Roedd James Abernethy FRSE (12 Mehefin 1814 - 8 Mawrth 1896) yn beiriannydd sifil o'r Alban

James Abernethy
Ganwyd12 Mehefin 1814 Edit this on Wikidata
Aberdeen Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mawrth 1896 Edit this on Wikidata
Broadstairs Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Galwedigaethpeiriannydd sifil, peiriannydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Abernethy yn Aberdeen i George Abernethy, peiriannydd, ac Isabella (neé Johnston) cafodd ei dad ei benodi yn rheolwr Gwaith Haearn Dowlais, ac ym 1826 symudodd i Southwark, Llundain, wedi i'r tad derbyn swydd fel rheolwr ffowndri. Tra yno, gwyliodd y gwaith o adeiladu Pont Llundain. Ym 1827, anfonwyd ef gyda'i frodyr i Ysgol Breswyl Cotherstone yn Riding Gogledd Swydd Efrog, ond cafodd ei symud gan ei ewythr, y Parch. John Abernethy, ddwy flynedd yn ddiweddarach, pan ddarganfu bod amodau'r ysgol yn ofnadwy. Aeth ei ewythr ag ef i Lundain ac yna i Haddington, Dwyrain Lothian lle treuliodd ddwy flynedd yn yr Ysgol Ramadeg lleol. Yna aeth i weithio o dan ei dad, a oedd yn gweithio ar adeiladu Doc y Dwyrain, a oedd yn rhan o Ddociau Llundain.[1]

Ym 1832 symudodd gyda'i dad o Herne Bay, lle'r oedd pier pren yn cael ei adeiladu. Fodd bynnag, hwyliodd i Sweden ym 1833, i osod ffordd newydd ar gyfer mwynglawdd manganîs ger Jönköping| roedd ffrind wedi'i brynu. Treuliodd lawer o'i amser hamdden yn braslunio pensaernïaeth a golygfeydd yr ardal. Cafodd ei alw'n ôl i Loegr ym 1835 gan ei dad, i gynorthwyo ar brosiect goleudy Start Point yn Nyfnaint. Ymddengys mai dyma'r tro olaf iddo weithio gyda'i dad. Symudodd i Goole ym 1836, i weithio gyda George Leather ar adeiladu'r doc agerlong a'r clo a gysylltodd Camlas Aire a Calder â'r Afon Humber. Er gwaethaf iddo bron a boddi pan gwympodd cofferdam, fe neilltuodd y rhan fwyaf o weddill ei yrfa i beirianneg forol. Gweithiodd ar welliannau i'r Aire a Calder rhwng Wakefield a Methley tan 1838, ac yna daeth yn beiriannydd preswyl Rheilffordd Gogledd Canolbarth Lloegr, gan weithio o dan George Stephenson. Fodd bynnag, ymddiswyddodd ar ôl 18 mis, i ddod yn beiriannydd Ymddiriedolaeth Harbwr Aberdeen .[2]

 
James Abernethy

Roedd gan Aberdeen harbwr llanw ar yr adeg y cyrhaeddodd Abernethy, a threuliodd flwyddyn yn ysgeintio ac adeiladu argloddiau i wella'r sianel fynediad. Y flwyddyn ganlynol, cynhaliwyd cystadleuaeth ar gyfer dylunio doc caeedig, a dewiswyd ei ddyluniad ef ar gyfer y gwaith. Cafwyd Deddf Seneddol i weithredu'r dyluniad, ond yn gyntaf bu'n rhaid i Abernethy argyhoeddi asesydd annibynnol yn Llundain o'i gadernid. Roedd y cyfarfod yn amhendant, ond roedd cadeirydd Ymddiriedolwyr yr Harbwr yn fodlon, a gofynnwyd am dendrau i'w hadeiladu. Rhoddwyd y contract i'r cynigydd isaf, ond ni allai ei gwblhau, a chymerodd Abernethy yr awenau ar ôl blwyddyn, gan ddefnyddio llafur uniongyrchol i orffen y gwaith. Pan gafodd ei adeiladu, y clo mynediad oedd y mwyaf ym Mhrydain, yn mesur 250 x 60 troedfedd (76 x 18 medr), gyda dyfnder mordwyol o 22 troedfedd (6.7 medr) ar lanw uchel.[2]

Pasiwyd y Ddeddf Ymholiadau Rhagarweiniol i sicrhau bod cynlluniau newydd o bwys yn cael eu hasesu'n gymwys cyn eu gweithredu, a bu Abernethy yn gweithio fel un o'i Swyddogion Arolygu am wyth mlynedd hyd 1852. Yn ystod yr amser hwn cynhaliodd ymholiadau cyhoeddus i gynlluniau ar gyfer gwella Afon Clud, Afon Tyne ac Afon Ribble, ac ar gyfer adeiladu dociau yn Belffast, Penbedw, Glasgow, Lerpwl a Newcastle upon Tyne. Yn ogystal â chael sgiliau wrth gynnal cyfarfodydd o'r fath, cyfarfu â pheirianwyr blaenllaw'r cyfnod, a dysgodd yr arferion gorau ar gyfer peirianneg forol. Gweithredodd fel ymgynghorydd i Ymddiriedolwyr Harbwr Abertawe o 1847, a daeth yn Brif Beiriannydd iddynt ym 1849, ond parhaodd i fyw yn Aberdeen tan 1851, pan symudodd i Benbedw.[2]

Cynhyrchodd gynlluniau ar gyfer Dociau Penbedw, gan nad oedd yn argyhoeddedig bod y cynlluniau cystadleuol, a gynhyrchwyd gan James Rendel, yn ymarferol. Aseswyd y ddau gynllun gan y Llyngesydd Syr Francis Beaufort a Robert Stephenson, a ganfu o blaid Rendel. Wedi i Gorfforaeth Lerpwl cyfrifoldeb am y cynllun ym 1855, gweithredwyd cynlluniau Rendel, ond methodd y llifddorau yn fuan ar ôl i'r dociau gael eu cwblhau ym 1864. Awdurdododd Deddf Seneddol newydd a basiwyd ym 1866 ailadeiladu'r dociau i gynlluniau Abernethy. Trwy gydol y cyfnod hwn bu’n weithgar gyda chynlluniau eraill hefyd, gan gynnwys iard long ar gyfer Mri. Laird ar Afon Merswy. Cynhyrchodd gynlluniau ar gyfer gwella Camlas Bann yn yr Iwerddon ym 1851, ac ar gyfer Rheilffordd Fforest y Ddena, Mynwy, Caerwysg a Phont-y-pŵl yn y ddwy flynedd ganlynol.[3]

Peiriannydd ymgynghorol

golygu

Sefydlodd swyddfa yn Llundain ym 1853, a gweithredodd fel peiriannydd ymgynghorol ar gyfer nifer fawr o gynlluniau, gan barhau i gynnal ei oruchwyliaeth reolaidd o'r dociau yng Nghaerdydd, Fraserburgh, Casnewydd [4] ac Abertawe. Ehangodd ei waith i gynnwys prosiectau tramor ym 1862, er na weithredwyd nifer o'i argymhellion, ac roedd y cynllun a adeiladwyd yn harbwr Alexandria yn y pen draw ychydig yn llai boddhaol na'i ddyluniad ei hun.[3] Roedd cynlluniau harbwr mawr yn cynnwys y rhai yn Silloth, Portpatrick, Aberfal, Durban yn Ne Affrica, Watchet, Boston a Doc Alexandra yn Kingston upon Hull. Gweithiodd hefyd ar Reilffordd Abertawe a Chastell-nedd rhwng 1862 a 1863, Rheilffordd Turin a Savona yn yr Eidal, a oedd yn 120 milltir (190 km) o hyd ac yn cynnwys twnnel 4 milltir (6.4KM), a Rheilffordd Ynys Hayling. Rhwng 1862 a 1867, roedd yn gyfrifol am y Grand Canal Cavour, sef camlas dyfrhau 54 milltir (87 km) o hyd, a oedd yn golygu ei fod yn ymweld â'r Eidal bob pedwar mis. Defnyddiodd y cyfle a gyflwynodd hyn i ymweld â Fenis sawl gwaith. Ym 1883, adroddodd ar y tri chynllun cystadleuol ar gyfer Camlas Llongau Manceinion,[5] gan ddarganfod o blaid yr un gan Syr Edward Leader Williams. Gweithredodd fel peiriannydd ymgynghori, gan ymweld â'r safle bob mis rhwng 1885 a 1893,[3] tra bod Williams yn Beiriannydd pennaf.[3] Ei gynllun mawr olaf dramor oedd adennill Llyn Aboukir yn yr Aifft, rhwng 1888 a 1889, er bod ei waith doc rheolaidd ym Mhrydain wedi parhau hyd ei farwolaeth, ac roedd gwaith ar Ddoc y Biwt yng Nghaerdydd yn dal i fynd rhagddo pan fu farw. Fe'i cwblhawyd yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Swyddi anrhydeddus

golygu

Daeth yn aelod o Sefydliad y Peirianwyr Sifil ym 1844,[3] Er mai dim ond un papur a gyflwynodd i'r sefydliad, cyfrannodd at y trafodaethau ar ystod eang o bynciau, gwnaed ef hefyd yn gymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin . Ei gynigwyr oedd David Stevenson, Fleeming Jenkin, Syr John Hawkshaw a Michael Scott.[6]

Eisteddodd ar ddau Gomisiwn Brenhinol. Roedd y cyntaf yn ystyried Rhyddhau Carthffosiaeth Ddinesig,[7] ac fe'i cynhaliwyd ym 1882, tra cynhaliwyd yr ail ym 1889, ac edrychodd ar Weithfeydd Cyhoeddus Iwerddon.[8]

Priododd Abernathy ag Ann Neill ym 1838, a bu iddynt saith o blant, pedwar mab a thair merch. Gweithiodd tri o'r meibion gyda'u tad, a ffurfiodd bartneriaeth gyda dau ohonynt, James a George, ym 1893.[3] Bu farw yn Broadstairs yng Nghaint ar 8 Mawrth 1896, ei fab cyntaf James yn cymryd y gwaith peirianneg drosodd a'i ail fab John yn ysgrifennu cofiant iddo ym 1897.[9]

Cyfeiriadau

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Cross-Rudkin, Peter; Chrimes, Mike (2008). Biographical Dictionary of Civil Engineers Vol 2: 1830-1890. Thomas Telford. ISBN 978-0-7277-3504-1.
  • Watson, Garth (1988). The Civils. London: Thomas Telford. ISBN 0-7277-0392-7.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cross-Rudkin & Chrimes 2008, t. 3
  2. 2.0 2.1 2.2 Cross-Rudkin & Chrimes 2008, t. 4
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Cross-Rudkin & Chrimes 2008
  4. "CASNEWYDD - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1878-08-16. Cyrchwyd 2021-02-21.
  5. "THE MANCHESTER SHIP CANAL - The Western Mail". Abel Nadin. 1884-07-16. Cyrchwyd 2021-02-21.
  6. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-02-02. Cyrchwyd 2021-02-21.
  7. "MR ABERNETHY THE GREAT ENGINEER ON DRAINING SWANSEA SEWERS INTO THE BAY - The Cambrian". T. Jenkins. 1893-11-10. Cyrchwyd 2021-02-21.
  8. "IRISH PUBLIC WORKS COMMISSION - Flintshire Observer Mining Journal and General Advertiser for the Counties of Flint Denbigh". James Davies and Edward Jones Davies. 1887-01-13. Cyrchwyd 2021-02-21.
  9. Dictionary of Scottish Architect James Abernethy adalwyd 21 Chwefror 2021

Bywgraffiadau

golygu