Lolasana (Y Tlws Crog)

asana cydbwysedd, safle o fewn i ioga

Asana, neu osgo mewn ymarferion ioga yw lolasana (Sansgrit: लोलासन; IAST: Lolasana) neu'r Tlws Crog.

Lolasana
Math o gyfrwngasana Edit this on Wikidata
Mathasanas cydbwyso Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana cydbwyso ydyw, lle cynhelir holl bwysau'r corff ar y dwylo, yr arddyrnau a'r dwylo.. Caiff ei defnyddio o fewn ymarferion ioga modern fel ymarfer corff. Ystyr 'y tlws crog' yw 'tlws neu emwaith sy'n hongian' (crog = crogi).

Geirdarddiad

golygu
 
Ffotograff o'r tu blaen

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit Lol (लोल, Lola) sy'n golygu "crynu", neu "hongian" ac Asana (आसन, Āsana) sy'n golygu "ystum corfforol" neu "siap y corff".[1]

Nid yw'r ystum yn hysbys mewn ioga hatha tan yr 20g pan gyhoeddwyd Light on Yoga, ond mae'r ystum yn ymddangos yn Vyayama Dipika 1896, llawlyfr gymnasteg, fel ymarfer cydbwyso a elwir yn jhula. Mae Norman Sjoman yn awgrymu ei fod yn un o'r ystumiau a fabwysiadwyd gan ioga modern yn Mysore gan Krishnamacharya. Yna i'w ddisgyblion Pattabhi Jois a BKS Iyengar gymryd yr asana'n rhan o'u hymarferion nhw.[2]

Amrywiadau

golygu

Mae amrywiadau uwch yn cynnwys:

Gall dechreuwyr ddechrau gyda Navasana (Y Cwch).

Asanas dilynol

golygu

Ymhlith yr asanas dilynol posibl y mae Adho Mukha Svanasana (Ci ar i Lawr) a Chaturanga Dandasana (Ffon Pedair Cangen).

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Thorsons. ISBN 978-1855381667.
  • Saraswati, Swami Satyananda (1 Awst 2003). Asana Pranayama Mudra Bandha. Nesma Books India. ISBN 978-81-86336-14-4.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  2. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 55, 100–101. ISBN 81-7017-389-2.