Lewis William

yr hynotaf o athrawon ysgolion cylchynol Charles o'r Bala

Roedd Lewis William[1] (177414 Awst, 1862) yn athro ysgolion cylchynol ac yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Lewis William
Ganwyd1774 Edit this on Wikidata
Pennal Edit this on Wikidata
Bu farw14 Awst 1862 Edit this on Wikidata
Llanfachreth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathro, crydd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Lewis William yn y Gwastadgoed, Pennal, Sir Feirionnydd yn blentyn i William a Susana Jones  ei wraig. Pan oedd Lewis William tua dwy flwydd oed symudodd y teulu i Aberdyfi ac yna blwyddyn y niweddarach i Dywyn. Bu farw ei dad pan oedd Lewis yn bedair. Cafodd Lewis fagwraeth mewn tlodi enbyd, gyda'i fam yn aml yn gorfod dibynnu ar daliadau o'r plwyf.

Gyrfa filwrol

golygu

Yn ôl cofiannau iddo gan Robert Owen Pennal[2] a Robert Oliver Rees[3] ymunodd Lewis William a Milisia Sir Feirionnydd pan oedd yn 16 oed. Mae'n debyg mai ymaelodi a Milisia Tywyn wnaeth gan na ffurfiwyd milisia sirol ym Meirion hyd 1803.[4] Roedd Milisia Tywyn yn Filisia rhan amser. Roedd y milwyr yn derbyn cyflog am ddyddiau hyfforddi a dyddiau milwrol gweithredol (yn bennaf i reoli terfysgoedd bwyd lluosog y 1790au) yn unig gan weithio fel sifiliaid pan nad oeddynt ar ddyletswydd. Yn ystod ei gyfnod yn y Milisia bu Lewis yn hyfforddi yn Nyfnaint, Cernyw ac ar Ynys Wyth.

Ym 1808 trowyd Milisia Sir Feirionnydd yn fyddin gyflogedig llawn amser. Oherwydd bod Owen a Rees yn gyfarwydd â'r milisia cyflogedig mae eu llinell amser am fywyd Lewis fel milwr a sifiliad rhwng 1790 a 1801 yn ddryslyd. Maent yn awgrymu bod ei fywyd sifil a milwrol fel gŵr ifanc yn olynol yn hytrach na phethau oedd yn digwydd ar y cyd.

Tua 1792 dechreuodd Lewis William prentisiaeth i hyfforddi i fod yn grydd yng Nghemaes, Sir Drefaldwyn.[5] Tra yng Nghemaes cafodd tröedigaeth efengylaidd o dan weinidogaeth (y Parch wedyn) William Jones, Mathafarn.[6] Ymunodd a'r Eglwys Fethodistaidd yng Nghwm-Llinau.[7]

Wedi gorffen ei brentisiaeth yng Nghemaes bu Lewis William yn gweithio fel gwas ffarm yn Aberdyfi a Llanegryn.

Ym 1801, ar ddechrau'r trafodaethau a arweiniodd at gytundeb Amiens (1802)[8] i drefnu heddwch rhwng Prydain a Ffrainc cafodd Milisia Tywyn ei dadfyddino,[4] a chafodd Lewis ei ryddhau o'i ddyletswyddau milwrol.

Wrth hyfforddi gyda'r Milisia yn y Bala, clywodd Lewis William bod tad un o'i uwch swyddogion, yr Is-gapten Thomas R Charles, wedi dechrau ffurfio ysgolion dyddiol ac ysgolion Sul er mwyn dysgu'r werin sut i ddarllen ac ysgrifennu. Roedd Lewis William ei hun yn gwbl anllythrennog, fel y rhan fwyaf o'i gydnabod yn Llanegryn. Gan nad oedd ysgol dydd na Sul yn Llanegryn, a gan fod yr angen amdanynt y pwyso ar ei feddwl penderfynodd sefydlu ysgolion ei hun![9]

Cafodd hyd i chwaer grefyddol, Beti Ifan, oedd yn gallu darllen ac ysgrifennu yn lled dda, i roi gwersi iddo ef. Y diwrnod nesaf byddai'n ail bobi'r hyn a dysgodd i ddisgyblion ei ysgol gan ddefnyddio'r dull o dril milwrol, a defnyddiwyd i'w ddysgu rheolau milwrol iddo ef, i ddysgu llythrennedd iddynt hwy. Wedi dysgu'r Abiéc ei hun, gosododd hi i dôn "Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech" a chael ei ddisgyblion i'w canu wrth fartsio, degawdau cyn i ganu'r wyddor cael ei dderbyn fel ffordd arferol o'i ddysgu. Trefnodd cystadlaethau i ddisgyblion yr ysgol ramadeg lleol ar "sut i ddysgu" gyda'r "wobr" o'r hawl i roi gwers i'w ddisgyblion ef i'r enillwyr.[10]

Ym 1785, cyflwynodd y Parch Thomas Charles[11] o'r Bala'r syniad newydd o Loegr o gynnal Ysgolion Sul i Gymru i ddysgu plant ac oedolion sut i ddarllen y Beibl. Er mwyn sicrhau cyflenwad da o athrawon i'r Ysgolion Sul atgyfododd syniad Griffith Jones o Ysgolion Cylchynol dyddiol i ddysgu darllen, ysgrifennu a rhifyddeg, gan gyflogi dynion i fod yn athrawon ar yr ysgolion. Ym 1799 bu Charles yn lletya gyda John Jones, Penyparc, Bryncrug, wrth fynychu cyfarfod chwarter Methodistiaid Meirionnydd yn Abergynolwyn. Roedd John Jones, Penyparc yn ŵr man fonheddig oedd yn cadw ysgol Sul ac ysgol ddyddiol Fethodistaidd yn ei blasty. Mewn ymddiddan am bwnc yr ysgolion gofynnodd Charles i Jones os oedd yn gwybod am ddyn ifanc addawol galliasai ddod yn un o'i athrawon. Soniodd Jones wrtho am y llanc  o Lanegryn oedd yn llafurus iawn wrth ddysgu plant yr ardal, er nad oedd yn gallu darllen ei hun. Gan fethu coelio'r fath stori, gwysiodd Charles Lewis William i gyfarfod ac ef yn Abergynolwyn ar ddiwedd y cyfarfod chwarter. Wedi dotio ar frwdfrydedd Lewis, talodd Charles iddo gael tri mis o hyfforddiant dwys gan John Jones gydag addewid swydd fel athro pe bai yn llwyddiannus dan hyfforddiant.

Wedi gorffen ei hyfforddiant bu Lewis yn athro cylchynol am y chwarter canrif nesaf. Bu yn cadw ysgol am ychydig fisoedd mewn un pentref yn ardaloedd Tywyn a Dolgellau, cyn symud ymlaen i'r nesaf. Dysgodd cannoedd ar gannoedd o blant. Ymysg ei ddisgyblion oedd Y Parch Roger Edwards[12], Yr Wyddgrug, golygydd y Drysorfa a chylchgronau eraill. Tra bu yn cadw ysgol yn Abergynolwyn, daeth un o'i ddisgyblion, Mari Jones,[13] i amlygrwydd trwy gerdded yn droednoeth o'i chartref yn Llanfihangel y Pennant yr holl ffordd i'r Bala i ymofyn Beibl gan Thomas Charles.

Yr Ysgol Sul

golygu

Yn ogystal â dysgu yn yr ysgolion dyddiol bu William Lewis hefyd yn hynod o weithgar wrth sefydlu ysgolion Sul, er mwyn i'w disgyblion parhau gyda'u haddysg ar ôl i'r ysgol gylchynol symud i fan arall. Yn y cyfnod pan ddechreuodd Lewis godi ysgolion Sul roedd yn wynebu llawer o wrthwynebiad gan aelodau'r capeli. Roedd yr enwadau anghydffurfiol yn credu'n gryf mewn cadw'r Saboth (Dydd Sul) yn ddiwrnod sanctaidd ar gyfer addoliad yn unig. Ni chaniatawyd gwneud unrhyw fath o waith; gwaith cyflog, gwaith tŷ na gwaith ffarm ar y Sul.[14] Roedd rhai o selogion y capeli yn gweld cynnal ysgol, hyd yn oed i ddysgu darllen y Beibl, yn waith oedd yn torri'r Saboth. Er mwyn ceisio rhwystro Lewis rhag cynnal Ysgol Sul yn Nolgellau, penderfynodd blaenoriaid y Methodistaidd i gynnal gwasanaethau trwy'r dydd yn y capel gan gychwyn am 6 y bore. Ymateb Lewis William oedd cynnal ysgol am 4 o'r gloch. Deuai rhwng 60 ac 80 o blant i'r ysgol Sul, er gwaethaf ei gynnal mor blygeiniol. Yn y pen draw llwyddodd William Lewis a'i gefnogwyr i sefydlu ysgolion Sul ym mhob un o gapeli'r Methodistiaid yn ne Meirionnydd.

Dechreuodd William Lewis pregethu ym 1807 a chafodd ei dderbyn i'r weinidogaeth ym 1815.

Ym 1824 ymsefydlodd Lewis Williams yn barhaol yn Llanfachreth, yn wreiddiol i fod yn ofalwyr y tŷ capel ac yn westai i bregethwyr oedd yn ymweld â'r capel. Gan nad oedd bod yn ofalwr yn talu llawer penderfynodd Lewis a'i wraig ategu at eu hincwm trwy gadw siop.

Ym 1819 priododd Lewis ag Ann Williams, Dolgellau. Ni fu iddynt blant

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn nhŷ capel Llanfachreth yn 88 mlwydd oed,[15] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent ymneilltuol y pentref. Gosodwyd cofgolofn ar ei fedd wedi ei dalu gan gasgliad ymysg ysgolion Sul Dosbarth Dolgellau

Cyfeiriadau

golygu
  1. "WILLIAM(S), LEWIS (1774 - 1862), yr hynotaf o athrawon ysgolion cylchynol Charles o'r Bala | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-04-21.
  2. Owen, Robert (1898). "Y Parch Lewis William, Llanfachreth I" . Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala. Dolgellau: E. W. Evans.
  3. Rees, Robert Oliver (1873). "Athraw Ysgol Ddyddiol Abergynolwyn" . Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl. Wrecsam: Hughes a'i Fab.
  4. 4.0 4.1 Owen, Hugh J. (1934). Merioneth Volunteers and Local Militia During the Napoleonic Wars. Dolgellau: Swyddfa'r Dydd.
  5. Roberts, Evan (Ionawr 1899). "Lewis William, Llanfachreth". Y Lladmerydd Cyf. XV rhif. 169: 1-6. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2550540/2578429/2#?xywh=-1141%2C342%2C4293%2C2755.
  6. JONES, WILLIAM (1770 - 1837), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 20 Ebr 2023
  7. Evans, E (Medi 1907). "Ymgom Y Ddau Fethodist. Rhan IV.". Seren yr Ysgol Sul Cyf. 13 rhif. 153: 236. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2104777/2734519/11.
  8. "Napoleonic Wars - The Treaty of Amiens | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-21.
  9. Owen, Robert (1889). "Lewis William yn Llanegryn" . Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I. Dolgellau: E. W. Evans. tt. 323–326.
  10. Thomas (Idriswyn), Edward (1903). "Ysgol Sul Ryfeddaf Cymru". Cymru 24: 143-148. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1358207/148#?xywh=-231%2C271%2C3365%2C2159.
  11. "CHARLES, THOMAS ('Charles o'r Bala'; 1755 - 1814) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-04-21.
  12. "EDWARDS, ROGER (1811 - 1886), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, awdur, a golygydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-04-21.
  13. "Jones [married name Lewis], Mary (1784–1866), exemplar of godly life". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/70976. Cyrchwyd 2023-04-21.
  14. Eleias, John (1804). Traethawd ar y Sabbath ... Y'nghyd ag amryw annogaethau a chyfarwyddiadau i'w sancteiddio ef. Bala: S Charles.
  15. Owen, Robert (1889). "Llanfachreth" . Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I. Dolgellau: E. W. Evans. tt. 434–439.