Maint Cymru (elusen)

Elusen ymladd newid hinsawdd a thros arbed coedwigoedd trofannol ac ailgoedwigo

Sefydlwyd elusen ailgoedwigo Maint Cymru yn 2010.[1] Enw'r elusen yn y Saesneg, yw Size of Wales. Mae'n gweithio gyda phobl frodorol a phobl leol ar draws y byd i dyfu coed a diogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol – ardal o faint Cymru.[2] Mae'r elusen yn canolbwyntio ar hyrwyddo cadwraeth fforestydd glaw fel ymateb cenedlaethol i fater byd-eang newid hinsawdd. Mae pencadlys y cordd yn y Deml Heddwch yng Nghanolfan Ddinesig Caerdydd. Cyfarwyddwr Maint Cymru yn 2023 yw Nicola Pulman.

Maint Cymru
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Cefn gwlad Mbale, Wganda, ardal lle mae Maint Cymru'n gweithio'n agos oherwydd effeithiau datgoedwigo

Yr enw golygu

Mae'r enw yn Saesneg yn arbennig, yn chwarae ar y ffordd y mae Cymru'n aml yn cael ei ddefnyddio fel uned fesur ar gyfer tiriogaeth ac yn enwedig tiriogaeth a chynefinoedd naturiol sy'n cael eu dinistro. Mae hyn yn rannol gan bod maint Cymru yn adnabyddus a dealladwy fel cysyniad i siaradwyr Saesneg Prydain a bod tiriogaeth Cymru hefyd yn faint hawdd ei fesur - 20,000km sgwár.[3]

Egwyddorion a Chennad Maint Cymru golygu

 
Lleoliad Ardal Mbale yn Wganda

Mae'r elusen yn gweithio gyda phobl frodorol a phobl leol ar draws y byd i dyfu coed a diogelu o leiaf 2 filiwn hectr o goedwigoedd trofannnol – ardal o faint Cymru.

Maent hefyd yn ceisio hybu pobl Cymru i gydnabod y rôl hollbwysig mae cymunedau brodorol yn ei chwarae mewn amddiffyn yr hinsawdd, bioamrywiaeth, a bywoliaethau.

Maent yn ymgyrchu i sbarduno newid mewn polisi, a galw ar Gymru i ddod yn 'Genedl Dim Datgoedwigo' gyntaf y byd.[4]

Yn ôl eu gwefan, mae Maint Cymrum mae ei gwaith yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (2015) ac ymrwymiadau rhyngwladol i gyfreithiau a safonau hawliau dynol.[5]

Ymgyrch Cymru - Cenedl Dim Datgoedwigo golygu

Yn 2020, ymunodd Maint Cymru â WWF Cymru ac RSPB Cymru i alw am Gymru i ddod yn Genedl Dim Datgoedwigo.

Golyga hyn ymgyrchu yn erbyn coedwigoedd (tramor fel rheol) sy'n cael eu torri a cholli er mwyn adeiladu tai neu ar gyfer plannu cnydau masnachol yn unig i'w gwerthu dramor. Defnyddia'r elusen yr enghraifft bod Cymru yn bwyta ac yn defnyddio llawer o gynnyrch sy’n dod o ranbarthau trofannol, fel cig eidion o Dde America, soia (rydyn ni’n ei fwydo i’r anifeiliaid rydyn ni’n eu bwyta), olew palmwydd, cneuen goffi, siocled, pren, papur a mwydion coed. Noda'r mudiad bod dros 50% o gynnyrch bwyd wedi’u pecynnu yn cynnwys olew palmwydd.[6]

Perthynas â Mbale, Wganda golygu

Mae gan y corff berthynas arbennig gydag ardal Mbale yn Wganda. Mae hyn yn cydfynd â'r berthynas a ddatblygwyd drwy Lywodraeth Cymru. Mae Mbale yn ardal fryniog fawr sydd wedi cael ei datgoedwigo’n drwm, yn bennaf oherwydd ehangu amaethyddiaeth; galw cynyddol am goed tanwydd a siarcol; a mesurau diogelu cyfreithiol gwan a gorfodi cyfreithiau diogelu coedwigoedd.[7]

Ym mis Tachwedd 2022 cyhoeddwyd bod Maint Cymru, mewn cydweithrediad â phartneriaid Tyfu Coed Mount Elgon (METGE) yn Wganda, "targed o fewn cyrraedd Cymru wrth i goeden rhif 20 miliwn gael ei phlannu yn Uganda". Nod Rhaglen Coed Mbale - a sefydlwyd gan fenter hirsefydlog Cymru ac Affrica - yw plannu 25 miliwn o goed erbyn 2025 mewn ardal fryniog, wedi'i datgoedwigo'n drwm yn nwyrain Wganda mewn ymgais i alluogi cymunedau i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd. Mae'r rhaglen, sy'n anelu at blannu dros 3 miliwn o goed y flwyddyn, yn helpu cymunedau sy'n byw ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd i addasu a gwella eu bywoliaeth.

Mae dros 100 o staff wedi cael eu recriwtio ac mae 50 o feithrinfeydd coed dan arweiniad cymunedau wedi cael eu creu.[8]

Prosiectau golygu

 
Pobl Ogiek Cenia - pobl bu Maint Cymru yn gweithio gyda - yn lleoli eu gwybodaeth ofodol draddodiadol ar Fodel 3D Cyfranogol
  • 10 Miliwn o Goed: Nod y prosiect plannu coed hwn yn Wganda yw plannu 10 miliwn o goed yn ardal Mbale sydd wedi’i datgoedwigo’n drwm.
  • Cymunedau'n Cefnogi Gorilod a Choedwigoedd, mewn partneriaeth â Fauna & Flora International: Mae'r prosiect hwn yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn cefnogi creu dwy warchodfa a arweinir gan y gymuned mewn rhan o goedwig law ail fwyaf y byd.
  • Hawliau Tir Wapichan, mewn partneriaeth â Forest Peoples Programme: Nod y prosiect hwn yw cynorthwyo pobl Wapichan Guyana i ddiogelu a diogelu tiriogaeth eu hynafiaid yn gyfreithiol a chynnal eu coedwig draddodiadol.
  • Diogelu Coedwigoedd Arfordirol Cenia, mewn partneriaeth â WWF.
  • Sicrhau tiroedd hynafiaid Ogiek, coedwigoedd a bywoliaethau cynhenid, mewn partneriaeth â Forest Peoples Programme: Nod y prosiect hwn yw helpu pobl frodorol Ogiek Mynydd Elgon yn Kenya i ennill hawliau cyfreithiol ar gyfer eu tiroedd. Yn 2000 cafodd yr Ogiek eu troi allan o'u tiroedd yn enw 'cadwraeth'. Mae'r achosion hyn o droi allan yn caniatáu i Wasanaeth Coedwig Kenya (KFS) reoli'r tiroedd a'r coedwigoedd hyn. Mewn gwirionedd, mae KFS yn derbyn taliadau gan ffermwyr i fynd i mewn i goedwig gynhenid, ei thorri i lawr, a'i diraddio'n ddifrifol. Mae'r Ogiek wedi dangos pan fydd y gymuned frodorol yn rheoli'r tir, mae datgoedwigo'n lleihau fel y mae llosgi siarcol a photsio eliffantod.
  • Sicrhau tiriogaeth Wampís, mewn partneriaeth â Forest Peoples Programme: Nod y prosiect nid yn unig yw cynorthwyo cymuned frodorol Wampís ym Mheriw i sicrhau hawliau cyfreithiol i diroedd eu hynafiaid ond hefyd i ennill cydnabyddiaeth gyfreithiol o'u hawliau fel hunaniaeth gyfunol ym Mheriw. ac yn rhyngwladol.
  • Gwarchod Parc Cenedlaethol Conkouati-Douli (CDNP), mewn partneriaeth â WCS: CDNP yw'r parc mwyaf ecolegol amrywiol yng Ngweriniaeth y Congo, sy'n ymestyn o arfordir yr Iwerydd i fynyddoedd mewndirol a safana.
  • Kariba REDD+, mewn partneriaeth â South Pole Group: Mae'r prosiect hwn wedi'i leoli yn Llyn Kariba, gogledd Zimbabwe. Nod y prosiect yw sefydlu ardal rheoli bywyd gwyllt o safon fyd-eang o fewn y Coridor Gwyrdd Zambezi (GZA) arfaethedig i warchod bywyd gwyllt, tir a hunan-rymuso'r bobl leol gyda chyfleoedd busnes i dyddynwyr.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Prince launching 'Size of Wales' project in Llanarthne". BBC Wales News. 7 Medi 2010.
  2. "Am Maint Cymru". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
  3. "https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-46737277". BBC Wales News. 22 Ionawr 2019. External link in |title= (help)
  4. "Am Maint Cymru". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 23 Awst 2023.
  5. "Ein Hegwyddorion Canllaw". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 23 Awst 2023.
  6. "Ysgolion Dim Datgoedwigo". Cyrchwyd 23 Awst 2023.
  7. "Uganda Rhaglen Coed Mbale". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 23 Awst 2023.
  8. "Targed o fewn cyrraedd Cymru wrth i goeden rhif 20 miliwn gael ei phlannu yn Uganda". Llywodraeth Cymru. 9 Tachwedd 2022.

Dolenni allanol golygu


Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato