Coetan Arthur/Cromlech Cefnamwlch

siambr gladdu yn Nhudweiliog, Gwynedd
(Ailgyfeiriad o Siambr gladdu Cefnamwlch)

Cromlech o'r Oes Neolithig sy'n sefyll hanner ffordd i fyny llethr gogleddol Mynydd Cefnamwlch, Tudweiliog, Llŷn, Gwynedd, yw Coetan Arthur. Fe'i hadnabyddir hefyd yn ôl yr enw Cromlech Cefnamwlch. I'w chyrraedd bydd gofyn trafeulio ar hyd y B4417 o gyfeiriad Llangwnnadl neu Dudweiliog a throi oddi arni ym Meudy Bigin/Bigyn ble mae'r lôn yn fforchio ac yn ymuno â Lôn Trigwm i gyfeiriad Sarn Mellteyrn. Tua 200m ar hyd Lôn Trigwm mae adwy i un o gaeau Cefnamwlch ar y dde ac fe welwch arwydd pren yn dynodi'r ffordd i fyny lethr Mynydd Cefnamwlch a thuag at y gromlech. Bydd y gromlech i'w gweld yn glir o'ch blaen. Noder er nad yw graddfa'r esgyniad yn sylweddol, gall gerdded i fyny'r cae tuag at y gromlech fod yn ddipyn o brawf i bobl nad ydynt yn arfer cerdded llethrau! Noder hefyd fod y gromlech o fewn cae amaethyddol ac yn aml bydd gwartheg yn pori yno a bydd y tir yn fwdlyd yn ystod tywydd garw.

Cromlech Cefnamwlch
Y gromlech ar ddiwrnod heulog o aeaf.
Mathcarnedd gellog, safle archeolegol cynhanesyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.879198°N 4.632026°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH22973456 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN002 Edit this on Wikidata

Mae'r gromlech ei hun wedi ei hamgylchynu gan ffens fodern haearn i'w hamddiffyn ond mae carreg fawr wen wrth ei hochr lle mae posib eistedd a mwynhau'r gromlech a'r olygfa tua'r gogledd. Ar ddiwrnod clir mae posib gweld yn bell heibio Garn Fadryn, yr Eifl a mynyddoedd Eryri a thua Ynys Môn.

Hanes a chwedlau yng nghlwm â'r gromlech golygu

Yn ôl pob tebyg, defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid ar gyfer defodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.

Wrth gwrs does dim tystiolaeth gennym bellach o phwy a pham yr adeiladwyd y gromlech yma ar lethr gwelltog Mynydd Cefnamwlch gan yr hendeidiau cynnar, ond mae gennym chwedlau sy'n ein clymu ni i'r adeilad hynafol cyntefig unig yma:

"Coetan Arthur – Dywed traddodiad i Arthur luchio'r Penllech, y 'goeten', o ben Garn Fadrun i Fynydd Cefnamwlch a bod ei wraig wedi cario'r tair carreg yno yn ei barclod a'u gosod ar eu pennau i ddal y garreg fawr."[1]

Ac yna mae esboniad arall ar gael yn llyfr W. Arvon Roberts, Lloffion Llŷn:

"Yn ôl yr hanes, cludwyd y cerrig wyth milltir i ffwrdd o Fynyddoedd yr Eifl, ac mae traddodiad bod un o'r brenhinoedd Cymreig wedi ei gladdu oddi tanynt." [2]

Yna, mae ychydig mwy o wybodaeth am strwythur gwreiddiol y gromlech (yn wyrthiol!) ar gael:

"The main feature is a large rectangular capstone, with flat underside and ridged top, carried on the supporters. The S.W. side of the chamber may originally have been dosed by a fourth supporter, now prostrate, and dry walling of which a fragment remains. A large rectangular slab some 6 ft N. of the tomb may have been the capstone of another chamber." [3]

 
Y gromlech
Y gromlech 
 
Arwydd pren newydd yn dynodi'r cyfeiriad tuag at y gromlech oddi wrth Lôn Trigwm.
Arwydd pren newydd yn dynodi'r cyfeiriad tuag at y gromlech oddi wrth Lôn Trigwm. 

Llefydd eraill o ddiddordeb lleol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gruffydd, Elfed (1998), Cyfres Broydd Cymru, Llyn, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, pp. 18, ISBN 0863814921
  2. Roberts, W. Arvon (2009), Lloffion Llŷn, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, pp. 85, ISBN 9781845272388
  3. (1689) Chambered Tomb, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Haf 2010, http://crwydro.co.uk/edern/penllech/cromlechi-chambered-tombs/1689-chambered-tomb