Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana
Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana neu (Albaneg: Aeroporti Ndërkombëtar i Tiranës Nënë Tereza, Saesneg: Tirana International Airport Nënë Tereza; côd ryngwladol IATA: TIA, ICAO: LATI), a elwir yn gyffredin yn Faes Awyr Rinas, yw prif awyrfa ryngwladol Albania.
Math | maes awyr rhyngwladol, maes awyr, erodrom traffig masnachol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tirana, Y Fam Teresa |
Agoriad swyddogol | 1957 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Tirana, Sir Durrës, Krujë Municipality, Kamëz |
Gwlad | Albania |
Uwch y môr | 38 metr |
Cyfesurynnau | 41.4147°N 19.7206°E |
Nifer y teithwyr | 7,257,634 |
Enwyd yr awyrfa ar ôl Y Fam Teresa yn 2002. Roedd hi'n leian a chenhades Catholig yn yr India. Lleolir y maesawyr ym mhentref Rinas sydd 11 km i'r gogledd orllewin o brifddinas Albania, Tirana.
Mae'r maes awyr yn un o'r rhai prysuraf yn y Balcan gan ddygymod gyda 2.6 teithiwr yn 2017. Dinasoedd eraill Ewrop yw ei phrif gyrchfannau. Mae'n gweithredu fel canolfan ar gyfer y cwmni hedfan domestig, Albawings a fel 'focus city' ar gyfer Adria Airways, Blue Panorama Airlines ac Ernest Airlines.[1]
Hanes
golyguRoedd gan Albani wasanaeth hedfan fasnachol ryngwladol cyn yr Ail Ryfel Byd pan oedd awyr domestig Iwgoslafia, Aeroput yn gweithredu hediadau cyson rhwng Belgrâd a Tirana a glaniad yn Dubrovnik. Adeiladwyd y maes awyr ar y safle yn Rinas rhwng 1955 a 1957. Gyda cwymp Comiwnyddiaeth yn 1991 a'r rhyddhau'r farchnad a ddaeth yn sgîl hynny, gwelwyd cynnydd sydyn yn nifer y cwmniau hedfan oedd yn defnyddio'r awyrfa.
Cyfredol
golyguMae offer y maes awyr wedi'i foderneiddio'n sylweddol, yn dilyn buddsoddiad gan gonsortiwm Tirana International Airport SHPK, a gymerodd reolaeth dros y maes awyr ar 23 Ebrill 2005, ar ôl ennill consesiwn am gyfnod o ugain mlynedd. Mae'r contract consesiwn yn golygu adeiladu terfynell deithwyr hollol newydd a gwahanol welliannau i'r seilwaith, gan gynnwys adeiladu llwybr mynediad newydd. Bydd y gwaith newydd yn gwella'r gwasanaethau a gynigir i deithwyr yn sylweddol. Fodd bynnag, nid oes gan y maes awyr bontydd glanio sy'n caniatáu i deithwyr drothwyo (board) ac dad-drothwyo awyren heb orfod gadael y terfynell. Gyda'r gwelliannau hyn, bydd gan y maes awyr y gallu i ddelio gyda traffig teithwyr Albania am y 10-15 mlynedd nesaf.
Cyrraedd y Maes Awyr
golyguCar Cysylltir y maes awyr gan draffordd SH60 (10 km i ffwrdd) i ffordd fynedfa SH2 Durres -Tirana. Ceir gwasnaethau tacsi a llogi car yn yr awyrfa. Mae siwrne o Tirana i'r awyrfa yn cymryd oddeutu 20-25 munud (yn ddibynnol ar y traffig).
Bws Mae bws awyrfa, Rinas Express, wedi ei lleoli y tu allan i derfynnell 'cyrraedd' ac yn gadael ar yr awr bob awr (8.00am - 7.00pm) am ganol dinas Tirana. Hyd y daith yw oddeutu 25 - 30 munud. Mae'r Rinas Express yn gwasanaethau 12 awr (6.00am i 6.00pm) fel gwasanaeth rhwng y maes awyr a'r Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol dinas Tirana. Cost tocyn un ffordd yw 250 Lek. O ddinas Durres, pris tocyn sengl yw 480 Albanian Lek
Traffig
golyguBlwyddyn | Teithwyr | Newid | Cwmmni Awyren | Newid | Cargo (metric tons) |
Newid |
---|---|---|---|---|---|---|
2005 | 785,000 | 20.77% | 15,400 | N.A. | N.A. | N.A. |
2006 | 906,103 | 15.43% | 15,856 | 2.96% | 2,435 | N.A. |
2007 | 1,105,770 | 22.04% | 18,258 | 15.15% | 3,832 | 57.37% |
2008 | 1,267,041 | 14.58% | 19,194 | 5.13% | 2,497 | 34.84% |
2009 | 1,394,688 | 10.07% | 20,064 | 4.53% | 2,265 | 9.29% |
2010 | 1,536,822 | 10.19% | 20,768 | 3.51% | 2,355 | 3.97% |
2011 | 1,817,073 | 18.24% | 22,988 | 10.69% | 2,656 | 12.78% |
2012 | 1,665,331 | 8.35% | 20,528 | 10.70% | 1,875 | 29.41% |
2013 | 1,757,342 | 5.53% | 19,942 | 2.85% | 2,164 | 15.41% |
2014 | 1,810,305 | 3.02% | 17,928 | 3.02% | 2,324 | 13.53% |
2015 | 1,997,044 | 10.3% | 20,876 | 16.4% | 2,229 | 4.1%[2] |
2016 | 2,195,100 | 11.3% | 22,352 | 7.1% | 2,200 | 1%[3] |
2017 | 2,630,338 | 19.8% | 24,336 | 9% | 2,266 | 3%[4] |
2018 (01.01 - 28.02) | 368,706 | 11.0% | 3606 | 6.9% | 349 | 7.7%[5] |
Llwybrau Prysuraf
golyguRank | Cyrchfan | Maes/Meysydd awyr | Nifer y Teithwyr 2017[6] | Prif carriers |
---|---|---|---|---|
1 | Milan | MXP, BGY | 390.735 | Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines |
2 | Rhufain | FCO | 323.322 | Alitalia, Blue Panorama Airlines |
3 | Istanbul | IST, SAW | 235.286 | Pegasus Airlines, Turkish Airlines |
4 | Vienna | VIE | 174.363 | Austrian Airlines |
5 | Pisa | PSA | 123.005 | Albawings, Ernest Airlines |
6 | Verona | VRN | 118.646 | Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines, Volotea |
7 | Bologna | BLQ | 116.158 | Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines |
8 | London | LGW, STN | 96.865 | Albawings, British Airways, Small Planet Airlines |
9 | Frankfurt | FRA | 90.286 | Adria Airways, Lufthansa |
10 | Athen | ATH | 84.860 | Aegean Airlines |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Local-based carrier Albawings continues to grow successfully in the market - Tirana International Airport". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-12. Cyrchwyd 21 February 2017.
- ↑ name="tirana-airport.com"
- ↑ http://www.tirana-airport.com/l/7/53/company-information/facts-figures/[dolen farw]
- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-08-07. Cyrchwyd 2018-04-16.
- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-04-06. Cyrchwyd 2018-04-16.
- ↑ "Market Statistics - Tirana International Airport". 23 February 2018.[dolen farw]