Gwleidydd a diplomydd o'r Ffindir oedd Martti Oiva Kalevi Ahtisaari (23 Mehefin 193716 Hydref 2023) a oedd yn Arlywydd y Ffindir o 1994 i 2000. Enillodd Wobr Heddwch Nobel yn 2008 "am ei ymdrechion pwysig, ar sawl cyfandir ac am dros dri degawd, i ddatrys gwrthdrawiadau rhyngwladol".[1]

Martti Ahtisaari
Martti Ahtisaari yn 2012.
GanwydMartti Oiva Kalevi Ahtisaari Edit this on Wikidata
23 Mehefin 1937 Edit this on Wikidata
Vyborg Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 2023 Edit this on Wikidata
Helsinki Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Oulu
  • Kuopio Lyceum High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, athro Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd y Fffindir, Ambassador of Finland to Tanzania, Ambassador of Finland to Zambia, Ambassador of Finland to Somalia, Ambassador of Finland to Mozambique Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSocial Democratic Party of Finland Edit this on Wikidata
PriodEeva Ahtisaari Edit this on Wikidata
PlantMarko Ahtisaari Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Urdd yr Eryr Gwyn, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Félix Houphouët-Boigny Peace Prize, Urdd y Tair Seren, Dosbarth 1af, Collar of the Order of the Star of Romania, Gwobr Economi Bydeang, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, meddyg anrhydeddus Sefydliad Cysylltiadau Rhyngwladol Cenedlaethol Moscaw, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Grand Cross of the Order of the Lion of Finland, Collier de l'ordre de la Croix de Terra Mariana, Grand Cross of the Order of Good Hope, Urdd Brenhinol y Seraffim, Uwch Groes Urdd Teilyngdod Hwngari, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Cordon Urdd Leopold, Urdd cenedlaethol Coler Uwch Cruz del Sur, Grand Cross of the Order of Merit, Uwch Groes Urdd y Gwaredwr, Order of Mubarak the Great, Gwobr 'Collar de la Orden Mexicana del Águila Azteca', Marchog Fawr Groes yn Urdd Llew yr Iseldiroedd, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Order of State of Republic of Turkey, Honorary Officer of the Order of Australia, Coler Urdd Isabella y Catholig, Cadlywydd Urdd Llew y Ffindir, Commander of the Order of the White Rose of Finland, Commander First Class of the Order of the White Rose of Finland, Grand Cross of the Order of the Cross of Liberty, Grand Cross of the Order of the Holy Lamb, Order of the National Flag, Grand Cross of the Order of the Liberator General San Martín, Commander of the Congolese Order of Merit, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Bintang Jasa Utama, Medal for Military Merits, Urdd Rhosyn Wen y Ffindir, Urdd Llew y Ffindir, Urdd Sant Olav, Urdd Croes Terra Mariana, Order of Vytautas the Great, Order of Good Hope, Hungarian Order of Merit, Urdd Isabel la Católica, Urdd y Baddon, Urdd Awstralia, Order of Merit of the Federal Republic of Germany, Urdd Leopold, Urdd Croes y De, Urdd Teilyngdod (Chili), Urdd y Gwaredwr, Urdd Eryr Mecsico, Urdd Llew'r Iseldiroedd, Order of the Falcon, Seren Gweriniaeth Indonesia, Urdd Rajamitrabhorn, Urdd seren Romania, Gold Medal of Merit with clasp of the Reserve Officers Association, Cross of merit with clasp of Reservists' association Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar ac addysg (1937–59) golygu

Ganed Martti Oiva Kalevi Ahtisaari ar 23 Mehefin 1937 yn Viipurim y Ffindir (bellach Vyborg, Rwsia), yng Nghuldir Carelia. Pan oedd yn fachgen, cafodd ei deulu eu dadleoli yn ystod Rhyfel y Gaeaf (1939–40), ac wedi i'r Ffindir ildio Viipuri i'r Undeb Sofietaidd, trigasant yn Kuopio ac yna Oulu. Graddiodd Ahtisaari o Brifysgol Oulu ym 1959, wedi iddo gael ei hyfforddi'n athro.

Gyrfa ddiplomyddol gynnar (1960–93) golygu

Yn nechrau'r 1960au gweithiodd gyda phrosiect addysg ym Mhacistan ar gyfer Asiantaeth Datblygu Rhyngwladol Sweden, cyn dychwelyd i'r Ffindir ac ymuno â'r Weinyddiaeth Faterion Tramor ym 1965.[2]

Gwasanaethodd Ahtisaari yn llysgennad y Ffindir i Dansanïa o 1973 i 1976 ac yn gennad i Sambia, Somalia, a Mosambic o 1975 o 1976.[2] Ymunodd â'r Cenhedloedd Unedig ac ym 1977 fe'i penodwyd yn Gomisiynydd dros Namibia, a oedd ar y pryd dan feddiannaeth De Affrica. Wedi iddo adael y swydd honno ym 1981, parhaodd i ymwneud â'r broses heddwch yn Ne Orllewin Affrica, fel y'i gelwid, tra'n gweithio yng Ngweinyddiaeth Faterion Tramor y Ffindir, ac o 1989 i 1990 fe arweiniai dîm y Cenhedloedd Unedig a oruchwyliodd y trawsnewid i annibyniaeth Namibia. O ganlyniad i'w waith, derbyniodd ddinasyddiaeth er anrhydedd oddi ar lywodraeth Namibia.[3][4] Cafodd hefyd ran flaenllaw yn y trafodaethau heddwch ym 1992–93 i geisio dod â therfyn i Ryfel Bosnia.[2]

Arlywyddiaeth (1994–2000) golygu

Fel ymgeisydd y Blaid Ddemocratiaid Gymdeithasol (SDP), enillodd Ahtisaari etholiad arlywyddol y Ffindir yn Chwefror 1994. Efe oedd y degfed arlywydd yn hanes y weriniaeth, a'r cyntaf i ennill y swydd drwy'r bleidlais boblogaidd yn hytrach nag hen drefn y coleg etholiadol.[5] Yn ystod ei arlywyddiaeth, fe anogai rôl flaengar gan y wlad mewn materion rhyngwladol. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, siaradodd o blaid ymgynghreirio â'r Gorllewin a rhoi'r gorau i Athrawiaeth Paasikivi–Kekkonen. Yn y refferendwm a gynhaliwyd yn Hydref 1994, cefnogodd aelodaeth y Ffindir â'r Undeb Ewropeaidd, ac esgynnai'r wlad i'r undeb hwnnw ym 1995. Yn hanner cyntaf 1999 daliodd llywodraeth y Ffindir lywyddiaeth gylchredol Cyngor yr Undeb Ewropeaidd. Dadleuodd Ahtisaari hefyd o blaid ymaelodi â chynghrair milwrol NATO, ond cafodd hynny ei ystyried yn ormod o gythrudd i Rwsia, a ni fyddai'r Ffindir yn cael ei derbyn i NATO nes 2023.[5] Ym Mehefin 1999, llwyddodd Ahtisaari a Viktor Chernomyrdin, cennad arbennig Rwsia yn Iwgoslafia, i berswadio'r Arlywydd Slobodan Milosevic i dderbyn cynllun heddwch, gan ddod â therfyn i ymgyrch fomio NATO yn Rhyfel Cosofo. Er ei lwyddiannau ar y llwyfan ryngwladol, cafodd ymdrechion Ahtisaari eu gwrthwynebu weithiau gan y Senedd, a ffafriai bolisi tramor gochelgar. Penderfynodd i beidio ag ail-ymgynnig yn etholiad 2000, a fe'i olynwyd yn arlywydd gan Tarja Halonen, hefyd o'r SDP.

Gyrfa ddiplomyddol ddiweddar (2000–18) golygu

Wedi iddo ymddeol o wleidyddiaeth genedlaethol, sefydlodd Ahtisaari y Fenter Rheoli Argyfyngau (CMI) gyda'r nod o hyrwyddo heddwch o gwmpas y byd. Fe'i penodwyd i sawl swydd ddiplomyddol, gan gynnwys archwilydd arfau yng Ngogledd Iwerddon; pennaeth ar genhadaeth ymchwiliol y Cenhedloedd Unedig i Jenin, yn y Lan Orllewinol, yn sgil cyrch gan fyddin Israel ar wersyll y ffoaduriaid Palesteinaidd yno;[3] cyflafareddwr rhwng llywodraeth Indonesia a Mudiad Rhyddid Aceh; a chennad arbennig y Cenhedloedd Unedig ar statws dyfodol Cosofo.[6] Yn 2007, cyhoeddodd gynnig ar gyfer ymreolaeth i Gosofo, gan sicrhau hawliau y Serbiaid a lleiafrifoedd ethnig eraill y wlad. Derbyniwyd y cynnig gan y boblogaeth Albaniaidd, mwyafrif ethnig Cosofo, a chafodd gefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America. Fodd bynnag, fe'i gwrthodwyd gan Serbia a Rwsia, ac yn sgil datganiad annibyniaeth Cosofo yn 2008 mae'r ddadl dros gydnabyddiaeth ryngwladol yn parhau. Yn 2007–08, cyflafareddodd Ahtisaari rhwng Mwslimiaid Swnni a Shia Irac mewn trafodaethau yn Helsinki.

Derbyniodd Wobr J. William Fulbright am Ddealltwriaeth Ryngwladol yn 2000. Yn 2008 fe'i dyfarnwyd yn enillydd Gwobr Heddwch Nobel gan Bwyllgor Nobel Norwy, ac enillydd Gwobr Heddwch Félix Houphouët-Boigny gan UNESCO. Bu Ahtisaari yn weithgar fel aelod o The Elders o 2009 i 2018.

Bywyd personol a diwedd ei oes golygu

Priododd Martti Ahtisaari ag Eeva Hyvärinen ym 1968, a chawsant un mab o'r enw Marko.[3]

Yn 2021 cyhoeddwyd fod Ahtisaari yn dioddef o glefyd Alzheimer, ac am ymddeol o fywyd cyhoeddus i dreulio diwedd ei oes gyda'i deulu. Bu farw Martti Ahtisaari yn Helsinki ar 16 Hydref 2023 yn 86 oed. Mewn araith arbennig gan Sauli Niinistö, Arlywydd y Ffindir, cafodd ei alw'n "Ffiniad gyda chalon fawr".[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "The Nobel Peace Prize 2008", Sefydliad Nobel. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Hydref 2023.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Martti Ahtisaari. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Hydref 2023.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) "The global peacemaker who wanted to untie the ‘Middle East knot’", The Sydney Morning Herald (17 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Hydref 2023.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) David Mac Dougall, "Martti Ahtisaari, former Finnish president and Nobel Peace Laureate, dies aged 86", Euronews (16 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Hydref 2023.
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) "Finnish Nobel peace laureate Martti Ahtisaari dies at 86", Al Jazeera (16 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Hydref 2023.
  6. (Saesneg) "Martti Ahtisaari, president of Finland who won the Nobel Peace Prize – obituary", The Daily Telegraph (19 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Hydref 2023.