Rita Williams

darlithydd ac ieithydd Celtaidd (1933 - 2018)

Academydd o Gymru a arbenigodd ar yr iaith Lydaweg oedd Rita Williams (19333 Medi 2018).[1] Gweithiodd yn ddiflino i hybu cyfeillgarwch rhwng Cymru a Llydaw. Cafodd ei hethol yn Aelod o'r Orsedd er Anrhydedd yn 1994, ac yna derbyniodd wobr Urzh an Erminig (Urdd y Carlwm) yn 1996.

Rita Williams
GanwydMargretta Morgan
1933 Edit this on Wikidata
Cwm-gors Edit this on Wikidata
Bu farw3 Medi 2018 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethieithydd, academydd, ymchwilydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Carlwm Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Magwyd hi ym mhentre glofaol Gwaun-Cae-Gurwen gyda'i chwaer hŷn Mary. Roedd eu tad yn löwr.[2] Roedd ei hiechyd yn fregus trwy ei hoes a threuliodd amser yn ysbyty Abertawe yn ystod y rhyfel. Roedd hi'n dioddef o Bronciectasis ac afiechyd coeliac, ac aeth yn sâl iawn lawer gwaith.

Cwrddodd â'i gŵr, y Parchedig Carl Williams tra roedd y ddau yn gweithio i'r Urdd. Fe briodon nhw yn 1969, a dilynodd Rita Carl i'w amrywiol gapeli y Bedyddwyr: ym Mhontarddulais, Penygroes ac Abergwaun. Roedd y ddau yn hoelion wyth y gymuned Gymraeg yn Abergwaun yn enwedig, ac yn ogystal â dyletswyddau y capel buon nhw'n gyfrifol am gyhoeddu'r papur bro lleol (Y Llien Gwyn), dysgu Cymraeg i oedolion a threfnu teithiau i grwpiau gefeillio i Lydaw, ac o Lydaw i Gymru.

Roedd Rita a Carl yn dwlu mynd i Lydaw am fis yn yr haf bob blwyddyn mewn carafán. Roedd llawer iawn o ffrindiau gyda nhw yn y wlad honno. (Aeth hyn ymlaen hyd yn oed pan roedd Rita dros ei 80). Bu farw Carl yn ddisymwth yn 2017, a Rita yn 2018. Doedd dim plant gyda nhw.

Addysg

golygu

Addysgwyd hi yn yr ysgol leol yng Ngwaun-Cae-Gurwen ac yna Ysgol Ramadeg Pontardawe.

Graddiodd Rita yn y Gymraeg (gradd dosbarth cyntaf) yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ym 1955. Yna bu’n ymchwilio i gystrawen Llydaweg Canol, gan gyflwyno traethawd ‘Dadansoddiad cystrawenol o rai testunau Llydaweg Canol’ am radd MA ym 1958. Enillodd gymrodoriaeth hynaf Prifysgol Cymru i astudio Llydaweg Diweddar yn Adran Geltaidd Prifysgol Llydaw yn Roazhon (Rennes), ac yn Aberystwyth, ar gyfer PhD ar y testun ‘Yr Arddodiad mewn Llydaweg Diweddar’.

Cyn iddi hi ddechrau dysgu roedd hi'n Drefnydd Ieuenctid Sir Gaerfyrddin llawn amser i Urdd Gobaith Cymru yn 1956/7.

Wedi cyfnod yn dysgu mewn ysgolion uwchradd (Ysgol Ramadeg Ystalyfera ac Ysgol Uwchradd Pantycelyn, Llanymddyfri), dechreuodd ddarlithio yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1966. Roedd ei chyfrifoldebau yn eang iawn, ac yn cynnwys Llydaweg, Cernyweg, Gwyddeleg yn ogystal â llenyddiaeth Gymraeg o gyfnodau gwahanol. Yn 1972 fe’i hapwyntiwyd gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i fod yn gyfrifol am ddysgu Astudiaethau Llydewig, Llydaweg Diweddar, Llydaweg Canol a Chernyweg Canol, yn dilyn marwolaeth ddisyfyd J.R.F Piette (Arzel Even).  Datblygodd ac ehangodd Rita y ddarpariaeth Llydaweg, gan gynorthwyo hefyd yng Ngoleg Dewi Sant, Llanbedr-pont-Steffan, tan ei hymddeoliad yn 1987.

Fel darlithydd rhoddodd Rita flaenoriaeth i’r gwaith o baratoi adnoddau ar gyfer astudio iaith a llenyddiaeth Llydaw, gan nad oedd deunydd priodol ar gael yn Gymraeg nac yn Saesneg. Felly fe gyhoeddodd eiriaduron: Geiriadur Bach Llydaweg-Cymraeg (1984), Geiriadur Brezhonek-Kembraek (1984); a gwerslyfr Cyflwyno’r Llydaweg, sef addasiad o lawlyfr dylanwadol Per Denez Brezhoneg… buan hag aes, gydag ychwanegiadau (1981), a nifer fawr o gyfieithiadau o weithiau llenyddol.

Wedi iddi ymddeol, parhaodd hi fel Arholwr Allanol i Adran y Gymraeg ym Mhrifysol Caerdydd. Bu hi hefyd yn arholwr allanol i Adran y Gymraeg Coleg y Drindod Caerfyrddin. Parhaodd Rita gyda'r gwaith geiriadura gan greu geiriadur newydd cyflawn Llydaweg-Cymraeg a roddwyd arlein gan Dyfrig Berry yn 2023.[3] Y ddolen gyswllt yw: https://bzh.cymru/cy . Mae Dyfrig nawr yn gweithio ar roi ei geiriadur Cymraeg-Llydaweg arlein.

Cysylltiadau â Llydaw

golygu

Roedd Rita Williams mewn cysylltiad gyda nifer o Lydawyr amlwg, yn arbennig felly Pêr Denez. Tystia’r ohebiaeth rhyngddi hi a Pêr Denez i’r cydweithio a chydgynllunio a ddigwyddod rhwng Cymru a Llydaw yn y byd cyhoeddi.[4] Bu hefyd yn weithgar gyda phwyllgorau gefeillio, yn benodol rhai Llandeilo a Konk-Leon (Le Conquet); Crymych a Plouveilh (Plomelin); Llanymddyfri a Pluguen (Pluguffan); Trefdraeth, Sir Benfro a Plougin (Plouguin);  gan groesawu ymwelwyr a gweithredu weithiau fel cyfieithydd. Byddai hi’n hwyluso teithiau gan fyfyrwyr a disgyblion ysgol o Lydaw i Gymru. Bu’n weithgar iawn yn Llydaw hefyd, gan ddysgu’r Gymraeg i Lydawyr mewn ysgolion haf yno am flynyddoedd; rhoddodd anerchiad ar Gymru yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant (Lorient) yn Awst 1975, a thraddododd ddwy gyfres o ddarlithiau yn Llydaweg ym Mhrifysgol Roazhon (Rennes) o dan nawdd Y Cyngor Prydeinig yn 1983. Roedd hi’n gohebu gyda’r bardd Naig Rozmor ac Ivona Martin.

Cyfieithu llenyddol o’r Llydaweg i’r Gymraeg

golygu
  • Straeon byrion gan Roparz Hemon: ‘Brenhines ei Galon, ‘Kaourintina’ a ‘Menyw Dda’, a ymddangosodd yn Storïau Tramor II gol. Robert Maynard Jones (Llandysul: Gomer, 1975)
  • Straeon byrion gan Ronan Huon: ‘Llygedyn o Haul’, ‘Bywyd’ a ‘Tawelwch y Nos’, yn Y Traethodydd (Gorffennaf 1984), a: ‘Diwrnod Gwlyb’, ‘Diwedd y Dydd’, ‘Gwraig Fach Fitw’, a ‘Cân i Lawenydd’ yn Storïau o’r Llydaweg (1979). Cyhodeddwyd dau gyfieithiad arall o straeon Ronan Huon yng nghylchgrawn Taliesin, sef ‘Prynhawnddydd (Abardaez)’ a ‘Pen ar Bed (Pen Draw’r Byd)’ (2004, 2005)
  • Drama a cherddi gan Naig Rozmor, Y Meistr: a detholiad o gerddi (Brest: Liogan, Emgleo Breiz, 2001)

Prif gyhoeddiadau

golygu
  • Storïau o’r Llydaweg (Llandysul: Gomer, 1979)
  • Cyflwyno’r Llydaweg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1981)
  • Gyda Gwyn Griffiths, Dramâu Tangi Malmanche (Christopher Davies, 1982)
  • Geiriadur Bach Llydaweg - Cymraeg (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, 1984)
  • Geiriadur Brezhonek-Kembraek (Lannion: Hor Yezh, 1984)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "WILLIAMS, MARGARETTA (Rita) (1933 - 2018), darlithydd ac ieithydd Celtaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-07-31.
  2. Evans, Meirion (2018). "Teyrnged Meirion Evans i Rita Williams". Y Faner Newydd 86: 42-43.
  3. https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2120271-geiriadur-llydaweg-cymraeg
  4. Corvec, Marie-Alice Le (2024-01-15). "Rita Williams's papers". DReAM-CollEx (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2024-01-16.

Dolenni allanol

golygu