Nodyn:Pigion/Wythnos 47
Pigion
Mynydd uchaf Cymru, a leolir yng Ngwynedd yw'r Wyddfa (1,085m/3,560 troedfedd). Fe'i ceir ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd; y copa yw canolbwynt mynyddoedd Eryri. Mae trên bach Rheilffordd Eryri yn dringo i gopa'r Wyddfa o Lanberis i'r rhai nad ydynt am gerdded: adeiladwyd y lein yn 1896. Ar y copa mae Hafod Eryri, sef canolfan ymwelwyr a thŷ bwyta a agorwyd yn 2009. Cerdda tua 350,000 o bobl i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn, a thua 60,000 arall ar y trên bach. Ceir golygfeydd o ardal eang o'r copa; nid yn unig ran helaeth o ogledd a chanolbarth Cymru ond ar ddiwrnod clir Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Yr olyfga bellaf rhwng dau bwynt ar ynys Prydain, mewn theori, yw'r olygfa rhwng copa'r Wyddfa a chopa Merrick yn ne'r Alban, pellter o 144 milltir (232 km). mwy... |
Erthyglau dewis
|