Siôn Brwynog

bardd

Bardd llys Cymraeg o Ynys Môn oedd Siôn Brwynog (15101562). Roedd yn frodor o drefgordd Llanfflewin ym mhlwyf Llanrhuddlad. Roedd y cerddor, bardd a hynafiaethydd Robert ap Huw (1580-1665) o blwyf Llanddeusant, Môn, yn ŵyr iddo.

Siôn Brwynog
FfugenwSiôn Brwynog Edit this on Wikidata
Ganwyd1510 Edit this on Wikidata
Bu farw1562 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywyd a gwaith golygu

Cedwir ar glawr sawl cerdd ganddo i uchelwyr ymhob cwr o ogledd Cymru, yn cynnwys teulu plas Bodychen ym Môn.[1] Canu mawl traddodiadol yw trwch ei gerddi. Yng nghyfnod y Diwygiad Protestannaidd amlygodd ei sêl dros "yr Hen Ffydd" trwy ymosod ar y Brotestaniaeth newydd a cheir cywydd ganddo 'I'r Ddwy Ffydd' sy'n dychanu Protestaniaeth ac yn clodfori Catholigiaeth.[2]

Ceir tystiolaeth nad oedd pob bardd llys yn derbyn fod crych a llyfn yn un o feiau gwaharddedig Cerdd Dafod. Yn ei gopi o ramadeg y beirdd mae Siôn Brwynog yn dadlau "nad oedd ef yn fai, ac y gellid ei ganu a'i warantu yn ddifai".[3]

Bu farw yn 1562. Canodd Wiliam Llŷn farwnad iddo.[4]

Llyfryddiaeth golygu

Ceir testunau rhai o gerddi Siôn Brwynog yn Llawysgrifau Llansteffan.

Cyfeiriadau golygu

  1. Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986), tud. 44.
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  3. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995), rhagymadrodd, tud. xxxiv.
  4. Barddoniaeth Wiliam Llŷn a'i eirlyfr, gyda nodiadau gan y Parch. J. C. Morrice (Bangor: Jarvis a Foster, 1908).



  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.