Llosg eira
Wlser ar aelodau pellaf y corff ydy llosg eira (Saesneg: chilblains neu pernio) sy'n effeithio rhai pobl. Mae'n digwydd ar dywydd oer a phan fo diffyg yng nghylchrediad y gwaed. Gellir ei atal rhag digwydd drwy wisgo dillad cynnes. Mae'n digwydd yn aml ar draed neu ddwylo.
Gall gymryd rhai wythnosau iddo ddiflannu.
Meddygaeth amgen Golygu
Dywedir fod te sunsur neu sinemon neu wreiddyn yr angela yn dda ato.[1] Dywedir y gall y canlynol hefyd helpu: pupur du, lemon a rhosmari.
Gweler hefyd Golygu
- Rhestr o afiechydon a phlanhigion gyda rhinweddau meddygol
- Ewinrhew (Sa: frostbite)
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ The Family Book of Home Remedies gan M van Straten; Cyhoeddwyd gan Ivy Press Ltd 1998.