Mwg-y-ddaear amrywiol

planhigyn o deulu'r pabi (mae'r dudalen hon yn cynnwys disgrifiadau byrion o rywogaethau tebyg eraill)
Fumaria muralis
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Urdd: Ranunculales
Teulu: Papaveraceae
Genws: Fumaria
Rhywogaeth: F. muralis
Enw deuenwol
Fumaria muralis
W.D.J.Koch

Planhigyn blodeuol sydd hefyd yn un o symbolau cenedlaethol Tsieina yw Mwg-y-ddaear amrywiol sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Papaveraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Fumaria muralis a'r enw Saesneg yw Common ramping-fumitory.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Mwg y Ddaear Amrywiol.

Mae'r teulu'n nodedig am ei briodweddau meddygol (honedig, yn enwedig yn Corea, Tsieina a Japan. Mae'n un o symbolau cenedlaethol Tsieina. Caiff ei dyfu ar gyfer gerddi oherwydd maint ei flodau unigol, ac mae'r morgrugyn yn cael ei ddenu at y neithdar sydd ar ei betalau.

Disgrifiad

golygu

Mae Fumaria muralis yn blanhigyn blynyddol cain sy'n blodeuo yn y gwanwyn. Mae'n hawdd ei wahaniaethu gan ei flodau, sydd â phetalau pinc gyda blaenau coch neu borffor tywyll. Mae tua deuddeg o flodigion fesul blodyn cyfansawdd[2]

Mae'r coesau'n codi i ddechrau ac yna'n ymledu neu'n dringo. Maent yn wan ac â llawer o ganghennau, hyd at 1000 mm (39.4 modfedd) o hyd, ac yn ddi-flew[3]

Mae'r dail yn wyrdd neu'n wyrdd golau llachar, aml-yn-unig, 2- i 4-pinntisect [angen eglurhad] gyda segmentau trefn olaf eliptig cul neu hirsgwar. Mae'r dail cyntaf yn tyfu'n unigol ac yn 7-15 mm (0.3-0.6 modfedd) o hyd gyda choesyn 7-15 mm (0.3-0.6 modfedd), ac mae ganddyn nhw dair deiligen ddi-flew. Yn ddiweddarach mae dail yn dod yn fwy cyfansawdd a llabedog. Mae dail aeddfed deirgwaith yn llabedog dwfn gyda thair deiligen neu fwy, 3-15 mm (0.1-0.6 in) o hyd. Mae dail eraill yn ffurfio rhoséd. Mae segmentau dail yn siâp wy i drionglog ac fel arfer yn dri llabedog ac yn ddi-flew. Mae'r llafn yn llwyd-wyrdd i las-wyrdd, gwastad, a hyd at 80 mm o hyd x 40 mm o led (3.2 x 1.6 in)[3]

Y Ffrwyth

golygu

Math o ffrwyth a elwir yn acenyn (achene) sydd ganddo. Mae'n belaidd i ofaidd ei ffurf gyda wyneb fymryn yn grychog.

Rhywogaethau tebyg

golygu

Mae rhywogaethau tebyg[4] yn cynnwys:

  • Mae Fumaria bastardii (mwg-y-ddaear grymus) yn debyg iawn ond mae ganddo sepalau llai, coesig (peduncle) byrrach na'r blodyn cyfansawdd a ffrwythau cryfion garw. Mae ganddo flodau pinc gyda blaenau porffor a mwy nag 20 o flodigion (florets) ym mhob fflurfa (inflorescence). Mae'n gallu heibrideiddio gyda F. muralis.
  • Mae gan Fumaria capreolata (mwg-y-ddaear gwyn) flodigion lliw hufen mwy na F. muralis gyda blaenau coch-du. Mae'r fflurfa o leiaf cyhyd â'r coesig. Mae'n heibrideiddio gyda F. muralis[5]
  • Mae Fumaria densiflora (mwg-y ddaear mân-flodeuog) yn debyg iawn i F. muralis ond mae'n tueddu i fod yn fwy porffor-wyrdd, mae'r dail ifanc yn llai gyda llabedau cyrliog, ac mae ganddo flodau llai ond mwy niferus.
  • Mae Fumaria melilaica yn cael ei nodweddu gan ei sepalau hynod lacrad a'i ffrwythau cryf garw.
  • Mae gan Fumaria officinalis (mwg-y-ddaear cyffredin) flodau pinc porffor llai (6-9 mm o hyd) gyda 20-40 (-50) o flodigion fesul fflurfa (inflorescence) sy'n amlwg yn ehangach na hir gyda thocyn neu bigau ymylol.
  • Fumaria parviflora (fumitory blodau bach)
  • Mae gan Fumaria reuteri flodau mwy (11-13 mm o hyd), sepalau tanddaearol, coesig (peduncle yn fyrrach na rasem, esgair hirach a stigma, llabed canolog mor fawr â'r rhai ochrol.

Dosbarthiad a chynefin

golygu

Mae F. muralis yn frodorol i ranbarthau tymherus a Môr y Canoldir gorllewin Ewrop a gorllewin Gogledd Affrica. Yn ystod ei ddosbarthiad brodorol, fe'i darganfyddir ym Macaronesia, Portiwgal, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Almaen, y Deyrnas Unedig, Iwerddon, a Norwy. Y tu allan i'w ystod frodorol mae'n bresennol yn Sbaen, yr Iseldiroedd, Denmarc, Japan, Seland Newydd, Awstralia, De Affrica a'r Unol Daleithiau[6]. Mae'n well gan F. muralis dyfu mewn ardaloedd agored, moel ac fe'i hystyrir yn chwyn o borfeydd, ochrau ffyrdd, gerddi, llwybrau troed, tiroedd llwyni arfordirol ac ardaloedd wedi eu haflonyddu[7][8]

Ffenoleg

golygu

Cafodd F. muralis ei gofnodi ar 1 Ionawr 2012 yn ardal Doc y Rhath (cylchfan yr A4232) fel rhan o ymdrech i gofnodi blodau oedd yn blodeuol yng Nghaerdydd ddiwrnod cynta'r flwyddyn[9]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. "Fumaria muralis factsheet". International Environmental Weed Foundation (IEWF).
  3. 3.0 3.1 "Wall Fumitory factsheet collated by www.herbiguide.com.au".
  4. https://www.llennatur.cymru/Y-Bywiadur#Fumaria%20bastardi
  5. "Wall Fumitory factsheet collated by www.herbiguide.com.
  6. Global Compendium of Weeds: Fumaria muralis (Fumariaceae)
  7. Lidén M., 1986. Synopsis of Fumarioideae with a monograph of the tribe Fumarieae. Opera Bot. 88
  8. Lidén M. 1986. Fumaria L. In: Castroviejo S., Laínz M., López-González G., Montserrat-Recoder P.,Muñoz-Garmendia F., Paiva J., Villar L. (eds.). Flora iberica: plantas vasculares de la Península Iberica y Islas Baleares. Vol. I Lycopodiaceae-Papaveraceae: 447–467. Real Jardín Botánico. CSIC. Madrid. http://www.floraiberica.es/floraiberica/texto/pdfs/01_038_13_Fumaria.pdf
  9. https://www.facebook.com/groups/CymunedLlenNatur/permalink/932310883630882/
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: