J. Meirion Lloyd

cenhadwr ac awdur
(Ailgyfeiriad o J Meirion Lloyd)

Roedd John Meirion Lloyd (4 Mai 191330 Medi 1998) yn genhadwr, athro ac awdur Cymreig.[1]

J. Meirion Lloyd
Ganwyd4 Mai 1913 Edit this on Wikidata
Corris Edit this on Wikidata
Bu farw30 Medi 1998 Edit this on Wikidata
Prestatyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, cyfieithydd y Beibl, cenhadwr, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Lloyd yng Nghorris yr hynaf o chwech o blant David Richard Lloyd, chwarelwr a Ruth (née Ellis) ei wraig. Brodyr iddo oedd y Parch Dr R. Glynn Lloyd, gweinidog capel Presbyteraidd Cymreig Utica a Dewi Ffoulkes Lloyd, diwinydd ac aelod o Gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion. Cafodd ei addysgu yng Ngholegau Prifysgol Cymru Caerdydd ac Aberystwyth a Phrifysgol Birmingham.[2]

Wedi cymhwyso fel peiriannydd ym Mhrifysgol Caerdydd symudodd Lloyd i Aberystwyth i astudio diwinyddiaeth. Cafodd ei ordeinio fel gweinidog Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym 1941 a dechreuodd paratoi am waith yn y genhadaeth tramor. Oherwydd yr Ail Ryfel Byd, bu'n rhaid iddo aros hyd 1944 cyn cychwyn ar daith i India i gychwyn ar ei waith.

Teithiodd ar long i Mumbai gan symud trwy Kolkata i Silchar mewn wagenni'r fyddin ac yna ymlaen i Aizawl, gan ymuno a'r genhadaeth a sefydlwyd gan y Cymro David Evan Jones ym Mryniau Lushai (Mizoram bellach). Ym Mizoram bu'n weithgar wrth gychwyn sefydliadau addysg. Sefydlodd ysgol uwchradd cyntaf Aizawl a sefydlodd coleg diwinyddol yn yr un dref gan gael ei benodi'n brifathro arni. Bu hefyd yn gyfrifol am sefydlu coleg y celfyddydau yn yr ardal a agorwyd ym 1960.

Ym 1964 dychwelodd Lloyd a'i deulu o'r India gan ymsefydlu yn Lerpwl lle fu'n gweithio am y 10 mlynedd nesaf fel Ysgrifennydd Cymdeithas y Beibl ar Lannau Mersi, Cilgwri a Gorllewin Swydd Gaerhirfryn cyn dychwelyd i Gymru i fod yn weinidog capel yn y Rhyl

Llenor

golygu

Un o brosiectau pwysicaf Lloyd fel rhan o'i genhadaeth oedd fel arweinydd y grŵp bu'n gyfrifol am gyfieithu'r Beibl i iaith Mizo, a gyflawnwyd ym 1955. Ysgrifennodd lyfrau am ei brofiadau ym Mizoram. Cyhoeddwyd On Every High Hill ym 1956, llyfr sy'n adrodd hanes y genhadaeth Prydeinig yng Ngogledd-ddwyrain India, o ddiwedd y 19eg ganrif i ganol yr 20g.[3] Ym 1989 Golygodd y llyfr Nine Missionary Pioneers sy'n adrodd hanes naw cenhadwr arloesol yng Ngogledd-ddwyrain India.[4] Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd Y bannau pell: Cenhadaeth Mizoram (Hanes cenhadaeth dramor Eglwys Bresbyteraidd Cymru),[5] llyfr a gyfieithwyd wedyn i'r Saesneg ac iaith Mizo. Ym 1991 cyhoeddodd History of the Church in Mizoram (Harvest in the Hills).[6]

Priododd Lloyd Joan Maclese yn Lerpwl ym 1944 ychydig ddyddiau cyn iddo ddechrau ar ei daith i India. Ymunodd hi ag ef yn Aizawl ar adeg y Nadolig 1945. Ganwyd iddynt dau fab a merch ym Mizoram.[7]

Marwolaeth

golygu

Bu farw ym Mhrestatyn yn 75 mlwydd oed claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Crist Prestatyn

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Obituary: The Rev J. Meirion Lloyd". The Independent. 1998-10-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2020-01-07.
  2. Rees, D Ben (2002). Vehicles of grace and hope : Welsh missionaries in India, 1800-1970. William Carey Library. tt. 121–122. ISBN 0-87808-505-X. OCLC 53916907.
  3. Lloyd, J Meirion (1956). On Every High Hill.
  4. Rees, J Meirion (1989). Nine missionary pioneers : the story of nine pioneering missionaries in North-east India. Caernarfon: Mission Board of the Presbyterian Church of Wales. ISBN 0-901330-82-5. OCLC 20689976.
  5. Lloyd, J Meirion (1989). Y bannau pell : Cenhadaeth Mizoram. Gwasg Pantycelyn ar ran Bwrddy Genhadaeth. ISBN 0-901330-81-7. OCLC 22309143.
  6. Lloyd, J. Meirion (1991). History of the Church in Mizoram: Harvest in the Hills. Synod Publication Board.
  7. Jones, Mari (2017-06-13). "Farewell to the Rhyl woman who served as a missionary in India and met Nehru". northwales. Cyrchwyd 2020-01-07.