Iwan Roberts (actor a cherddor)
Actor, canwr, a nofelydd Cymraeg yw Iwan "Iwcs" Roberts (ganwyd 1967). Mae'n gynhyrchydd a sgriptiwr y gyfres deledu Dal y Mellt.
Iwan Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 1967 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, bardd, cyfansoddwr caneuon, canwr, actor teledu |
Mae wedi gweithio ar amryw o ffilmiau, gan gynnwys y cynyrchiadau “Eldra” ac “Y Lleill”, a wnaethant ill dau ennill BAFTA Cymru. Mae'n adnabyddus am ei bortread o’r cymeriad Kevin Powell yn yr opera sebon Pobol y Cwm. Mae hefyd wedi dilyn gyrfa lwyddiannus fel canwr-gyfansoddwr fel rhan o’r deuawd Iwcs a Doyle ac fel artist unigol. Yn 2019 cyhoeddodd ei nofel gyntaf sef Dal y Mellt a gafodd dderbyniad anhygoel gan y cyhoedd, ag adolygiadau gwych gan y wasg.[angen ffynhonnell]
Bywyd cynnar
golyguFe magwyd Iwan Roberts ym mhentref Trawsfynydd, Gwynedd. Yn dalent creadigol ac yn berfformiwr greddfol o oedran cynnar, cychwynodd ei yrfa fel actor yn ifanc, drwy actio mewn cynyrchiadau yn Ysgol Gynradd Trawsfynydd a pherfformio mewn sawl cynhyrchiad theatr lleol.
Gyrfa
golyguCychwyn: 1985–1996
golyguAr ôl gorffen ei addysg uwchradd yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, ymrestrodd Iwan Roberts ar gwrs peirianneg, gyda’i frŷd ar weithio fel gôf [1]. Ar yr un pryd arweiniodd ei hoffter at berfformio iddo ymuno gyda’r grŵp theatr Theatr Bara Caws. Ymddangosodd mewn sawl cynhyrchiant theatr gyda Theatr Bara Caws, Theatr Arad Goch, ac eraill, cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu yn y gyfres gomedi Rhew Poeth, a gafodd ei darlledu ar S4C ym 1985. Wedi hynny, ymddangosodd Iwcs ar sawl cyfres deledu gan gynnwys treulio cyfnod byr ar ddiwedd yr 1980au yn actio yn yr opera sebon Pobol y Cwm, a’r gyfres gomedi boblogaidd C'mon Midffîld!, cyn mynd yn ei flaen i actio mewn cyfresi teledu eraill gan gynnwys Minafon a Lleifior.
Ym 1994, chwaraeodd ran Dafydd yn y ddrama Y Wisg Sidan (addasiad deledu o nofel Elena Puw Morgan). Hefyd ym 1994, chwaraeodd Iwan ran Barry Pritchard yn y gyfres ddrama A55 a enillodd BAFTA Cymru ym 1995 am y Ddrama Orau. Ymddangosodd Iwan Roberts mewn amrywiol ffilmiau yn y 1990au cynnar, gan gynnwys Y Beicar a Gwynfyd.
Iwcs a Doyle: 1996–1999
golyguYm 1996, arallgyfeiriodd Iwcs ei yrfa fel perfformiwr, ac ynghyd â'r gitarydd John Doyle, ffurfiodd y deuawd Iwcs a Doyle. Ym Mhontrhydfendigaid ar Ddydd Gŵyl Dewi 1996, enillodd Iwcs a Doyle y gystadleuaeth flynyddol Cân i Gymru [2]. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno rhyddhaodd Iwcs a Doyle yr albwm Edrychiad Cynta', a gafodd ei chynhyrchu gan Les Morrison[3]. Gwerthodd yr albwm yn dda iawn, a derbyniodd glod mawr. Perfformiodd Iwcs a Doyle mewn sawl lleoliad a gŵyl gerddorol, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, a'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Nrhali, Iwerddon ym 1996.
Teledu, Theatr a Ffilm: 1999–2007
golyguParhaodd Roberts i actio drwy gydol ei amser yn perfformio fel Iwcs a Doyle. Efallai mai ei rôl mwyaf nodedig yn ystod y cyfnod hwn oedd ei bortread o’r masnachwr gwin Gary Lovell yn y gyfres ddrama Pengelli (1997-2000). Ym 1999, ymddangosodd fel y cymeriad Hari Bont yn Porc Peis Bach (1999-2004), ac yn ddiweddarach actiodd yn y gyfres Talcen Caled (2001-2003); y ddrama hanesyddol Y Stafell Ddirgel yn 2002 (addasiad o nofel Marion Eames), ac ‘roedd ganddo rôl rheolaidd yn yr opera sebon Xtra (2002-2003) [4].
Yn ystod y cyfnod hwn, darparodd Iwan Roberts droslais ar gyfer adnewyddiad o ffilm 1935 Ifan ab Owen Edwards Y Chwarelwr. Yn ogystal, darparodd droslais ar gyfer sawl animeiddiad [5], ac ar amryw o ddramau radio ar BBC Radio Cymru.
O gwmpas y cyfnod yma ymddangosodd Iwan Roberts yn y sioe theatr un dyn, a chynhyrchiad ffilm o bryddest fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 Awelon [6]. Actiodd ran Elvis Presley hefyd yn y sioe theatr dau berson “Plant Gladys”[7], yn ogystal ag ymddangos yn y cynhyrchiad Bownsars (addasiad o Bouncers gan John Godber).[8]
Ar yr un pryd, ymddangosodd Iwan "Iwcs" Roberts yn y ffilm Eldra (2003), a chwaraeodd ran Paul yn y cynhyrchiad Ankst Y Lleill[9], ac enillodd breswylfa gyda’r Institute of Contemporary Arts yn Rhagfyr 2006 [10], ac a hefyd enillodd BAFTA am y ffilm orau y flwyddyn ganlynol [11].
Gyrfa canu unigol: 2005–2007
golyguCyfansoddodd a recordiodd Iwcs ei albwm unigol gyntaf o’r enw Cynnal Fflam yn 2005. Recordiwyd yr albwm yn Waunfawr, Gwynedd, a chafodd ei chyd-gynhyrchu gan Bob Galvin a Iwcs [12]. Trwy gydol ei yrfa fel perfformiwr ac artist, mae Iwan Roberts wedi nodi mai ffynhonnell ei ysbrydoliaeth a’i brif ddylanwadau artistig yw’r amgylchedd naturiol a’r bobl sydd o’i gwmpas [1].
Pobol y Cwm: 2007–2014
golyguDychwelodd Roberts i Pobol y Cwm yn 2007 i chwarae rhan Kevin Powell. Parhodd yn y rôl hon fel un o’r prif gymeriadau tan 2014.
2014–2022 Ysgrifennodd ei nofel gyntaf or enw Dal y Mellt a dderbyniodd ymateb gwych gan y cyhoedd a'r adolygwyr. Dechreuodd ei throsi ag ysgrifennu sgript 6 pennod awr o'i waith craidd. Fe ddaeth y gyfres deledu Dal y Mellt i fodolaeth ar y sgrin yn hydref 2022.
Ffilmograffiaeth ddetholedig
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl | Gwybodaeth Ychwanegol |
---|---|---|---|
2007–2014 | Pobol y Cwm | Kevin Powell | Opera Sebon; Rhan Reolaidd |
2005 | Craig ac Eifion | Amrywiol | Cyfres Adloniant Plant |
Y Lleill | Paul | Prif Ffilm; Enillydd BAFTA Cymru – Ffilm Orau; Prif Ran | |
Tri Tan y Manod | Cacan | Comedi; Prif Ran | |
2004 | Porc Peis Bach | Hari Bont | Comedi |
2003 | Awelon | Prif Gymeriad | Ffilm Fer; Prif Ran |
Talcen Caled | Maldwyn | Drama; Rhan Reolaidd | |
2002 | Xtra | Bibs | Opera Sebon; Rhan Reolaidd |
Y Stafell Ddirgel | Drama Hanesyddol | ||
2001 | Eldra | Prif Ffilm; Enillydd BAFTA Cymru – Ffilm Orau | |
2000 | Pengelli | Gary Lovell | Drama; Rhan Reolaidd (Pedair Cyfres) |
1998 | Y Band Pres | Ffilm Deledu | |
1996 | Iwcs y Forwyn Chalet | Ei Hun | Rhaglen Ddogfen; Cyflwynydd |
1995 | Cegin y Diafol | Ffilm Deledu | |
1994 | A55 | Barry Pritchard | Drama; Enillydd BAFTA Cymru – Drama Orau; Prif Ran |
Y Wisg Sidan | Dafydd | Drama Hanesyddol | |
1992 | Lleifior | Drama Hanesyddol | |
1991 | Gwynfyd | Ffilm Deledu | |
1990 | Y Beicar | Ffilm Deledu | |
Wadlo | Ei Hun | Cyfres Ddogfen; Cyflwynydd | |
1987 | Anest | Melfyn | Drama |
Minafon | Opera Sebon | ||
1986 | C'mon Midffîld! | Comedi | |
1985 | Rhew Poeth | Geraint | Drama |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Tudur, Non (10 Tachwedd 2005). "Gweld y Geiriau". Golwg (Argraffwyr Cambrian).
- ↑ "'S4C Cân i Gymru'". Cyrchwyd 2014-04-29.
- ↑ "'iTunes – Edrychiad Cynta". Cyrchwyd 2014-04-29.
- ↑ "'BBC Radio Cymru'". Cyrchwyd 2014-04-29.
- ↑ "'Daily Post 15 December 2001'". Cyrchwyd 2014-04-29.
- ↑ "'Theatre Wales'". Cyrchwyd 2014-04-29.
- ↑ "'Theatre Wales – Adolygiad Plant Gladys". Cyrchwyd 2014-04-29.
- ↑ "'Theatr Gwynedd - Bownsars'". Cyrchwyd 2014-04-29.
- ↑ "'IMDB'". Cyrchwyd 2014-04-29.
- ↑ "'Institute of Contemporary Arts'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-02. Cyrchwyd 2014-04-29.
- ↑ "'The Guardian'". Cyrchwyd 2014-04-29.
- ↑ "'Cynnal Fflam' ~ Iwcs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-06. Cyrchwyd 2009-03-28.