Cwyllog

santes Geltaidd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Santes Cwyllog)

Santes Gymreig o ddechrau'r 6g oedd Cwyllog (neu Cywyllog)[1]. Ychydig a wyddys amdani ond mae ei henw anghyffredin yn awgrymu tarddiad Celtaidd. Fel oedd yn arferol yn Oes y Seintiau roedd hi yn perthyn i nifer o seintiau eraill. Dywedir iddi sefydlu Eglwys St Cwyllog ym mhentref Llangwyllog, yng nghalon Ynys Môn. Dethlir ei dydd gŵyl yn flynyddol ar 7 Ionawr.

Cwyllog
Eglwys Cwyllog Sant from the east - geograph.org.uk - 1394818.jpg
Eglwys Llangwyllog - a gysegrwyd i Santes Cwyllog.
Ganwyd 550 Edit this on Wikidata
Rheged Edit this on Wikidata
Man preswyl Llangwyllog Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Blodeuodd 520 Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 7 Ionawr Edit this on Wikidata
Tad Coel Hen Edit this on Wikidata
Priod Medrawd Edit this on Wikidata

BywgraffiadGolygu

Roedd Cwyllog yn ferch i Caw neu Coel o Rheged un o pennaethiaid yr Hen Ogledd a gollodd ei diroedd ac a ddihangodd i ogledd-ddwyrain Môn gyda'i deulu, lle cafodd dir yn anrheg gan Faelgwn Gwynedd ar yr amod eu bod yn canolbwyntio ar grefydd a pheidio a cheisio gwladfa iddynt eu hunain[2]; sefydlodd ar y tir a elwir yn Twrcelyn.[3]. Roedd gan Cwyllog dair chwaer: Cain, Peithien a Gwenafwy a sawl brawd gan gynnwys y seintiau Gildas, Allgo ac Eugrad. Mae'r union nifer o frodyr a chwiorydd (rhwng 10 a 21) yn dibynnu ar ba femrwn a ddarllenir.[3][4]

Gŵr Cwyllog oedd Medrod, nai i'r Brenin Arthur ac yn ôl yr hanesydd Angharad Llwyd yn ei llyfr Hanes Môn, trodd at yr eglwys wedi marwolaeth Medrawd ym Mrwydr Camlan oddeutu 537.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Baring-Gould, t. 279.
  2. Baring-Gould, S a Fisher,J. gol. Bryce, 1990, Lives of the British Saints, Llanerch
  3. 3.0 3.1 Baring-Gould, pp. 92–94
  4. Baring-Gould, p. 55.

Gweler hefydGolygu