Ailgoedwigo
Plannu coed gyda'r nod o sefydlu coedwig yw ailgoedwigo neu ailfforestu[1][2] neu goedwigo. Mewn achosion lle na fu coedwig erioed (ar raddfa ddynol) neu lle na fu un ers amser maith, rydym yn sôn am goedwigo (Saesneg: "afforestate").[3] Nid yw adfywio coedwigoedd digymell yn cael ei ystyried yn ailgoedwigo.
Math | silviculture, Cadwraeth |
---|---|
Y gwrthwyneb | datgoedwigo |
Rhagflaenwyd gan | datgoedwigo |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Esboniad
golyguCoedwigaeth yw'r astudiaeth a'r arfer o reoli planhigfeydd fel adnoddau naturiol adnewyddadwy; mae'n perthyn yn agos i goedwigaeth. Mae ailgoedwigo yn cael ei ysgogi'n gyffredinol gan yr economi, yr angen am bren neu'r awydd i adfer y dirwedd ac, yn fwy diweddar, gan gapasiti amsugno carbon (CO₂) gan goedwigoedd. Un o swyddogaethau pwysig ailgoedwigo coedwigoedd fu gwarchod basnau dalgylch y cronfeydd dŵr er mwyn osgoi eu clogio'n gyflym oherwydd dyfodiad pridd a gynhyrchir gan erydiad.
Yn ól Partneriaethau Natur Lleol Cymru, ceir "10 rheol aur" ar gyfer plannu coed wrth ailgoedwigo.[4]
- Diogelu’r goedwig bresennol yn gyntaf - Mae coedwigoedd sydd wedi’u hen sefydlu yn cynnwys natur fwy cyfoethog ac maent yn llawer gwell na choedwigoedd newydd o ran amsugno CO2 oherwydd eu strwythur gymhleth a’u gwydnwch i dân a llifogydd. Gall unrhyw ecosystem mewn coedwig gymryd dros 100 mlynedd i adfywio.
- Cydweithio - Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen i ‘gynnwys pob rhanddeiliad ac i wneud pobl leol yn rhan annatod o’r prosiect’.
- Anelu at gynyddu adferiad bioamrywiaeth i’r eithaf er mwyn diwallu amrywiaeth o nodau - Mae Senedd Cymru newydd ddatgan argyfwng natur ac mae awdurdodau lleol wedi adleisio hyn. Mae’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod unrhyw weithgarwch plannu coed yn gwella cynefinoedd naturiol Cymru.
- Dewis ardaloedd addas ar gyfer ailgoedwigo - Y peth cyntaf i'w wneud yw adfer coedwigoedd presennol. Y peth gorau nesaf y gallwn yw plannu ar dir â choed lle y mae’r coetir wedi dirywio. Mae angen osgoi plannu ar dirweddau naturiol presennol (glaswelltiroedd, gwlyptiroedd ac ati) oherwydd bydd y rhain eisoes yn casglu carbon a siŵr o fod mwy o garbon nag y gallai coed newydd.
- Defnyddio adfywio naturiol lle bynnag y bo modd - Yn aml, mae’n well i natur ymdrin â’r sefyllfa nag i ni ddechrau palu. Nid ar gyfer cynefinoedd yr ardaloedd ond hefyd ar gyfer yr hinsawdd. Mae’r adroddiad yn nodi, ‘Mae posibilrwydd bod dal a storio carbon mewn ardaloedd a adfywiwyd yn naturiol yn 40 gwaith yn fwy na mewn planhigfeydd.’ Fodd bynnag, mae’r adfywio’n dibynnu ar ffactorau eraill megis agosrwydd at goedwig naturiol a gwlypter yr hinsawdd. Os yw’r rhain yn cael eu bodloni, gadewch iddo dyfu.
- Dewis rhywogaethau sy’n cynyddu bioamrywiaeth i’r eithaf - Sicrhau ystyried pa rywogaethau i’w plannu er mwyn helpu i greu cynefin coetir bywiog. Plannwch gasgliad o rywogaethau er mwyn annog bioamrywiaeth gan flaenoriaethu rhywogaethau cynhenid ac eithrio rhywogaethau anfrodorol. Un o brif fuddion bioamrywiaeth yw bydd yn cynyddu dwysedd y coetir oherwydd amrywiaeth mwy cyfoethog o heuwyr hadau.
- Defnyddio deunydd planhigion gwydn - Os yw coedwig i ffynnu mae angen iddo fod mor amrywiol â phosibl o ran geneteg. Mae arfer da yn cynnwys casglu hadau gan o leiaf 50 o goed unigol ar draws y boblogaeth rhieni lawn.
- Cynllunio o flaen llaw ar gyfer seilwaith, capasiti, a chyflenwad hadau - Bodola argyfwng hinsawdd oherwydd nad oedd dynol ryw wedi cynllunio tua’r dyfodol. Mae meithrinfeydd coed a chanolfannau tarddiad hadau yn sicrhau nad oes gennym ni goetiroedd ar gyfer heddiw yn unig ond bydden nhw yma am flynyddoedd i ddod.
- Dysgu trwy wneud - Arfer gorau yw cynnal cynllun treialu bach cyn ymrwymo i blannu neu i adfywio coetir enfawr. Os ydych chi’n adfywio ar hen blot byddai hefyd yn syniad da i chi siarad â grwpiau cymunedol a fydd yn cofio’r goedwig yn ei hoes blaenorol.
- Gwneud iddo dalu - Cyfeiria rhan hon yr adroddiad yn fwy at ardaloedd o fforestydd glaw trofannol y byddant, fel arall, yn dir amaeth – yr angen i sicrhau bod eu hincwm yn cynhyrchu mwy nag y byddai perchennog y tir yn ei ennill fel arall.
Mewn achos plannu mewn gwlad ddatblygiedig gall ‘talu’ hefyd olygu roi rhywbeth i’r gymuned – cyfle i ddysgu am fyd natur, blino’r plant, neu ardal heddychlon i ddal eich anadl. Trwy hwyluso’r cyfleoedd hyn cymaint â phosibl rydyn ni’n gwella ein coetir.
Effeithiau
golyguRhaid i'r ailboblogi gymryd i ystyriaeth hinsawdd yr ardal sydd i'w hailboblogi, yn enwedig y natur a maint y glaw, y tymheredd a'r gwyntoedd. Rhaid ystyried hefyd agweddau megis y math o bridd, yr adwaith asid neu sylfaenol sy'n cyflyru'r rhywogaethau o blanhigion y gellir eu mewnblannu.
Mewn ardaloedd gweddol sych neu lled-gras (semi-arid), neu gyda thymhorau cyferbyniol (hafau sych), os yw'r coed yn cael eu plannu'n rhy drwchus a gyda thyfiant cyflym (poplys, ewcalyptws er enghraifft), yn eu cyfnod twf cyntaf gall y tyfiant gyfyngu'n rhannol ar lifogydd ac erydiad, ond bydd hefyd yn defnyddio ac yn anweddu llawer iawn o ddŵr gan amddifadu cyrsiau dŵr rhan o'r dŵr er bod y coed hefyd yn storio dŵr diolch i'w gwreiddiau.
Hanes
golyguMae ailgoedwigo a gofal coedwigoedd yn gyffredinol wedi bod yn arfer hen iawn. Arferai'r Swmeriaid ond torri coedwigoedd cedrwydd yn y tymor mwyaf addas ar gyfer y coed (gaeaf) yn unig. Yn hen oes Tsieina hefyd, yn ystod llinach Han, cymerwyd gofal o goedwigaeth. Yn y canol oesoedd, roedd angen hawlenni i hela yn y goedwig a oedd dan reolaeth uchelwyr a brenhinoedd. Fodd bynnag, cwynodd y Brenin Alfonso X o Castile yn ysgrifenedig am sefyllfa ddrwg y coedwigoedd yn ei deyrnas. Yn yr 16g, gweithredwyd arferion coedwigaeth yn eang yn Ewrop (wladwriaethau'r Almaen) a Japan.[5] Yn nodweddiadol, rhannwyd y goedwig yn adrannau penodol a'i mapio, cynlluniwyd echdynnu pren o ran adfywio.
Yn Lloegr hyrwyddwyd yr arferiad o sefydlu planhigfeydd coed gan John Evelyn; Yn Ffrainc , plannodd gweinidog Louis XIV, Jean-Baptiste Colbert goed derw yn Tronçais ar gyfer dyfodol llongau pren llynges Ffrainc a gynlluniwyd ar gyfer canol y 19g, ond fel y sylwodd Fernand Braudel Colbert ddwy ganrif yn ddiweddarach, roedd wedi darparu popeth ac eithrio'r injan stêm.[6] Sefydlwyd ysgolion coedwigaeth o 1825; y rhan fwyaf yn yr Almaen a Ffrainc.
Cafodd cyfreithiau coedwigaeth yng Ngorllewin Ewrop eu deddfu eisoes yn ystod yr 20g mewn ymateb i bolisïau cadwraeth a’r cynnydd yng ngallu technolegol cwmnïau pren.
Cymru ac Ailgoedwigo
golyguCeir hanes o ailgoedwigo bwriadus yng Nghymru sy'n estyn nól i gefnogi llueodd arfog Prydain a'r Llynges Frenhinol. Yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf planwyd coewigoedd er mwyn cefnogi'r ymgyrch filwrol esgorodd hyn ar y Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Bu hefyd gwrthwynebiad i'r ailgoedwigo yma gan iddo amddifadu ffermwyr o dir amaethyddol. Cafwyd hefyd gwrthwynebiad moesol a chenedlaethol a welir mewn cerddi.
- Cynllun Plant! Mae Plant! yn gynllun a sefydlwyd gan Llywodraeth Cymru yn 2008. Ar gyfer pob plentyn a aned neu a fabwysiadwyd yng Nghymru, plannir coeden yn ddathliad, gan greu coetiroedd newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ledled Cymru. Ers 2014, mae’r cynllun Plant! wedi ymrwymo i blannu coeden ychwanegol yn Wganda ar gyfer pob coeden a blannir yma yng Nghymru. Fel rhan o’n prosiect 10 miliwn o goed, bydd coed ffrwythau wedi’i blannu yn y gerddi cartrefi teuluol yn rhanbarth Mbale o Wganda. Bydd y coed hyn yn helpu cymunedau lleol trwy ddarparu cyflenwadau cynaliadwy o fwyd a lloches iddynt, yn ogystal â ffynhonnell incwm. Byddant hefyd yn diogelu pobl leol rhag effeithiau erydiad pridd a achosir gan ddatgoedwigo trwm yn yr ardal, a all arwain at dirlithriadau marwol.[7]
Cyflawniadau
- Cymru
- Dros 300,000 o goed wedi’u plannu yng nghoetiroedd Cymru
- Dros 140 hectar o goetir newydd a grëwyd ar draws 15 o goedwigoedd
- Yn 2018, dathlodd y cynllun Plant! ei ben-blwydd yn 10 oed!
- Wganda
- 1,600 o deuluoedd mewn 30 o bentrefi wedi’u cefnogi gan y cynllun hwn
- 5 o blanhigfeydd coffi Masnach Deg a gefnogwyd
- Maint Cymru - yn 2010 sefydlwyd elusen Maint Cymru. Enw'r elusen yn y Saesneg, yw Size of Wales sy'n chwarae ar y ffordd y mae Cymru'n aml yn cael ei defnyddio fel uned fesur ar tiriogaeth dramor., yn arbennig mewn cyd-destu gyfer cynefinoedd naturiol a gollir. Defnyddir y term "maint Cymru" hefyd gan bod Cymru yn wlad adnabyddus i siaradwyr Saesneg Prydain a bod tiriogaeth Cymru yn faint hawdd ei fesur - 20,000km sgwár. Mae'r elusen yn gweithio gyda phobl frodorol a phobl leol ar draws y byd i dyfu coed a diogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol – ardal o faint Cymru.[8]
- Coedwig Genedlaethol i Gymru - Yn 2020 sefydlwyd Coedwig Genedlaethol i Gymru er mwyn cynyddu maint coedtiroedd Cymru a'i defnydd amgylcheddol ac hamdden.[9] Mae'n rwydwaith o goedtiroedd ar draws Cymru (nid un coedwig fawr) gan wneud defnydd o athronaieth a thechnegau ailgoedwigo.
Enghreifftiau byd-eang o ailgoedwigo
golyguCyhoeddodd Fforwm Economaidd y Byd 2020, a gynhaliwyd yn Davos, greu’r Ymgyrch Triliwn Coed, sef menter sy’n anelu at blannu 1 triliwn o goed ledled y byd. Gall y gweithredu fod â manteision amgylcheddol a chymdeithasol mawr ond mae angen ei deilwra i amodau lleol.[10]
Mae’r strategaeth adfer tirwedd coedwigoedd yn ceisio ailsefydlu tirweddau ac atgyweirio ardaloedd ymylol a diraddiedig er mwyn cynhyrchu tirweddau coedwig cynhyrchiol sy’n wydn ac yn hirdymor. Ei nod yw gwarantu bod swyddogaethau ecolegol a defnydd tir amrywiol yn cael eu hadfer, eu diogelu a'u cadw dros amser.[11]
Tsieina
golyguYn Tsieina, mae rhaglenni ailblannu helaeth wedi bodoli ers y 1970au, sydd wedi cael llwyddiant cyffredinol. Mae gorchudd y goedwig wedi cynyddu o 12% o arwynebedd tir Tsieina i 16%.[12] Fodd bynnag, prin fu llwyddiant rhaglenni penodol. Bwriedir i "Wal Werdd Tsieina", ymgais i gyfyngu ar ehangiad Anialwch Gobi, fod yn 2,800 milltir (4,500 km) o hyd ac i'w gwblhau yn 2050.[13] Yn 2015 cyhoeddodd Tsieina gynllun i blannu 26 biliwn o goed erbyn y flwyddyn 2025; hynny yw, dwy goeden ar gyfer pob dinesydd Tsieineaidd y flwyddyn.[14] Ailgoedwigwyd Llwyfandir Loes.
Pacistan
golyguLansiwyd y Billion Tree Tsunami yn 2014 trwy blannu 10 biliwn o goed, gan lywodraeth daleithiol Khyber Pakhtunkhwa (KPK) ac Imran Khan, fel ymateb i her cynhesu byd-eang. Fe wnaeth Tswnami Billion Tree Pacistan adfer 350,000 hectar o goedwigoedd a thir dirywiedig i ragori ar ei hymrwymiad i Her Bonn.[15]
Yn 2018, datganodd prif weinidog Pacistan, Imran Khan, y bydd y wlad yn plannu 10 biliwn o goed yn y pum mlynedd nesaf.[16]
Mae gwledydd llai, sydd á maint a phoblogaeth tebycach i Gymru, hefyd wedi bod yn weithgar yn ailgoedwigo. Byddant yn aml yn cyfuno teimladau o wladgarwch a chyswllt hanesyddol gyda'r tir i'r ymdrech i ailgoedwigo gan estyn am deimlad o oes a gollwyd ac a ail-enir.
Armenia
golyguSefydlwyd yr Armenia Tree Project ym 1994 i fynd i'r afael â phryderon amgylcheddol ac economaidd yn ymwneud â choedwigoedd Armenia sy'n prinhau. Ers ei sefydlu, mae'r sefydliad wedi plannu mwy na 6.5 miliwn o goed mewn cymunedau ledled Armenia.[17]
Gwlad yr Iâ
golyguCyn datgoedwigo Gwlad yr Iâ yn yr Oesoedd Canol, roedd tua 40% o'r tir yn goedwig.[18] Heddiw, mae'r wlad tua 2% yn goediog, gyda Gwasanaeth Coedwig Gwlad yr Iâ yn anelu at gynyddu'r gyfran honno i 10% trwy ailgoedwigo ac aildyfiant naturiol.[19]
Israel
golyguErs 1948, cyflawnwyd prosiectau ailgoedwigo a choedwigo mawr yn Israel. Mae 240 miliwn o goed wedi'u plannu. Mae'r gyfradd atafaelu carbon yn y coedwigoedd hyn yn debyg i'r coedwigoedd tymherus Ewropeaidd.[20]
Cafodd Israel a dim ond un wlad arall ei dogfennu i gael cynnydd net mewn coedwigaeth yn y 2000au. Gellid priodoli'r math hwn o gynnydd i'r arferion cymdeithasol y mae Israel yn eu hymgorffori yn eu cymdeithas.[21] Mae hefyd wedi bod yn rhan ganolog o gennad y Jewish National Fund ers blynyddoedd. Ymysg yr enghreifftiau mwyaf llwyddiannus o ailgoedwigo neu coedwigo yw Coedwig Yatir ar gyrion anialwch y Negef, er bod trafodaeth ddiweddar wedi bod ar os yw plannu cymaint o goed ar dir mor fregus cystal syniad ag a dybiwyd yn wreiddiol.
Oriel
golygu-
Ailgoedwigo yn Senegal
-
Plant ym meithrina Eden Reforestation Project yn Nepal (2016)
-
Plannu coed yn British Columbia, Canada
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "reforestate". TermauCymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
- ↑ "ailgoedwigo". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
- ↑ Glossaire du site greenfacts.org, cyrchu 7 Awst 2009.
- ↑ "Deg rheol aur ar gyfer plannu coed". Partneriaeth Natur Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
- ↑ Japanese Forestry Archifwyd 2011-06-28 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Braudel, The Wheels of Commerce, 15th-18th Century, vol. II of Civilization and Capitalism, 1979, iilus. p. 240.
- ↑ "Cynllun Plant". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
- ↑ "Am Maint Cymru". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
- ↑ "National Forest for Wales – Size of Wales" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-05. Cyrchwyd 29 Ebrill 2022.
- ↑ "Tree-planting programs can do more harm than good". Environment (yn Saesneg). 2019-04-26. Cyrchwyd 2020-07-04.
- ↑ "The Role of Planted Forests in Forest Landscape Restoration" (PDF).
- ↑ Henkel, Marlon (22 February 2015). 21st Century Homestead: Sustainable Agriculture III: Agricultural Practices (yn Saesneg). Lulu.com. ISBN 9781312939752.Nodyn:Self-published source
- ↑ "China's Great Green Wall" (yn Saesneg). 2001-03-03. Cyrchwyd 2020-05-06.
- ↑ "China to plant 26 billion trees over next decade - People's Daily Online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 2015-03-12.
- ↑ "Pakistan's Billion Tree Tsunami restores 350,000 hectares of forests and degraded land to surpass Bonn Challenge commitment". IUCN. August 11, 2017.
- ↑ Chow, Lorraine (30 July 2018). "Pakistan's Next Prime Minister Wants to Plant 10 Billion Trees". Ecowatch. Cyrchwyd 7 September 2018.
- ↑ Aram Arkun (October 3, 2014). "Armenian Tree Project Celebrates 20th Anniversary". The Armenian Mirror-Spectator.
- ↑ "Iceland is replanting its forests 1,000 years after vikings razed them". April 6, 2018.
- ↑ "Spades, saplings and sheep: Iceland battles to restore long-lost forests". Skógræktin.
- ↑ Brand, David; Moshe, Itzhak; Shaler, Moshe; Zuk, Aviram; Riov, Dr Joseph (2011). Forestry for People (PDF). UN. tt. 273–280. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 30 September 2018. Cyrchwyd 30 September 2018.
- ↑ "Reforesting Israel, Restoring Israel". AllCreation.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-16.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan elusen ailgoedwigo Maint Cymru
- Strong-willed Tree Planter Devotes 15 Years to Forestation in Inner Mongolia rhaglen ar Youtube
- Armenian Tree Project sianel Youtube