Nodyn:Pigion/Wythnos 19
Pigion
Gyrrwr Fformiwla Un o Gymru oedd Thomas Maldwyn Pryce (11 Mehefin, 1949 – 5 Mawrth, 1977). Enillodd Pryce y "Brands Hatch Race of Champions" yn 1975 ac ef yw'r unig Gymro i arwain mewn Grand Prix Fformiwla Un: dwy lap o Grand Prix Prydain 1975. Dechreuodd Pryce ei yrfa Fformiwla 1 gyda'r tîm bychan Token, gan ddechrau un ras gyda nhw yn Grand Prix Gwlad Belg 1974. Ar ôl perfformiad da mewn ras Fformiwla Tri yn Monaco yn yr un flwyddyn, ymunodd Pryce â thîm Shadow ac enillodd ei bwyntiau cyntaf ar ôl pedair ras. Ei ganlyniadau gorau oedd trydydd safle mewn dwy ras. Ystyrid Pryce yn yrrwr talentog iawn ar drac gwlyb gan ei dîm. Yn ystod sesiwn ymarfer ar gyfer Grand Prix De Affrica 1977, a hi'n bwrw glaw yn drwm, Pryce oedd y cyflymaf o bawb, gan gynnwys dau bencampwr byd, sef Niki Lauda a James Hunt. Yn ystod ei drydydd tymor llawn gyda'r tîm Shadow, lladdwyd Pryce yn ystod Grand Prix De Affrica 1977, wrth iddo daro swyddog a oedd yn croesi'r trac i ddelio gyda phroblem car arall. mwy... |
Erthyglau dewis
|