Ffanerosöig

(Ailgyfeiriad o Phanerosöig)

Eon, daearegol yw Ffanerosöig, sef yr eon presennol, a'r un ble gwelwyd amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid yn esblygu. Mae'r rhaniad amser hwn yn cwmpasu 541.0 ± 1.0 miliwn o flynyddoedd ac yn cychwyn yr un pryd a phan welwyd cregin mân yn cael eu ffurfio. Daw'r enw o'r Hen Roeg φανερός (fanerós) a ζωή (zo̱í̱), sef bywyd gweladwy gan y credwyd ar un adeg i fywyd ar y Ddaear gychwyn yn y cyfnod Cambriaidd, yn yr eon hwn. Gelwir yr amser cyn y Ffanerosöig yn uwcheon Cyn-Gambriaidd, ac a is-renir yn eonau Hadean, Archaean a Proterosöig. Yn yr eon hwn hefyd y gwelwyd planhigion am y tro cyntaf ar wyneb y Ddaear.

Yn ystod y Ffanerosöig gwelwyd cynnydd o ran bioamrywiaeth y bywyd ar y Ddaear, cynnydd ar ffurf hyperbola, yn hytrach nag mewn llinell. Yn rhyfeddol, mae'r cynnydd yn niferoedd pobl (poblogaeth) y byd yn dilyn yr un patrwm.

Israniadau golygu

Rhennir y Ffanerosöig yn dri gorgyfnod: y Paleosöig, y Mesosöig, a'r Cenosöig, ac mae'n cynnwys 12 cyfnod: y Cambriaidd, yr Ordoficaidd, y Silwraidd, y Defonaidd, y Carbonifferaidd, y Permaidd, y Triasig, y Jwrasig, y Cretasaidd, y Paleogen, y Neogen, a'r Cwaternaidd. Prif nodweddion:

Cyn-Gambriaidd  
Hadeaidd Archeaidd Proterosöig Ffanerosöig

Gweler hefyd golygu