J. Meirion Lloyd
Roedd John Meirion Lloyd (4 Mai 1913 – 30 Medi 1998) yn genhadwr, athro ac awdur Cymreig.[1]
J. Meirion Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mai 1913 Corris |
Bu farw | 30 Medi 1998 Prestatyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfieithydd, cyfieithydd y Beibl, cenhadwr, gweinidog yr Efengyl |
Cefndir
golyguGanwyd Lloyd yng Nghorris yr hynaf o chwech o blant David Richard Lloyd, chwarelwr a Ruth (née Ellis) ei wraig. Brodyr iddo oedd y Parch Dr R. Glynn Lloyd, gweinidog capel Presbyteraidd Cymreig Utica a Dewi Ffoulkes Lloyd, diwinydd ac aelod o Gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion. Cafodd ei addysgu yng Ngholegau Prifysgol Cymru Caerdydd ac Aberystwyth a Phrifysgol Birmingham.[2]
Gyrfa
golyguWedi cymhwyso fel peiriannydd ym Mhrifysgol Caerdydd symudodd Lloyd i Aberystwyth i astudio diwinyddiaeth. Cafodd ei ordeinio fel gweinidog Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym 1941 a dechreuodd paratoi am waith yn y genhadaeth tramor. Oherwydd yr Ail Ryfel Byd, bu'n rhaid iddo aros hyd 1944 cyn cychwyn ar daith i India i gychwyn ar ei waith.
Teithiodd ar long i Mumbai gan symud trwy Kolkata i Silchar mewn wagenni'r fyddin ac yna ymlaen i Aizawl, gan ymuno a'r genhadaeth a sefydlwyd gan y Cymro David Evan Jones ym Mryniau Lushai (Mizoram bellach). Ym Mizoram bu'n weithgar wrth gychwyn sefydliadau addysg. Sefydlodd ysgol uwchradd cyntaf Aizawl a sefydlodd coleg diwinyddol yn yr un dref gan gael ei benodi'n brifathro arni. Bu hefyd yn gyfrifol am sefydlu coleg y celfyddydau yn yr ardal a agorwyd ym 1960.
Ym 1964 dychwelodd Lloyd a'i deulu o'r India gan ymsefydlu yn Lerpwl lle fu'n gweithio am y 10 mlynedd nesaf fel Ysgrifennydd Cymdeithas y Beibl ar Lannau Mersi, Cilgwri a Gorllewin Swydd Gaerhirfryn cyn dychwelyd i Gymru i fod yn weinidog capel yn y Rhyl
Llenor
golyguUn o brosiectau pwysicaf Lloyd fel rhan o'i genhadaeth oedd fel arweinydd y grŵp bu'n gyfrifol am gyfieithu'r Beibl i iaith Mizo, a gyflawnwyd ym 1955. Ysgrifennodd lyfrau am ei brofiadau ym Mizoram. Cyhoeddwyd On Every High Hill ym 1956, llyfr sy'n adrodd hanes y genhadaeth Prydeinig yng Ngogledd-ddwyrain India, o ddiwedd y 19eg ganrif i ganol yr 20g.[3] Ym 1989 Golygodd y llyfr Nine Missionary Pioneers sy'n adrodd hanes naw cenhadwr arloesol yng Ngogledd-ddwyrain India.[4] Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd Y bannau pell: Cenhadaeth Mizoram (Hanes cenhadaeth dramor Eglwys Bresbyteraidd Cymru),[5] llyfr a gyfieithwyd wedyn i'r Saesneg ac iaith Mizo. Ym 1991 cyhoeddodd History of the Church in Mizoram (Harvest in the Hills).[6]
Teulu
golyguPriododd Lloyd Joan Maclese yn Lerpwl ym 1944 ychydig ddyddiau cyn iddo ddechrau ar ei daith i India. Ymunodd hi ag ef yn Aizawl ar adeg y Nadolig 1945. Ganwyd iddynt dau fab a merch ym Mizoram.[7]
Marwolaeth
golyguBu farw ym Mhrestatyn yn 75 mlwydd oed claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Crist Prestatyn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Obituary: The Rev J. Meirion Lloyd". The Independent. 1998-10-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2020-01-07.
- ↑ Rees, D Ben (2002). Vehicles of grace and hope : Welsh missionaries in India, 1800-1970. William Carey Library. tt. 121–122. ISBN 0-87808-505-X. OCLC 53916907.
- ↑ Lloyd, J Meirion (1956). On Every High Hill.
- ↑ Rees, J Meirion (1989). Nine missionary pioneers : the story of nine pioneering missionaries in North-east India. Caernarfon: Mission Board of the Presbyterian Church of Wales. ISBN 0-901330-82-5. OCLC 20689976.
- ↑ Lloyd, J Meirion (1989). Y bannau pell : Cenhadaeth Mizoram. Gwasg Pantycelyn ar ran Bwrddy Genhadaeth. ISBN 0-901330-81-7. OCLC 22309143.
- ↑ Lloyd, J. Meirion (1991). History of the Church in Mizoram: Harvest in the Hills. Synod Publication Board.
- ↑ Jones, Mari (2017-06-13). "Farewell to the Rhyl woman who served as a missionary in India and met Nehru". northwales. Cyrchwyd 2020-01-07.