George Lewis

gweinidog gyda'r Annibynwyr, a diwinydd

Diwinydd, athro a gweinidog Annibynnol o Sir Gaerfyrddin oedd George Lewis (17635 Mehefin 1822).[1] Roedd yn ysgolhaig galluog a chafodd ei waith ddylanwad mawr ar ddatblygiad diwinyddiaeth yng Nghymru yn y 19g. Mae Lewis yn fwyaf adnabyddus fel awdur y gyfrol o ddiwinyddiaeth systematig, Y Drych Ysgrythyrol, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1796. Daeth y gyfrol sylweddol hon yn werslyfr ar gyfer addysg ddiwinyddol Gymraeg yn ystod y 19g.[2]

George Lewis
Ganwyd1763 Edit this on Wikidata
Tre-lech Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mehefin 1822 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Academi Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd Edit this on Wikidata

Cefndir ac addysg golygu

Ganed Lewis ym 1763 mewn bwthyn gwledig o'r enw 'Y Coed' oedd yn sefyll rhwng Sanclêr a Thre-lech, Sir Gaerfyrddin, yn unig blentyn William a Rachel Lewis.[3] Pan oedd yn faban symudodd y teulu i fferm Y Fantais oedd ychydig yn nes i Dre-lech. Aelodau o Eglwys Loegr, oedd ei rieni, ond, yn ddiweddarach, daeth y tad yn aelod o'r eglwys Annibynnol yn Nhre-lech. Cafodd Lewis fanteision addysgol gwell na'r arfer i fechgyn cefn gwlad Cymru ei oes. Cafodd hyfforddiant cychwynnol mewn ysgolion offeiriaid Llanddowror a Thre-lech. Pan ymunodd ei dad a'r Annibynwyr dechreuodd Owen Davies,[4] gweinidog yr Eglwys Annibynnol yn Nhre-lech dysgu George ifanc. Mynychodd ysgol John Griffiths, Glandŵr[5] ac ysgol enwog Dafydd Dafis Castellhywel.[6] Ym 1781 derbyniwyd ef i'r coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin, lle bu'n astudio am radd Doethur Diwinyddiaeth (D.D.) o dan Robert Gentleman.[7]

Gyrfa golygu

Gweinidog yr efengyl golygu

Ymunodd Lewis ag Eglwys Annibynnol y Graig, Tre-lech, pan oedd yn un ar bymtheg oed. Yn fuan ar ôl dod yn aelod dechreuodd bregethu a mynegi ei awydd i ddod yn weinidog.[2]

Ymadawodd a'r coleg ar ddiwedd 1784 ac ar ddechrau 1785 derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar Annibynwyr tref Caernarfon a'r cylch. Er bod ychydig o Annibynwyr wedi bod yng Nghaernarfon ers 1722, dim ond dwy flynedd ynghynt y sefydlwyd achos ffurfiol gan yr enwad yn yr ardal. Roedd y gynulleidfa yn cyfarfod mewn tŷ wrth ymyl y dref, o'r enw Treffynnon oedd yn sefyll ar y ffordd i Lanberis. Yn y tŷ hwn ordeiniwyd Lewis.[8] Yn ystod ei gyfnod o ddeng mlynedd yn y dref aeth Lewis ati i gryfhau'r achos ac i adeiladu capeli pwrpasol yn y cylch gan gynnwys Capel Pendref a agorwyd yn 1792.[9]

Er ei lwyddiant i gryfhau'r achos wynebodd Lewis lawer o wrthwynebiad câs gan arweinwyr a chefnogwyr yr Eglwys Sefydledig yn yr ardal. Perodd yr wrthwynebiad iddo droi yn weriniaethwr cryf[1] a phenderfynodd ymfudo i'r Unol Daleithiau a oedd newydd ennill ei ryddid oddi wrth goron Lloegr. Perswadiwyd o i beidio croesi'r Iwerydd pan gafodd gwahoddiad gan Thomas Jones, gŵr cyfoethog o Gaer, iddo fod yn arolygydd ar nifer o Ysgolion Teithiol y bwriadaid eu sefydlu yng ngogledd Cymru.[2]

Ar yr un pryd a chafodd Lewis gynnig i fod yn arolygydd ysgolion Jones, derbyniodd hefyd galwad i fod yn weinidog achos Annibynwyr Llanuwchllyn. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Llanuwchllyn ym 1795 a pharhaodd 17 mlynedd hyd 1812[10]

Ychydig ar ôl iddo ymsefydlu yn Llanuwchllyn cyhoeddwyd llyfr gyntaf Lewis, Drych Ysgrythyrol; neu Gorph o Dduwinyddiaeth; yn cynnwys eglurhad a phrawf o amrywiol ganghennau yr athrawiaeth sydd yn ôl duwioldeb[11] Er ei holl lafur yn arolygu ysgolion a pharatoi llyfrau daeth o hyd i amser i hyrwyddo a chynnal adfywiad crefyddol pwerus ymysg Annibynwyr Penllyn.[3]

Athro golygu

Yn ystod ei gyfnod yn Llanuwchllyn derbyniodd Lewis nifer o alwadau gan eglwysi eraill gan gynnwys Dinbych, Machynlleth, Llanfyllin a Llundain, ond fe'i gwrthododd i gyd. Y mae'n eglur na feddyliodd symud o Lanuwchllyn. Ym 1812 daeth cynnig iddo a berodd iddo newid ei feddwl sef cyfle iddo i ymgymryd â gwaith athro Coleg.[2]

Sefydlwyd Athrofa i baratoi dynion ar gyfer weinidogaeth yr Annibynwyr Cymreig yn y Fenni ym 1757. Apwyntiwyd David Jardine, gweinidog Annibynnol y dref, yn bennaeth. Ym 1781, symudodd yr Athrofa i Groesoswallt i fod dan ofal Dr Edward Williams.[12] Pan symudodd Dr Williams i fod yn weinidog ym Mirmingham symudodd yr Athrofa i Wrecsam, lle yr arhosodd am 24 mlynedd dan ofal Jenkin Lewis, gweinidog y dref.[13] Ym 1811, gwahoddwyd Jenkin Lewis i gychwyn athrofa ym Manceinion a chydsyniodd.[14] Penodwyd George Lewis fel olynydd Jenkin Lewis.

Ymhen tair blynedd ar ôl ei benodi yn athro, derbyniodd Lewis dwy alwad, y naill oddi wrth eglwys Gymraeg yn Lerpwl, a'r llall o Lanfyllin. Ni oedd y Bwrdd yn fodlon symud yr Athrofa i Lerpwl, ond nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i Lewis dderbyn yr alwad o Lanfyllin. Wedi i Lewis sefydlu yn Llanfyllin dechreuodd ei iechyd dirywio a phenderfynwyd penodi ail athro i'w cynorthwyo yn y gwaith, sef Edward Davies,[15] a ddaeth wedyn yn fab yng nghyfraith iddo.[16]

Myfyrwyr golygu

Ymysg myfyrwyr George Lewis fu:

Teulu golygu

Ar 22 Hydref 1787, yn Eglwys Gadeiriol Bangor, priododd Lewis â Jane, ail ferch Thomas Jones, o Bodermid. Bu iddynt dri o blant; Llawfeddyg yn Wrecsam oedd George, yr hynaf; Roedd William J. Lewis, yr ail fab, hefyd yn feddyg, ac yn dad i'r archeolegydd Bunnell Lewis[24], ac i Samuel Savage Lewis, Cymrawd a Llyfrgellydd Coleg Corpus Christi, Caergrawnt; priododd eu merch, Sara, ag Edward Davies, ei athro cynorthwyol yn yr athrofa.

Marwolaeth golygu

Ar ôl cyfnod o bum mlynedd yn Llanfyllin danfonodd Lewis lythyr i fwrdd yr athrofa am ganiatâd i symud yr academi o Lanfyllin i'r Drenewydd. Roedd ei iechyd yn gwaethygu ac roedd un o'i feibion, ar y pryd, yn feddyg yn y Drenewydd. Methiant bu pob triniaeth gan ei fab a bu farw Lewis yn 59 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent y Capel Newydd, Drenewydd.

Cyhoeddiadau golygu

  • Drych Ysgrythyrol; neu Gorph o Dduwinyddiaeth; yn cynnwys eglurhad a phrawf o amrywiol ganghennau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. (Jones a Crane, Caer 1797)
  • Esboniad ar y Testament Newydd, 7 cyfrol
    • Cyfrol I. Matthew, Marc, Luc. (1802.)
    • II. Ioan, Actau.
    • III. Rhufeiniaid. (1810.)
    • IV. 1, 2 Corinthiaid, Galatiaid. (1815.)
    • V. Ephesiaid, Colossiaid, Philippiaid, 1, 2 Thesaloniaid, 1, 2 Timotheus, Titus. (1825.)
    • VI. Hebreaid, Iago, 1, 2 Pedr, 1, 2, 3 Ioan, Iwdas. (1828.)
    • VII. Datguddiad. [nb 1]
  • Cyfiawnhad trwy ffydd neu draethawd yn gosod allan y dull a'r amser y mae Cyfiawnder Crist yn cael ei weithredol gyfrif i bechadur
  • Galwad ar Ieuengctyd i gofio eu creawdur.
  • Athrawiaeth Etholedigaeth wedi ei gosod allan mewn pregeth (1 Thess. 1:4).
  • Henuriaid yn mhob eglwys neu sylwedd pregeth ar Actau 14:23
  • Buddioldeb dwyfol wirioneddau, neu sylwedd tair pregeth ar Actau 20:20
  • Arweinydd i'r Anwybodus, yn cynnwys cyfarwyddiadau i'r anllythrennog i ddysgu darllen.
  • Catecism athrawiaethol ac ymarferol
  • Galwad gyffredinol yr Efengyl
  • Gorfoledd Crist yn y nef.
  • Catecism y Gymanfa.
  • Catecism eglwysig, neu hyfforddiad Ysgrythyrol mewn perthynas i natur eglwys Efengylaidd, ei hawdurdod a'i rhagoriaethau ei swyddogion, ei disgyblaeth.
  • Mawl o enau plant bychain neu gasgliad bychan o hymnau Ysgolion Sabbothol allan o waith Isaac Watts, D.D. (35 o Emynau).
  • Arweinydd i blentyn.
  • Gogoneddus ddirgelwch trugaredd Duw. (Traddodwyd y bregeth ym Methania, Sir Gaerfyrddin, Mehefin 1, 1809)

Cyhoeddodd, hefyd, nifer o emynau,[nb 2] ond prin yw unrhyw ddefnydd ohonynt mewn canu cynulleidfaol bellach.

Nodiadau golygu

  1. Cyhoeddwyd cyf. V, VI, VII ar ôl marwolaeth George Lewis gan Edward Davies (mab yng nghyfraith George Lewis) a George Lewis (meddyg yn Wrecsam a mab George Lewis), ac y mae'n eglur mai Edward Davies ysgrifennodd yr esboniadau ar rai o'r Epistolau ac ar Lyfr Datguddiad [25]
  2. Gweler Categori:George Lewis ar Wicidestun am enghreifftiau

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "LEWIS, GEORGE (1763-1822), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a diwinydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Lewis, Thomas (Mawrth 1934). "George Lewis, 1763-1822". Y Cofiadur: sef Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru 10-11: 8. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1085539/1085945/4#?xywh=-742%2C-105%2C4613%2C2999.
  3. 3.0 3.1 "Lewis, George (1763-1822), Independent minister and theologian". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/16584. Cyrchwyd 2021-06-06.
  4. "DAVIES, OWEN (1719 - 1792), gweinidog Annibynnol yn Nhre-lech, etc.; | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  5. "GRIFFITHS, JOHN (1731 - 1811), ysgolfeistr a phregethwr, Glandŵr. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  6. "DAVIS, DAVID ('Dafis Castellhywel'; 1745-1827), gweinidog Ariaidd, bardd, ac ysgolfeistr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  7. THE CONGREGATIONAL HISTORY CIRCLE MAGAZINE Cyfrol 2, Rhif. 7, 1991-9 tudalen 25 "Robert Gentleman ( 1745-1795)- Minister, Tutor and Youth Leader gan Trevor Watts adalwyd 6 Mehefin 2021
  8. Y Dysgedydd Crefyddol Cyf. XVIII rhif. 207 - Chwefror 1839 tud 62-65 "AD-AGORIAD ADDOLDY YR ANNIBYNWYR YN NGHAERYNARFON" adalwyd 6 Mehefin 2021
  9. "History Points - Former Capel Pendref, Caernarfon". historypoints.org. Cyrchwyd 2021-06-06.
  10. Y Cenhadwr Americanaidd; Cyf. 29 rhif. 348 - Rhagfyr 1868 tud 356, Y Parch George Lewis DD adalwyd 6 Mehefin 2021
  11. "Lewis, George (1763-1822)". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). 1892. doi:10.1093/odnb/9780192683120.013.16584. Cyrchwyd 2021-06-06.
  12. "WILLIAMS, EDWARD (1750 - 1813), diwinydd ac athro Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-04.
  13. Y Llenor Cyf. 15, Rh. 1-4, 1936 YR ACADEMIAU ANGHYDFFURFIOL YNG NGHYMRU II. ACADEMIAU'R ANNIBYNWYR. Adferwyd 4 Meh 2021
  14. "LEWIS, JENKIN (1760 - 1831), gweinidog ac athro Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  15. "DAVIES, EDWARD (1796 - 1857), gweinidog ac athro Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  16. "DAVIES, EDWARD (1796 - 1857), gweinidog ac athro Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-04.
  17. "ROBERTS, SAMUEL (' S.R. '; 1800 - 1885), gweinidog gyda'r Annibynwyr, golygydd, diwygiwr Radicalaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  18. "JONES, MICHAEL (1787 - 1853), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro cyntaf Coleg Annibynnol y Bala | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  19. "EVERETT, ROBERT (1791 - 1875), a'i frawd EVERETT, LEWIS (1799 - 1863); gweinidogion gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  20. "JONES, CADWALADR (1783 - 1867), gweinidog gyda'r Annibynwyr a golygydd cyntaf Y Dysgedydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  21. "WILLIAMS, WILLIAM (1781 - 1840), o'r Wern,' gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  22. "BOWEN, SAMUEL (1799 - 1887), Macclesfield, athro a gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  23. "BREESE, JOHN (1789 - 1842), gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-06.
  24. "Lewis, Bunnell", Dictionary of National Biography, 1912 supplement Volume 2, https://en.wikisource.org/wiki/Dictionary_of_National_Biography,_1912_supplement/Lewis,_Bunnell, adalwyd 2021-06-06
  25. Y Cofiadur Rhif 10/11, (Maw. 1934) "Gweithiau Diwinyddol George Lewis"