John Salesbury, Y Rug (1533-1580)

Roedd John Salesbury (1533 - 16 Tachwedd 1580) yn uchelwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd ym 1553, Bwrdeistrefi Dinbych ym 1554 a 1558 a Sir Ddinbych ym 1559[1].

Plasty Rug c.1778; allan o'r gyfrol A Tour in Wales gan Thomas Pennant (1726-1798).
Darlun o Fachymbyd, hefyd allan o'r gyfrol A Tour in Wales gan Thomas Pennant.

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Salesbury tua 1533 yn fab hynaf Robert Salesbury y Rug a Bachymbyd a Catherine merch Siôn ap Madog o Fodfel, Llanor, Sir Gaernarfon. Cafodd ei addysgu yn ysbyty Gray’s Inn

Erbyn 1566 roedd yn briod ag Elizabeth, merch Syr John Salusbury (Siôn y Bodiau). Bu iddynt o leiaf 3 mab gan gynnwys Robert Salesbury AS ac o leiaf 2 ferch[2].

Gyrfa golygu

Er iddo astudio’r gyfraith does dim cofnod ei fod wedi gweithio ym myd y gyfraith, ei brif yrfa oedd bod yn uchelwr ac yn dirfeddiannwr. Cyflwynodd ei dad ystadau'r Rug, Glyndyfrdwy a Dinmael iddo ym 1548, pan nad oedd ond pymtheg oed. Bu farw ei dad dwy flynedd yn niweddarach, ym 1550, pan oedd John yn 17oed ac etifeddodd gweddill ei ystadau. Yn y cyfnod hwn ystyriwyd bod plentyn yn dod yn oedolyn yn 21in oed. Byddai pobl ifanc amddifad cefnog yn cael eu gwneud yn ward y llys a byddai'r llys yn pennu gwarcheidwad i edrych ar ôl ei fuddiannau hyd iddo ddyfod yn oedolyn. Ym 1554 pennodd y llys Phillip Mainwairing yn warcheidwad ar fuddiannau Salesbury, cyn sylwi ei fod bellach wedi troi’n 21. Pan oedd ward y llys yn troi’n 21 disgwyliwyd iddo ‘erlyn ei lifrau’ (mynd ar ôl ei hawliau), trwy fynd o flaen y llys i dalu ffi i’w rhyddhau o’i warchodaeth a derbyn buddiannau a chyfrifoldebau ei ystâd. Roedd peidio ag erlyn lifrau yn drosedd. Gwysiwyd Salesbury i ymddangos o flaen Cyngor Cymru a'r Gororau i ateb am ei drosedd. Derbyniodd y cyngor mae camgymeriad nid bwriad troseddol oedd yn gyfrifol am ei fethiant. Cafodd ryddhad ar yr amod ei fod yn talu’r ffi ac yn talu’r dyledion i’r goron a adawyd gan ei dad ar adeg ei farwolaeth. Methodd i dalu’r dyledion ac fe wysiwyd yn ôl i’r cyngor sawl gwaith i egluro pam, ac ni ryddhawyd ei lifrau hyd 22 Chwefror 1557 pan oedd bron yn 24 mlwydd oed[1].

Gyrfa Wleidyddol golygu

Cafodd Salesbury ei ethol i’r Senedd am y tro cyntaf ym 1553, fel AS Meirionnydd[3], yn ŵr ifanc 20 oed, o dan nawdd William Herbert, iarll cyntaf Penfro. Cafodd ei ddychwelyd dros Fwrdeistrefi Dinbych ym 1554 o dan ddylanwad ei deulu ac eto ym 1558 o dan nawdd Penfro. Ym 1559 cafodd ei ethol dros Sir Ddinbych.

Mari Tudur oedd Brenhines Lloegr rhwng 1553 pan etholwyd Salesbury am y tro cyntaf a 1558 pan etholwyd ef am y tro olaf. Gan ei fod yn Babydd, fel y frenhines, roedd ei ffydd yn fanteisiol iddo wrth dderbyn swyddi cyhoeddus. Wedi i’r Protestant Elizabeth I dod i’w orsedd bu Salesbury yn parhau i dderbyn swyddi cyhoeddus er gwaethaf ei ffydd. Ym 1571 safodd eto fel ymgeisydd ym Meirionydd ond fe’i trechwyd gan Hugh Owen, mab y Barwn Lewys ab Owain.

Gyrfa gyhoeddus amgen golygu

Gwasanaethodd Salesbury fel:

Marwolaeth golygu

Bu farw 16 Tachwedd 1580 yn 47 mlwydd oed. Ail briododd ei wraig a Syr Henry Jones, Abermarlais, AS Sir Gaerfyrddin.

Cyfeiriadau golygu

Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Lewys ab Owain
Aelod Seneddol Meirionnydd
15531553
Olynydd:
Lewys ab Owain
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Simon Thelwall
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych
15541554
Olynydd:
Fulk Lloyd
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
John Evans
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych
15581558
Olynydd:
Simon Thelwall I
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Syr John Salusbury
Aelod Seneddol Sir Ddinbych
15591559
Olynydd:
Simon Thelwall I