Piran (Slofenia)

tref ar arfordir Slofenia

Mae Piran (/ piˈɾáːn /; yn Eidaleg: Pirano / piˈraːno /) yn fwrdeistref yn Slofenia sydd wedi'i lleoli yn Istria yn rhanbarth Primorska ("arfordir") sy'n ffinio â'r Môr Adriatig. Mae hi'n swyddogol dwyieithog Slofenia ac Eidaleg. Piran yw enw'r dref arfordirol hynafol a hefyd y bwrdeistref o'r un enw.

Piran
Piran old town.jpg
Wappen piran.svg
Math tref, bwrdeistref Edit this on Wikidata
Poblogaeth 17,491 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Łańcut, Acqualagna, Aquileia, Bjugn, Castel Goffredo, Indianapolis, Keszthely, Ohrid, Valletta, Fenis, Vis, Mangalia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Slofenia Slofenia
Arwynebedd 44.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 16 ±1 metr, 46 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 45.527°N 13.569°E Edit this on Wikidata
Cod post 6330 Edit this on Wikidata
SI-090 Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth monument of local significance Edit this on Wikidata
Manylion

DaearyddiaethGolygu

Mae'r fwrdeistref yn ymestyn dros ardal o 44.6 km2, yn nodi pen de-orllewinol Slofenia. Mae Croatia yn ffinio â'r de, i'r dwyrain gan fwrdeistrefi Izola a Koper. I'r gogledd, mae'n wynebu'r Eidal, y tu hwnt i Gwlff Trieste. Mae'r dref wedi'i lleoli ar benrhyn cul tra bod cyrchfan glan môr Portorož 5km i'r de, ar waelod Gwlff Piran.

PentrefiGolygu

Piran yw enw'r bwrdeistref hefyd ac mae'n cynnwys sawl pentref a threfnlan. Ceir enwau Slofeneg ac Eidaleg i'r pentrefi yma: Dragonja (Dragogna), Lucija (Lucia), Nova vas nad Dragonjo (Villanova), Padna (Padena), Parecag (Parezzago), Piran (Pirano), Portorož (Portorose), Seča (Sezza), Sečovlje (Sicciole), Strunjan (Strugnano) a Sveti Peter (San Pietro dell'Amata).

HanesGolygu

[[File:Piri Reis - Map of the Coastline from Piran as Far as Izola - Walters W658178B - Full Page-edit.jpg|thumb|[[Map Piri Reis] o'r arfordir o Piran hyd at Izola]]

 
Piran cyn diweddd y 19g
 
Sgwâr Tartini ("Tratinjev trg") fel y mae heddiw

Daw enw'r ddinas o'r gair Groeg pyr sy'n golygu "tân". Yn wir, yng nghyfnod Gwlad Groeg, gosodwyd goleudy ar y penrhyn a chyhoeddodd y fynedfa i borthladd "Aegidia", y Koper cyfredol. Yna daeth y Rhufeiniaid o hyd i ddinas o'r enw Piranum ar y penrhyn ar ôl eu buddugoliaeth dros y llwythau cyfagos. Syrthiodd y dref fach dan adain Gweriniaeth Fenis o'r 13g. Parhaoedd llywodraethiant Fenis am bron i 5 canrif, gyda Piran yn gynghreiriad ffyddlon i'r ddinas. Yn 1692 ganwyd Giuseppe Tartini yn Pirano. Enwyd prif sgwâr y dref er anrhydedd iddo sawl canrif yn ddiweddarach a chodir cerflun ar gyfer daucanmlwyddiant ei eni.

Yna pasiodd Piran/Pirano dan reolaeth Ymerodraeth Awstria, nes iddi gael ei chysylltu â'r Eidal ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf fel rhan o Cytundeb Saint-Germain. Cymerwyd y cyfan fwy neu lai o de-ddwyrain tiriogaeth y Slofeniaid gan yr Eidal wedi'r Rhyfel Mawr gan ddioddef polisiau gwrth iaith a diwylliant Slofeneg gan lywodraeth ffasgaidd Mussolini. Tu diwedd yr Ail Ryfel Byd cipiodd fyddin Partizan comiwnyddol Tito diroed Slofenaidd gan gipio Piran ac yna Trieste ar 1 Mai 1945. Cafwyd cadoediad rhwng y Comiwnyddion Iwgoslafaidd â'r Cynghreiriaid gan rannu'r tiriogaeth o gylch Bae Trieste yn ddau barth fel rhan o Diriogaeth Rydd Trieste. Canfu Piran yn rhan o Barth B ac o dan weinyddiaeth Iwgoslafia. Daeth TRT i ben gyda Gytundeb Llundain yn 1954 pan ddaeth Piran yn ran o Weriniaeth Iwgoslafia Slofenia ym 1954. Gyda chwymp Iwgoslafia yn 1991, daeth Piran yn ran o weriniaeth annibynnol Slofenia.

Piran HeddiwGolygu

Mae bae Piran, un o'r prif fynedfeydd i'r môr yn Slofenia heddiw, yng nghanol gwrthdaro morwrol â Croatia. Oherwydd anghydfod ynghylch y ffiniau morwrol, gwrthwynebodd Slofenia esgyniad Croatia i'r Undeb Ewropeaidd. Yn 2010, dilyswyd cytundeb rhwng y ddwy wlad, yna’i gadarnhau ar 5 Mehefin yn dilyn trwy refferendwm yn Slofenia, gyda 51.48% ie. Mae'r bleidlais hon, a ddaw ar ôl pleidlais Senedd Croateg, yn dileu yn bendant rwystr pwysig i esgyniad cyflym Croatia i'r Undeb Ewropeaidd, y mae'r wlad hon yn gobeithio amdano ar gyfer 2012.[1] Ar 24 Hydref 2010, daw Piran / Pirano yn fwrdeistref gyntaf cyn-Iwgoslafia i ethol maer du, Peter Bossman.[2]

Piran yw sedd Prifysgol Ewro-Canoldir Slofenia (EMUNI - Euro-Mediterranean University of Slovenia), a sefydlwyd yn 2008 fel un o brosiectau diwylliannol Proses Barcelona: Undeb Môr y Canoldir. Mae Orielau Piran Coastal, sefydliad cyhoeddus sy'n cwmpasu grŵp o chwe oriel gelf gyfoes gyhoeddus, wedi'i leoli yn Piran.[3]

DemograffegGolygu

Rhwng 1999 a 2008, arhosodd poblogaeth tref Piran yn agos at 17,000 o drigolion.[4].

Yn ôl cyfrifiad iaith Awstria 1910, roedd 7,379 o drigolion yn y dref ei hun (95.97%) yn Eidalwyr a 0.09% yn Slofeniaid. Ym 1945, roedd gan y dref ei hun 5,035 o drigolion, 91.32% Eidaleg ac 8.54% o siaradwyr Slofenaidd. Ym 1956 roedd 3.574 o drigolion, 67.6% Slofeneg a 15.5% Eidaleg. Dylid cofio mae'r arfer am ganrifoedd oedd mai Eidalwyr oedd preswylwyr canol trefi neu hen drefi gaerog megis Piran a Koper, tra fyddai'r cefn gwlad o fewn km neu ddwy o'r dref yn gadarn Slofeneg neu Croatieg eu hiaith. Ar ôl 1947, newidiodd y cyfansoddiad ethnig yn radical oherwydd alltudiad yr Eidalwyr i'r Eidal a'u disodli gan ymsefydlwyr Slofenaidd, o ardaloedd eraill yn Istria Slofenia ac o rannau mewnol o'r wlad.

TwristiaethGolygu

Dinas Piran a'i phensaernïaeth ganoloesol yw un o'r prif gyrchfannau i dwristiaid ar arfordir Slofenia. Mae Portorož sy'n rhan o fwrdeistref Piran, yw gyrchfan glan môr bwysicaf yn y wlad. Maes Awyr Portorož, ger ffin Croatia, yw trydydd maes awyr rhyngwladol y wlad ac mae'n gwasanaethu nid yn unig arfordir Slofenia ond hefyd y dinasoedd cyfagos yn yr Eidal a Chroatia.

AmgueddfeyddGolygu

Ger harbwr yr hen dref mae tair amgueddfa sy'n gysylltiedig â'r môr. Mae'r Acwariwm yn Kidriĉevo nabrežje 4 yn dangos ffawna morol yr Adriatig. Mae'r Pomorski muzej (amgueddfa forol) yn Cankarjevo nabrežje 3 yn cyflwyno defnydd economaidd y môr (pysgota, morio Slofenia, echdynnu halen). Mae pod Muzej vodnihdejavnosti (amgueddfa danddwr) yn Župančičeva 24 yn delio â deifio ac yn dangos, er enghraifft, llongddrylliadau.

Pobl enwogGolygu

  • Giuseppe Tartini, feiolinydd a chyfansoddwr Eidaleg
  • Cesare Dell’Acqua (1821-1905), paentiwr Eidaleg
  • Domingo Brescia (1866-1939), cyfansoddwr ac athro cerdd Eidalaidd
  • Alenka Dovžan (* 1976), rasiwr sgïo Slofeneg

GefeillioGolygu

Mae Piran yn gefeilldref â sawl thref dramor unai, yn ystod ei chyfnod yn rhan o Iwgoslafia neu fel rhan o Slofenia annibynnol:[5]

OrielGolygu

DolenniGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Différend frontalier: "oui" slovène à l'accord Slovénie-Croatie". Agence France Presse. 6 Mehefin 2010. Cyrchwyd 9 Mehefin 2010.
  2. AFP, "Obama de Piran" : un premier maire noir pour la Slovénie, par Bojan Kavcic
  3. "Obalne galerije - Coastal Galleries". Culture.si. Cyrchwyd 5 January 2012.
  4. (Saesneg) "Démographie de Piran". Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
  5. "Twin towns & municipalities, cooperation". Municipality of Piran. Cyrchwyd 7 January 2019.