Yn ein Dwylo

(Ailgyfeiriad o Yn Ein Dwylo)

Drama fuddugol Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 1992 yw Yn ein Dwylo gan Pam Palmer. Roedd Pam wedi dysgu Cymraeg yn lled ddiweddar ac yn byw yn Llandybïe ar y pryd. Llwyfannwyd y ddrama, fel rhan o'r Wobr, gan Arad Goch yn ystod wythnos yr Ŵyl, ac ar daith wedi hynny.

Yn ein Dwylo
Dyddiad cynharaf1992
AwdurPam Palmer
GwladBaner Cymru Cymru
Dyddiad cyhoeddiheb ei chyhoeddi
Cysylltir gydaArad Goch

Disgrifiad byr

golygu

Roedd y ddrama’n ymdrin â’r gwrthdystio yn Lithiwania a arweiniodd at ryddid ac annibyniaeth y wlad honno ym 1990. [1]

Cefndir

golygu

"Ym 1992 Cwmni Theatr Arad Goch oedd yn gyfrifol am gynhyrchu drama fuddugol yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y drefn yn wahanol iawn bryd hynny: cyhoeddwyd yr enillydd tua mis Mawrth cyn yr Eisteddfod er mwyn i’r cwmni gynhyrchu’r ddrama yn barod i’w llwyfannu yn ystod wythnos yr ŵyl ym mis Awst. Roedd llawer mwy o fri a sylw (ac arian cynhyrchu) i’r Fedal Ddrama bryd hynny; byddai cyfarwyddwr neu aelod arall o’r cwmni cynhyrchu yn un o’r beirniaid, a byddai’r cwmnïau theatr Cymraeg yn cymryd eu tro i gynhyrchu’r sgript fuddugol bob blwyddyn – gan sicrhau amrywiaeth o ran arddull llwyfannu a rhoi cyfle i awduron weithio gydag amrywiaeth o gwmnïau, cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ac artistiaid theatr." [1]

Dyma'r cefndir fel a nodwyd yn Rhaglen y cynhyrchiad ym 1992 :

"Gwlad gymharol fechan yw Lithiwania gyda phoblogaeth o 3.7 miliwn. Lithiwaneg yw laith y wlad er bod y brifddinas, Vilnius, yn gartref hetyd i Rwsiaid, Pwyliaid ac Iddewon. Dim ond yn ddiweddar iawn y daeth Lithiwania yn ôl i sylw y byd rhyngwladol—a hynny ar ôl iddi gael ei chuddio o dan faner yr Undeb Sofietaidd ers dros hanner can mlynedd. Ond hen wlad ydyw a fodolai cyn oes Crist; ei hiaith yw un o'r hynaf o'r ieithoedd indo-Ewropeaidd ac mae'n chwaer-iaith i'r Sanscrit.

Dioddefodd y wlad drais a thrychineb rhyfel ers canrifoedd: dan law y Tartar-Mongoliaid, y Tiwtoniaid, Sweden a Gwlad Pwyl. Fe'i meddianwyd gan Rwsia ym 1795. Ar 16 Chwefror 1918, cyhoeddodd Lithiwania ei hannibyniaeth a chydnabyddwyd hyn gan Gynghrair y Cenhedloedd (rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig). Ond ym 1940, yn sgil Cytundeb Molotov-Ribbentrop, meddianwyd y wlad eto gan yr Undeb Sofietaidd. Ym 1990 Lithiwania, o dan arweiniad y blaid genedlaethol - SAJUDIS, oedd y wlad gyntaf yn yr Undeb Sofietaidd i ddatgan annibyniaeth. Yn ystod gwres tanbaid Rhyfel y Ceufor, ymateb cymharol lugoer a gafwyd ar y cyfryngau i drychineb arall a ddigwyddodd yn Lithiwania yr un adeg. Ym 1991, tra yr oeddem yn cael ein bwydo yn feunyddiol gyda dadansoddiadau, ffigyrau a rhagolygon am y 'Gwlff', roedd rhan o fyddin yr Undeb Sofietaidd yn gyrru tanciau drwy Vilnius, prifddinas Lithiwania, gan ladd pobl a geisia'i amddiffyn, heb arfau, eu hawl i annibyniaeth. Daeth pobl gyffredin y wlad, heb arfau, yn eu miloedd i sefyll gyda'r gwŷr arfog Lithiwanaidd ac amgylchynu adeiladau'r Llywodraeth, y tŵr darlledu, yr orsaf radio a'r orsaf deledu. Roedd yr arweinyddiaeth Sofietaidd unai'n methu â rheoli'r fyddin neu'n cefnogi'i hymgyrch tra'n gwadu cyfrifoldeb!!

Yn ôl rhai, grym Lithiwania a'r ddwy wlad arall ar lan môr y Baltic (Estonia a Latvia) oedd un o'r elfennau a arweiniodd at dranc system totalitaraidd yr Undeb Sofietaidd.

Bellach mae Lithiwania—yn wlad fechan annibynnol—yn aelod o'r byd rhyngwladol. Dichon mai gwaith caled fydd sicrhau ei lle priodol ac haeddiannol yn y byd - ond o leiaf mae pobl Lithiwania wedi sicrhau bod dyfodol eu gwlad YN EU DWYLO."[2]

(Ceir hanes y gwledydd Baltic yn yr Ugeinfed Ganrif mewn llyfr or enw 'THE BALTIC NATIONS AND EUROPE - Estonia, Latvia and Lithuania in the Twentieth Century' gan Hiden a Salmon; cyhoeddwyd gan Longman.)[2]

Cymeriadau

golygu

LITHIWANIAID

  • Y Teulu Panavas:
    • Vida - y fam, gweithwraig ffatri
    • Rimantas - ei gŵr, plisman
    • Sarunas - eu mab, milwr
    • Kazimiera - eu merch, darlledwraig radio
  • Merch
  • Meddyg

Y PWYLIAID

    • Wladyslaw - cariad Kazimiera
    • Mam Wladyslaw

Y RWSIAID

  • Y Teulu Antoneyev
    • Serge - milwr gyda'r Capiau Duon—yr uned OMON (Uned Weithredol Arbennig y Fyddin) ac a fagwyd yn Vilnius
    • Anya - ei wraig, yn wreiddiol o Foscow
  • Natalya - ffrind Anya, yn wreiddiol o Foscow
  • Milwr - milwr gyda'r Capiau Duon

LLEISIAU

  • Areithiwr Rwsieg
  • Gwleidydd Lithiwanaidd
  • Darlledwr ar Radio Vilnius
  • Yr Archesgob Steponaviclus - yr Eglwys Gatholig
  • Yr Archesgob Chrizostomas - yr Eg/wys Uniongred

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y ddrama gan Arad Goch yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 1992; cyfarwyddwr Jeremy Turner; cynllunydd Steve Mattison;

"Yn ogystal â llwyfannu’r ddrama fuddugol, bu Jeremy [Turner] yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc i lwyfannu darn o theatr ‘gorfforol delynegol’ gan gyfuno barddoniaeth a gwaith symud haniaethol – rhywbeth newydd i Theatr y Maes ym 1992 – ac yn eithaf prin o hyd!"[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Eisteddfod 1992 – Atgofion Cwmni Theatr Arad Goch". BroAber360. 2020-08-05. Cyrchwyd 2024-09-23.
  2. 2.0 2.1 Turner, Jeremy (1992). Rhaglen y cynhyrchiad o Yn Ein Dwylo.