Service under Devolution | The Political Studies Association (PSA) (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-31. Cyrchwyd 2019-10-31.
  8. SmartHealthcare.com (2009-10-02). "Wales merges health trusts into boards". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-10-31.
  9. Health in Wales: Structure NHS Wales. Retrieved 10 October 2019
  10. "Wales out-of-hours services at 'crisis point' as providers unable to cover weekends". Pulse. 10 April 2019. Cyrchwyd 20 May 2019.
  11. "GP crisis left a million patients without doctor on call over weekends and evenings in 2018". Independent. 3 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mai 2022. Cyrchwyd 9 June 2019.
  12. "All community pharmacies in Wales to have an independent prescriber as part of long-term plan for Welsh pharmacy". Pharmaceutical Journal. 23 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-08. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2019.
  13. "Number of common ailments consultations per pharmacy nearly doubles in 2018/2019". Pharmaceutical Journal. 29 Hydref 2019. Cyrchwyd 11 December 2019.[dolen marw]
  14. "Pharmacy sore throat test-and-treat service prescribes antibiotics in only a fifth of cases". Pharmaceutical Journal. 30 September 2019. Cyrchwyd 20 November 2019.[dolen marw]
  15. "£11 million in funding announced to bring social care 'closer to home'". Homecare Insight. 25 Ebrill 2019. Cyrchwyd 9 June 2019.
  16. "Fact or Fiction? The Welsh NHS performs poorly compared to the English NHS". 16 Ionawr 2017.
  17. "Coronavirus: Planned surgery cancelled in Wales". BBC News. 14 Mawrth 2020.
  18. "Welsh doctor designs ventilator that could save thousands with coronavirus". 24 March 2020.
  19. "The locations of all Covid-19 cases in Wales as one area has most in UK". 6 Ebrill 2020.