Agor y brif ddewislen

Gemau'r Gymanwlad 1978 oedd yr unfed tro ar ddeg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal a'r tro cyntaf i'r teitl Gemau'r Gymanwlad gael ei ddefnyddio. Edmonton, Alberta,Canada oedd cartref y Gemau rhwng 3 - 12 Awst. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn Edmonton yn ystod Gemau Olympaidd 1972 ym München gydag Edmonton yn sicrhau 36 pleidlais a Leeds yn cael 10.

11fed Gemau'r Gymanwlad
Edmonton 1978.png
Dinas Edmonton, Canada
Gwledydd gymrodd rhan 46
Athletwyr gymrodd rhan 1475
Campau 128
Seremoni agoriadol 3 Awst
Seremoni cau 12 Awst
Agorwyd yn swyddogol gan Elizabeth II
Prif leoliad Stadiwm y Gymanwlad
X XII  >

Cafwyd boicot o'r gemau gan Nigeria mewn protest wedi i dîm Rygbi'r Undeb Seland Newydd ymweld â De Affrica, oedd â system apartheid, ym 1976. Yn dilyn y daith ddadleuol, cafwyd boicot o Gemau Olympaidd 1976 ym Montreal, Canada, gan 28 o wledydd Affrica. Arweiniodd y boicot ym Montreal at benaethiad y Gymanwlad yn arwyddo Cytundeb Gleneagles ym 1977 fyddai'n annog cymdeithasau chwaraeon i beidio gwneud cysylltiadau chwaraeon â De Affrica[1]. Er gwaethaf y cytundeb, penderfynodd Nigeria gadw draw rhag y Gemau yn Edmonton.

Ymunodd athletwyr Bangladesh, Cyprus, Saint Christopher Nevis Anguilla, Ynysoedd Caiman ac Ynysoedd Turks a Caicos â'r Gemau am y tro cyntaf ac ychwanegwyd Gymnasteg i'r rhestr o gampau.

ChwaraeonGolygu

Timau yn cystadluGolygu

Tabl MedalauGolygu

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Canada 45 31 33 109
2   Lloegr 27 27 33 87
3   Awstralia 24 33 27 84
4   Cenia 7 6 5 18
5   Seland Newydd 5 6 9 20
6   India 5 5 5 15
7   Yr Alban 3 6 5 14
8   Jamaica 2 2 3 7
9   Cymru 2 1 5 8
10   Gogledd Iwerddon 2 1 2 5
11   Hong Cong 2 0 0 2
12   Maleisia 1 2 1 4
13   Ghana 1 1 1 3
  Gaiana 1 1 1 3
15   Tansanïa 1 1 0 2
16   Trinidad a Tobago 0 2 2 4
  Sambia 0 2 2 4
18   Bahamas 0 1 0 1
  Papua Gini Newydd 0 1 0 1
20   Manu Samoa 0 0 3 3
21   Ynys Manaw 0 0 1 1
Cyfanswm 128 129 138 395

Medalau'r CymryGolygu

Roedd 75 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Berwyn Price Athletau 110m Dros y clwydi
Aur John Burns Codi Pwysau 100 kg
Arian William Watkins Saethu Calibr bychan
Efydd Jeff Bryce Codi Pwysau 100 kg
Efydd Anthony Feale Bocsio Pwysau Welter
Efydd John Russell Evans Bowlio Lawnt Senglau
Efydd Ray Williams
a James Morgan
Bowlio Lawnt Parau
Efydd Ellis Stanbury
Gwyn Evans
Ian Sutherland
a John Thomson
Bowlio Lawnt Pedwarawd

CyfeiriadauGolygu

Dolenni allanolGolygu