Johannes Vermeer

arlunydd o'r Iseldiroedd (1632–1675)
(Ailgyfeiriad o Jan Vermeer)

Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Johannes Vermeer neu Jan Vermeer (31 Hydref 1632 (bedyddiwyd) – 15 Rhagfyr 1675 (claddwyd)), a baentiodd yn yr arddull Baróc. Roedd yn arbenigo mewn golygfeydd o ddydd i ddydd o fewn y cartref. Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Delft. Yn ystod ei fywyd, roedd Vermeer yn beintiwr weddol llwyddiannus o fewn ei dalaith. Nid oedd erioed yn arbennig o gyfoethog, efallai gan na chynhyrchodd nifer fawr o baentiadau. Gadawodd ei wraig a'i un ar ddeg o blant mewn dyled pan fu farw.

Johannes Vermeer
GanwydJohannes Vermeer Edit this on Wikidata
Hydref 1632 Edit this on Wikidata
Delft Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd31 Hydref 1632 Edit this on Wikidata
Bu farw15 Rhagfyr 1675 Edit this on Wikidata
Delft Edit this on Wikidata
Man preswylDelft Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, casglwr celf Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDiana and her Nymphs, The Geographer, The Procuress, The Milkmaid, Christ in the House of Martha and Mary, The Astronomer, A Girl Asleep, Girl with a Pearl Earring, View of Delft Edit this on Wikidata
Arddullpeintio genre, portread Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadCarel Fabritius, Gabriel Metsu, Dirck van Baburen, Leonaert Bramer Edit this on Wikidata
Mudiadpeintio Oes Aur yr Iseldiroedd, paentiadau Baróc Edit this on Wikidata
TadReijnier Janszoon Vermeer Edit this on Wikidata
MamDigna Baltus Edit this on Wikidata
PriodCatharina Bolenes Edit this on Wikidata
llofnod
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Bu bron iddo gael ei anghofio am ddau gan mlynedd hyd i feirniad celf, Thoré Bürger, gyhoeddi traethawd yn 1866, yn priodoli 66 iddo (dim ond 35 o baentiadau sydd wedi eu priodoli i Vermeer yn gadarn). Ers hynny, mae enw Vermeer wedi dod i'r amlwg, a cydnabyddir ef fel un o beintwyr gorau'r Oes Aur Iseldiraidd. Mae'n enwog yn arbennig am ei driniaeth meistrolgar o olau yn ei waith.

Gweithiau gan Johannes Vermeer

golygu

Heddiw priodolir 35 o baentiadau i Vermeer yn gadarn. Dyma'r rhestr:

  1. Crist yn Nhy Mair a Martha (1654–5) - Olew ar gynfas, 160 x 142 cm, Oriel Genedlaethol yr Alban, Caeredin
  2. Diana a'i Chymdeithion (1655–6) - Olew ar gynfas, 98.5 x 105 cm, Mauritshuis, The Hague
  3. Y Buteinfeistres (1656) - Olew ar gynfas, 143 x 130 cm, Gemäldegalerie Alte Meister, Dresden
  4. Merch yn Darllen Llythyr wrth Ffenestr Agored (1657) - Olew ar gynfas, 83 x 64.5 cm, Gemäldegalerie Alte Meister, Dresden
  5. Merch yn Cysgu (1657) - Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
  6. Y Stryd Fechan (1657/8) - Rijksmuseum, Amsterdam
  7. Swyddog gyda Merch yn Chwerthin (tua 1657) - Olew ar gynfas, 50.5 x 46 cm, Frick Collection, Efrog Newydd
  8. Y Forwyn Laeth (tua 1658) - Olew ar gynfas, 45.5 x 41 cm, Rijksmuseum, Amsterdam
  9. Merch yn Yfed, a Bonheddwr (1658–60) - Olew ar gynfas, 39.4 x 44.5 cm,Gemäldegalerie, Berlin
  10. Merch gyda Gwydryn Gwin (tua 1659) - Olew ar gynfas, Herzog Anton-Ulrich-Museum, Braunschweig
  11. Golygfa o Delft (1659–60) - Olew ar gynfas, 98.5 x 117.5 cm, Mauritshuis, Den Haag
  12. Y Wers Gerddoriaeth wedi'i Thorri ar Draws (1660–1) - Olew ar gynfas, 39.4 x 44.5 cm, Frick Collection, Efrog Newydd
  13. Gwraig mewn Glas yn Darllen Llythyr (1663–4) - Olew ar gynfas, 46.6 x 39.1 cm, Rijksmuseum, Amsterdam
  14. Y Wers Gerddoriaeth - Olew ar gynfas, 73,3 x 64,5 cm, Casgliad Gelf Brenhinol, Llundain
  15. Gwraig gyda Liwt (tua 1663) - Olew ar gynfas, 51.4 x 45.7 cm, Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
  16. Gwraig gyda Chadwyn o Berlau (1662–4) - Olew ar gynfas, 55 x 45 cm, Gemäldegalerie, Berlin
  17. Gwraig gyda Phiser Dŵr (1660–2) - Olew ar gynfas, 45,7 x 40,6 cm, Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
  18. Merch yn Dal Clorian (1662–3)[1] - Olew ar gynfas, 42,5 x 38 cm, Oriel Gelf Genedlaethol, Washington
  19. Merch yn Ysgrifennu Llythyr (1665–6) - Olew ar gynfas, 45 x 40 cm, Oriel Gelf Genedlaethol, Washington
  20. Merch gyda Chlustdlws Perlog (tua 1665) - Olew ar gynfas, 46.5 x 40 cm, Mauritshuis, Den Haag
  21. Y Cyngerdd (1665–6) - Olew ar gynfas, 69 x 63 cm, stolen in March 1990 from the Amgueddfa Isabella Stewart Gardner, Boston[2]
  22. Portread o Ferch Ifanc (1666–7) - Olew ar gynfas, 44.5 x 40 cm, Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
  23. The Allegory of Painting or The Art of Painting (1666/67) - Kunsthistorisches Museum, Wien
  24. Meistres a Morwyn (1667/8) - Frick Collection, Efrog Newydd
  25. Merch a Het Goch (1668) - Oriel Gelf Genedlaethol, Washington
  26. Y Seryddwr (1668) - Louvre, Paris
  27. Y Daearyddwr (1668/9) - Städelsches Kunstinstitut, Frankfurt am Main
  28. Y Wneuthurwraig Les (1669/70) - Louvre, Paris
  29. Y llythyr cariad (1669/70) - Rijksmuseum, Amsterdam
  30. Gwraig yn Ysgrifennu Llythyr gyda'i Morwyn (1670) - Olew ar gynfas, 71.1 x 58.4 cm, Oriel Genedlaethol Iwerddon, Dulyn
  31. Alegori o Ffydd (1671–4) - Amgueddfa Gelf y Metropolitan, Efrog Newydd
  32. Y Chwaraewr Gitâr (1672) - Rhodd Iveagh, Tŷ Kenwood, Llundain
  33. Merch yn Sefyll wrth ymyl Firdsinal (1673–5) - Oriel Genedlaethol, Llundain
  34. Merch yn Eistedd wrth Firdsinal (1673–5) - Oriel Genedlaethol, Llundain

Gweithiau o awduraeth ansicr

golygu

Gweithiau ffug

golygu

Peintiwr o'r Iseldiroedd oedd Han van Meegeren, a weithiodd yn y traddodiad clasurol. Penderfynodd baentio gwaith Vermeer ffug i brofi i feirniaid ei fod yn beintiwr da. Yn ddiweddarach, paentiodd rhagor o waith ffug Vermeer ac arlunwyr eraill er mwyn ennill arian. Fe dwyllodd Van Meegeren y sefydliad celf. Ni chymerwyd ef o ddifri tan iddo ddangos ei sgiliau o flaen yr heddlu. Fe ddychrynodd ei ddawn am greu gwaith celf ffug y byd celf, gan achosi i weithiau a'u priodolwyd i Vermeer gael eu hasesu er mwyn ystyried eu dilysrwydd. Wedi datguddiad Van Meegeren yn 1945, fe ddechreuodd nifer o orielau hunan feirniadu a diflannodd nifer o hen feistri o'u waliau. Rhoddir enghreifftiau ym mywgraffiad Van Meegeren, A New Vermeer.

Vermeer mewn gweithiau eraill

golygu

Nodiadau a ffynonellau

golygu

Ffynonellau penodol:

  1. In-depth discussion of "Woman Holding a Balance" Archifwyd 2017-05-07 yn y Peiriant Wayback o wefan Oriel Gelf Genedlaethol
  2. Stolen, rhaglen ddogfen am lladrad Y Cyngerdd, o wefan PBS

Ffynonellau Cyffredin:

  • Libby Sheldon and Nicola Costaros, "Johannes Vermeer’s Young woman seated at a virginal", The Burlington Magazine, Chwefror 2006, rhifyn 1235, pennod CXLVIII.
  • Nobert Schneider, Vermeer (Köln: Benedikt Taschen Verlag, 1993)
  • J. Wadum, "Contours of Vermeer", Vermeer Studies. Studies in the History of Art, 55. Center for Advanced Study in the Visual Arts, Symposium Papers XXXIII, gol. I. Gaskel a M. Jonker (Washington/New Haven, 1998), tud. 201–23.
  • Encyclopædia Britannica Online Archifwyd 2007-12-21 yn y Peiriant Wayback "Vermeer, Johannes" (2007).
  • Frederik H. Kreuger, A New Vermeer, Life and Work of Han van Meegeren (Rijswijk: Quantes, 2007)
  • Arthur K. Wheelock, Jr., Jan Vermeer (London: Thames & Hudson, 1981,1988).

Dolenni allanol

golygu