Siaradwr olaf y Gernyweg

Roedd adnabod siaradwr brodorol olaf yr iaith Gernyweg yn bwnc o ddiddordeb academaidd yn y 18fed a’r 19eg ganrif, ac mae’n parhau i fod yn bwnc o ddiddordeb heddiw. Mae’r farn draddodiadol mai Dolly Pentreath (1692–1777) oedd siaradwr brodorol olaf yr iaith wedi’i herio gan dystiolaeth o siaradwyr olaf eraill posib, yn ogystal â chofnodion o bobl eraill oedd â gwybodaeth o’r iaith yn ddiweddarach, er nad oeddynt yn siaradwyr brodorol.

Siaradwr olaf y Gernyweg
Math o gyfrwngErthygl sy'n rhoi trosolwg Edit this on Wikidata
Prif bwncCernyweg Edit this on Wikidata

Mae ddiffyg recordiadau sain neu drawsgrifiadau yn cymhlethu adnabod siaradwr olaf yr iaith. Mae’n anodd iawn gwybod, heb dystiolaeth o’r fath, a oedd y rhai yr adroddwyd eu bod yn siarad Cernyweg yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif yn gallu siarad yr iaith yn rhugl, neu hyd yn oed a oeddent yn ei siarad o gwbl. Parhaodd is-haen o eirfa Gernyweg yn Saesneg Cernyw, ac mewn rhai achosion efallai bod y rhai a nodwyd fel siaradwyr Cernyweg yn siarad Saesneg gyda dylanwad Cernyweg trwm.

Er hyn, mae academyddion wedi gwneud cryn ymdrech ar y pwnc.

Mae'n debyg y bydd yn amhosibl sefydlu pwy oedd "siaradwr brodorol olaf" y Gernyweg oherwydd y diffyg ymchwil helaeth a wnaed ar y pryd a diffyg amlwg recordiadau sain yn dyddio o'r cyfnod. Mae anhawster hefyd gyda beth yn union a olygir wrth "siaradwr brodorol olaf", gan fod hyn wedi'i ddehongli mewn gwahanol ffyrdd. Mae'n well gan rai ysgolheigion ddefnyddio termau fel "siaradwr uniaith olaf", i gyfeirio at berson gyda'r Gernyweg yn unig iaith iddynt, "siaradwr brodorol olaf", i gyfeirio at berson a allai fod wedi bod yn ddwyieithog yn Saesneg a Chernyweg a hefyd"person olaf â gwybodaeth draddodiadol", hynny yw, rhywun a oedd â rhywfaint o wybodaeth o Gernyweg a oedd wedi'i throsglwyddo, ond heb astudio'r iaith fel y cyfryw.

Credir mai'r siaradwr uniaith Gernyweg olaf y gwyddys amdano oedd Chesten Marchant, a fu farw ym 1676 yn Gwithian . Nid yw'n hysbys pryd y ganwyd hi. Yn y 1680au dywedodd William Scawen fod gan Marchant "ychydig" ddealltwriaeth o'r Saesneg a'i bod wedi priodi ddwywaith.[1]

18fed ganrif

golygu
 
Llythyr William Bodinar, 3 Gorffennaf 1776

Ym 1742, aeth Capten Samuel Barrington o'r Llynges Frenhinol ar fordaith i Lydaw, gan gymryd gydag ef forwr o Mount's Bay yng Nghernyw. Roedd yn rhyfeddu y gallai'r morwr hwn gael ei ddeall gan siaradwyr Llydaweg. Ym 1768, bu brawd Barrington, Daines Barrington, yn chwilio am siaradwyr Cernyweg, ac yn Mousehole daeth o hyd i Dolly Pentreath, gwerthwr pysgod 76 mlwydd oed, "a allai siarad Cernyweg yn rhugl iawn". Ym 1775, cyhoeddodd hanes amdani yng nghyfnodolyn y Society of Antiquaries of London Archaeologia, dan y teitl "On the Expiration of the Cornish Language". Dywedodd ei fod hefyd wedi dod o hyd i ddwy wraig arall ym Mousehole, rhyw ddeg neu ddeuddeg mlynedd yn iau na Dolly Pentreath, nad oeddent yn gallu siarad Cernyweg yn rhwydd, ond a oedd yn ei deall.[2] Honnir yn aml mai Pentreath, a fu farw ym 1777, oedd siaradwr brodorol olaf y Gernyweg. Er gwaethaf ei hoff ymadrodd, "My ny vynnav kewsel Sowsnek!" ("Ni fyddaf yn siarad Saesneg !"), pan siaredid â hi yn yr iaith honno, roedd hi'n siarad rhywfaint o Saesneg o leiaf. Ar ôl ei marwolaeth, derbyniodd Barrington lythyr, wedi’i ysgrifennu yn y Gernyweg gyda chyfieithiad Saesneg, gan bysgotwr ym Mousehole o’r enw William Bodinar (sydd hefyd wedi’i sillafu Bodinnar a Bodener) yn nodi ei fod yn gwybod am bump o bobl a allai siarad Cernyweg yn y pentref hwnnw’n unig. Mae Barrington hefyd yn sôn am John Nancarrow o Marazion a oedd yn siaradwr brodorol ac a oroesodd i'r 1790au.[3][4] Ym 1797 dywedodd pysgotwr Mousehole wrth Richard Polwhele (1760–1838) fod William Bodinar “yn arfer siarad â hi am oriau gyda’i gilydd yn y Gernyweg; mai prin oedd neb o’r lle yn deall eu sgwrs; ac y gallai Dolly ac yntau siarad Saesneg".[5]

Mae Peter Berresford Ellis yn ymholi pwy oedd siaradwr olaf yr iaith, ac yn ateb:

We shall never know, for a language does not die suddenly, snuffed out with one last remaining speaker... it lingers on for many years after it has ceased as a form of communication, many people still retaining enough knowledge from their childhood to embark on conversations.

Mae hefyd yn nodi bod John Nancarrow o Marazion (Cernyweg: Marghasyow), yn gallu siarad yr iaith yn 1777 ac yntau heb gyrraedd 40 oed, a bod rhai Cernywiaid yn "cadw gwybodaeth o Weddi'r Arglwydd a'r Credo yn yr iaith" yn y 19eg ganrif".[6] Mae William Pryce yn crybwyll, yn ei Archaeologia Cornu-Britannica (1790), a hefyd John Whitaker, ficer Ruan Lanihorne, yn ei Atodiad i History of Cornwall gan Polwhele (1799), eu bod yn nabod dau neu dri o bobl sy'n medru siarad Cernywog. Yn ôl Whitaker, wedi iddo hysbysebu arian ar gyfer y Gernyweg, fe gaeth ei gyfeirio at ddyn yn St Levan a fyddai'n gallu rhoi "cymaint o eiriau o Gernyweg iddo ag y byddwn yn dewis eu prynu." Yn anffodus methodd â mynd i St Levan, nac i Newlyn lle dywedwyd wrtho fod dynes yn dal i fyw a siaradai Gernyweg.[7] Mae Polwhele hefyd yn crybwyll, yn ei History of Cornwall, cyfrol 5 (1806), peiriannydd o Truro o'r enw Thompson, a fu iddo gyfarfod ym 1789. Thompson oedd awdur beddargraff Dolly Pentreath a dywedir ei bod yn gwybod llawer mwy o Gernyweg nag y gwnaeth hi erioed.[8]

Caiff Arthur Boase (1698–1780), a hanai’n wreiddiol o blwyf Paul, ei adnabod fel siaradwr Cernyweg wedi iddo ddysgu ei blant, gan gynnwys y bancwr a’r awdur Henry Boase, y rhifolion, Gweddi’r Arglwydd a llawer o ymadroddion a diarhebion yn yr iaith.[9]

Mae dau ddyfyniad o'r 1790au am fwynwyr tun o ardal Falmouth yn siarad iaith anhysbys nad oedd neb arall yn ei deall. Ym 1793, dywedodd John Gaze, cymar is-feistr i'r Capten Edward Pellew, wrth dderbyn 80 o fwynwyr o Falmouth ar gyfer y llong Nymphe,

they struck terror wherever they went and seemed like an irruption of barbarians, dressed in the mud-stained smock-frocks and trowsers in which they worked underground, all armed with large clubs and speaking an uncouth jargon (Cornish) which none but themselves could understand.

Ym 1795 nododd James Silk Buckingham, o Flushing

...the arrival one day of a band of three hundred or four hundred tinners ... and speaking an uncouth jargon which none but themselves could understand...

Cludwyd y dynion hyn yn ôl i Falmouth ar y cychod oedd wedi dod â nhw.[10] Yr ardal agosaf y gallai nifer mor fawr o fwynwyr fod wedi dod ohoni oedd St Day a Carharrack, ond efallai eu bod wedi dod o ardal Breage. Os mai Cernyweg oedd yr "uncouth jargon" hwn, byddai'n golygu bod llawer o bobl yn dal i'w ddefnyddio ar ddiwedd y 18fed ganrif.[11]

19eg ganrif

golygu

Dywedodd y Parchedig John Bannister ym 1871 "Ar ddiwedd y 18fed ganrif gwelwyd difodiant terfynol, fel iaith lafar, hen iaith Geltaidd frodorol Cernyw".[12] Fodd bynnag, mae peth tystiolaeth bod y Gernyweg wedi parhau, er mai prin oedd y defnydd ohoni a hynny gan lond dwrn o siaradwyr, hyd at ran olaf y 19eg ganrif. Cadarnhaodd Matthias Wallis o St Buryan i’r Tywysog Louis Lucien Bonaparte ym 1859 fod ei nain, Ann Wallis, née Rowe (oddeutu 1753–1843), wedi “siarad y Gernyweg yn dda yn fy nghlyw". Bu farw tua 15 mlynedd yn ôl wedi cyrraedd ei 90 oed. Bu farw Jane Barnicoate 2 flynedd yn ôl ac roedd hi’n gallu siarad Cernyweg hefyd.”[13][14]

Ysgrifennodd Edmund Harvey (ganwyd 1828) wrth gofnodi hanes Mullion:

I remember as a child myself being taught by tradition, orally of course, to count, and say the Lord's Prayer in Cornish, and I dare say there is many a youngster in Newlyn at the present moment who can score in Cornish as readily as he can in English.

Nododd JM Doble o Penzance ym 1878:

Jaky Kelynack remembered, about 70 years ago, that the Breton fishermen and the old Cornishman could converse in their respective languages, and understood one another.

[15]

Nododd Charles Sandoe Gilbert ym 1817 fod William Matthews o Newlyn, a fu farw ddeng mlynedd ar hugain ynghynt, wedi bod yn llawer mwy rhugl na Dolly Pentreath. Disgrifiwyd ei fab, a elwid hefyd yn William ac a fu farw yn Newlyn ym 1800, fel un oedd "hefyd yn gyfarwydd iawn" â Chernyweg.[16][17] Mae Letters from West Cornwall, llyfr a ysgrifennwyd yn ddienw yn 1826, yn cofnodi:

About two years ago when I visited the Land's End, I saw a blind boy who pretended to tell the numbers and a few phrases in Cornish, which he said he had learned from an old woman, since dead.

[18]

Cofnododd Barclay Fox yn ei gyfnodolyn ar gyfer 23 Hydref 1838:

Trudged to Penjerrick. Called at Tregedna.
Mary Louise & Ellen left the room and returned with the most uncouth looking black rascally chimney sweepers I ever saw – old hats, coats breeches & boots, with their faces & hands blacked to the hue of ink. Such a pair as I wouldn't meet in a dark lane for something. They sat on the sofa and conversed in Cornish."[19]

Cofnododd Nance y clywyd cwpl oedd yn byw yn Budock yn y 1880au yn siarad iaith ryfedd yn aml, a tybiwyd efallai mai Cernyeg ydoedd.[20]

Yn 1859 adroddodd yr ieithydd Edwin Norris fod hen ŵr wedi adrodd Gweddi’r Arglwydd a rhan o’r Credo a ddysgwyd iddo gan ei dad neu ei daid.[21]

Dywedodd J. Gwyn Griffiths fod "mewnfudwyr o Gernyw yn siarad yr iaith ym mhentrefi plwm Gogledd Ceredigion, Canolbarth Cymru, yn y 1850au".[22] Y gred ar y pryd oedd bod Mary Kelynack, y ferch 84 oed a aned ym Madron a gerddodd i Lundain i weld yr Arddangosfa Fawr ym 1851 ac a gyflwynwyd i'r Frenhines, yn siarad Cernyweg. [23] Ym 1875 darganfuwyd chwe siaradwr i gyd yn eu chwedegau yng Nghernyw.[24] Dysgodd Mrs Catherine Rawlings, Hayle, a fu farw yn 1879 yn 57 oed, Weddi'r Arglwydd a'r Credo yn y Gernyweg tra yn yr ysgol yn Penzance. Yr oedd Rawlings yn fam-yng-nghyfraith i Henry Jenner. John Tremethack, bu farw 1852 yn wyth deg saith oed, dysgodd Gernyweg i'w ferch, Frances Kelynack (1799–1895),[25][26] dysgodd Bernard Victor o Mousehole lawer o Gernyweg gan ei dad a hefyd ei daid George Badcock.[8] Cyfarfu Victor â Jenner ym 1875 a throsglwyddo iddo ei wybodaeth o Gernyweg.[27] Bu Victor hefyd yn dysgu rhywfaint o Gernyweg i'w wyres Louisa Pentreath.[11] Mae'n bosibl mai'r ffermwr John Davey, a fu farw yn 1891 yn Boswednack, Zennor, oedd y person olaf â chryn wybodaeth draddodiadol o Gernyweg,[28] megis rhifau, rhigymau ac ystyron enwau lleoedd. Yn wir, disgrifiodd John Hobson Matthews ef fel un a oedd yn gallu sgwrsio yn y Gernyweg ar ychydig o bynciau syml, a rhoddodd enghraifft o rigwm a ddysgodd gan ei dad.[29] Mae tystiolaeth dda bod o leiaf dau siaradwr brodorol wedi goroesi John Davey'r ieuengaf: Jacob Care (1798–1892), a John Mann (1833–c. 1914).

Ganed Jacob Care (bedyddiwyd 4 Tachwedd 1798 – 1 Ionawr 1892) yn St Ives ond symudodd yn ddiweddarach i Mevagissey. Cofnododd Frederick McCoskrie, postfeistr Grampound Road, ei fod "yn arfer siarad 'Hen Gernyweg' â mi pryd bynnag y byddwn yn cyfarfod, ond o hynny fel llawer o bethau eraill - nid oes cofnodion yn cael eu cadw."

Llwyddodd Elizabeth Vingoe (bedyddiwyd 2 Rhagfyr 1804 - claddwyd 11 Hydref 1861), née Hall, o Higher Boswarva, Madron, i ddysgu ei phlant, ymhlith pethau eraill, Gweddi'r Arglwydd, y Deg Gorchymyn a'r rhifolion yn y Gernyweg. Cyfwelodd nai Vingoe, Richard Hall (ganwyd c. 1861), ei mab, William John Vingoe, yn 1914. Cofnododd Hall y rhifolion y gallai eu cofio.[11]

Mae'n debyg mai Richard Hall ei hun oedd siaradwr Cernyweg mwyaf rhugl y diwygiad cynnar, ar ôl ei ddysgu o oedran ifanc gan aelodau ei deulu, gweision, a gwaith Pryce, ac yn ddiweddarach o Lawlyfr Jenner.[11] Fe'i rhoddir gan ASD Smith fel un o ddim ond pump o siaradwyr rhugl y Gernyweg a adfywiwyd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.[30] Cofnododd Hall, pan oedd tua naw oed, fod ganddynt forwyn yn eu cartref yn St Just. Sylwodd y forwyn, Mary Taskes, ei fod yn darllen Archaeologia Cornu-Britannica gan Pryce a dywedodd wrtho y gallai ei mam siarad ychydig o'r hen iaith, wedi iddi gael ei dysgu gan Mrs Kelynack o Newlyn. Cymerwyd ef i weld y fam a chafodd ei bod yn gallu llefaru'r Deg Gorchymyn, Gweddi yr Arglwydd, a geiriau eraill mewn Cernyweg diweddar.[11]

Cafodd John Mann ei gyfweld yn ei gartref yn St Just gan Richard Hall ym 1914, gyda Mann yn 80 oed ar y pryd. Dywedodd wrth Hall ei fod ef a'i ffrindiau bob amser, fel plant, yn sgwrsio yn y Gernyweg tra'n chwarae gyda'i gilydd. Byddai hyn wedi bod tua 1840-1850. Dywedodd hefyd ei fod wedi adnabod hen wraig, Anne Berryman, née Quick (1766-1858), a siaradai Gernyweg. Roedd Anne Berryman yn byw yn y tŷ drws nesaf i deulu Mann, gyda’i gŵr Arthur. Wedi i’w gŵr farw yn 1842 bu’n byw gyda’r teulu Mann ar eu fferm yn Boswednack hyd ei marwolaeth.[31][32][33] Roedd chwiorydd Mann, Ann ac Elizabeth, yn gweithio fel gweision yng nghartref John Davey yn ystod y 1850au a'r 60au.[34] Cofnododd Hall ychydig eiriau a rhifolion y gallai Mann eu cofio.[11]

Disgrifiwyd Martin Uren, a aned yn Wendron ym 1813 ac a adwaenir hefyd fel Martin Bully, gan Ralph St Vincent Allin-Collins fel siaradwr Cernyweg traddodiadol posibl. Roedd yn byw mewn bwthyn ar Pennance Lane, Lanner, a disgrifiwyd ef yn siarad llawer o "old gibberish". Bu farw ar 5 Ionawr 1898. Mae Allin-Collins yn cofnodi'r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel fersiwn Gernyweg o'r rhigwm This Little Piggy oddi wrtho. [35].

Ym 1937 cofnododd yr ieithydd Arthur Rablen fod Mr William Botheras (ganwyd 1850) yn arfer mynd i'r môr gyda hen bysgotwyr o Newlyn, tua'r flwyddyn 1860. Roedd y pysgotwyr hyn yn arfer siarad Cernyweg tra ar y cwch ac yn cynnal sgyrsiau a barhaodd hyd at ddeg i bymtheg munud ar y tro.[11] Cofiodd Mr JH Hodge o St Ives ei ewythr yn dweud ei fod yn fachgen, tua 1865, wedi clywed merched yn cyfrif pysgod yn Gernyweg ar y cei yno, a hefyd bod hen bysgotwr yn siarad â nhw mewn iaith ryfedd yr oedden nhw'n ei deall.[36]

Fodd bynnag, goroesodd olion eraill. Roedd pysgotwyr yng ngorllewin Cernyw yn cyfrif pysgod gan ddefnyddio rhigwm sy'n deillio o Gernyweg, [37] ac roedd gwybodaeth am y rhifolion o 1 i 20 yn cael ei gario drwodd yn draddodiadol gan lawer o bobl, ymhell i mewn i'r 20g.[11]

Byddai Henry Jenner yn arwain mudiad yr adfywiad yn yr 20fed ganrif. Crybwyllir ei ddiddordeb cynharaf yn yr iaith Gernyweg mewn erthygl gan Robert Morton Nance o'r enw "Cernish Beginnings",[38]

When Jenner was a small boy at St. Columb, his birthplace, he heard at the table some talk between his father and a guest that made him prick up his ears, and no doubt brought sparkles to his eyes which anyone who told him something will remember. They were speaking of a Cornish language. At the first pause in their talk he put his query... 'But is there really a Cornish Language?' and on being assured that at least there had been one, he said 'Then I'm Cornish—that's mine!'

20fed a'r 21ain ganrif

golygu

Byddai’r fforman a oedd yn goruchwylio lansio cychod yn St Ives yn y 1920au yn gweiddi Hunchi boree! sy'n golygu "Codwch yr angor nawr!", un o'r brawddegau olaf a gofnodwyd o Gernyweg draddodiadol o bosibl.[39] Fodd bynnag, roedd plant mewn rhai rhannau o orllewin Cernyw yn dal i ddefnyddio geiriau ac ymadroddion Cernyweg wrth chwarae gemau, fel marblis.[40] Ceir cannoedd lawer o eiriau Cernyweg a hyd yn oed ymadroddion cyfan yn nhafodiaith Eingl-Gernyweg y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, llawer ohonynt yn dermau technegol mewn mwyngloddio, ffermio a physgota, ac yn enwau bywyd gwyllt.[41]

Ar ddiwedd yr 20fed ganrif, honnodd Arnie Weekes, un o Ganada o dras Cernyweg, fod teulu ei fam yn hanu o linach ddi-dor o siaradwyr Cernyweg. Canfuwyd ar ei ymweliadau niferus â Chernyw ar ddiwedd y 1990au ei fod ef neu ei rieni wedi dysgu’r ffurf Unedig ar Gernyweg wedi’i hadfywio, a henny heb unrhyw olion o Gernyweg draddodiadol.[42] Yn 2007 adroddodd R. Salmon o Seland Newydd ar wefan Your Voice: Multilingual Nation y BBC, fod "Cernyweg lawer wedi'i throsglwyddo trwy fy nheulu," gan roi'r posibilrwydd bod teuluoedd eraill o dras Cernyweg ledled y byd yn meddu ar wybodaeth draddodiadol o Gernyweg.[43]

Yn 2010 gwadodd Rhisiart Tal-e-bot y bu i'r Gernyweg farw erioed, gan ddweud bod neiniau a theidiau un o'i fyfyriwr wedi siarad Cernyweg gartref. Dywedodd:

It's a myth. There was never a time when the language completely died out, people always had some knowledge of the language although it went quite underground.

[44]

Yn yr un modd, mae Andrew George AS St Ives wedi dweud yn y Senedd San Steffan

In the early part of the century, my grandparents on the Lizard were speaking Cornish in a dialect form at home

[45]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ellis, P. B. (1974) The Cornish Language. London: Routledge; p. 80
  2. Peter Berresford Ellis, The Cornish Language and its Literature, pp. 115–116 online
  3. Ellis, P. Berresford, The Story of the Cornish Language (Truro: Tor Mark Press, 1971)
  4. Ellis, P. Berresford (1974) The Cornish Language and its Literature. London: Routledge & Kegan Paul
  5. Richard Polwhele, The History of Cornwall, 7 volumes, 1803–1808; vol. 5, pp. 19–20
  6. Ellis, Cornish Language, p. 125 online
  7. Journal of the Royal Institution of Cornwall, New Series, Volume VII, Part 1, 1973, p. 81
  8. 8.0 8.1 Michael Everson, Henry Jenner's Handbook of the Cornish Language, 2010
  9. Journal of the Royal Institution of Cornwall, New Series, Volume VII, Part 1, 1973, p. 82
  10. A. K. Hamilton Jenkin, Cornwall and its People, 1946 ed., p. 371
  11. 11.0 11.1 11.2 11.3 11.4 11.5 11.6 11.7 Lyon, R. Trevelyan (2001). Cornish, The Struggle for Survival. Taves an Werin.
  12. John Bannister, Cornish Place Names (1871)
  13. Journal of the Royal Institution of Cornwall, New Series, Volume VII, Part 2, 1974, p.174
  14. Alan M. Kent, Tim Saunders, Looking at the Mermaid: a Reader in Cornish Literature 900–1900, Francis Boutle, 2000
  15. Journal of the Royal Institution of Cornwall, New Series, Volume VII, Part 1, 1973, p.77
  16. Gilbert, Charles Sandoe (1817). An Historical Survey of the County of Cornwall: To which is Added, a Complete Heraldry of the Same, Volume 1. J. Congdon. t. 122.
  17. Journal of the Royal Institution of Cornwall, New Series, Volume VII, Part 1, 1973, p.79
  18. Journal of the Royal Institution of Cornwall, New Series, Volume VII, Part 1, 1973, p.80
  19. Barclay Fox's Journal. Gol. RL Brett.
  20. Journal of the Royal Institution of Cornwall, New Series, Volume VII, Part 1, 1973, t.76
  21. Norris, Edwin (1859). The Ancient Cornish Drama. Oxford University Press. t. 466.
  22. "Review of The Wheel An anthology of modern poetry in Cornish 1850–1980". Francisboutle.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-07. Cyrchwyd 2 August 2013.
  23. Derek R. Williams, Henry and Katharine Jenner, 2004
  24. Lach-Szyrma, W. S. (1875) "The Numerals in Old Cornish". In: Academy, London, 20 March 1875 (quoted in Ellis, P. B. (1974) The Cornish Language, p. 127)
  25. Peter Berresford Ellis, The Story of the Cornish Language, Tor Mark Press, 1971
  26. Paul Parish Registers
  27. Peter Berresford Ellis, The Story of the Cornish Language, Tor Mark Press, 1971
  28. The Cornish Language and Its Literature: a History, by Peter Berresford Ellis
  29. John Hobson Matthews, History of St. Ives, Lelant, Towednack, and Zennor, 1892
  30. "Independent Study on Cornish Language" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-11-02. Cyrchwyd 2022-09-22.
  31. "Legend of Dolly Pentreath outlived her native tongue". This is Cornwall. 4 August 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 February 2012. Cyrchwyd 2 August 2013.
  32. Rod Lyon, Cornish – The Struggle for Survival, 2001
  33. UK Census 1851
  34. UK Census 1861
  35. Allin-Collins, Ralph St. V., "Is Cornish actually dead?", Zeitschrift für celtische Philologie 18 (1930): 287—292.
  36. Journal of the Royal Institution of Cornwall, New Series, Volume VII, Part 1, 1973, p.77
  37. "Independent Study on Cornish Language" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-11-02. Cyrchwyd 2022-09-22.
  38. page 368, Old Cornwall, Volume V, Number 9 published in 1958.
  39. C.Penglase. "History of Cornish | Kernowek or Kernewek | Kernewek, The Cornish Language". Kernowek.com. Cyrchwyd 2 August 2013.
  40. Peter Berresford Ellis, The Cornish Language and its Literature
  41. Robert Morton Nance, Celtic Words in Cornish Dialect, Royal Cornwall Polytechnic Society, 1923 (parts 1, 2 and etymological glossary)
  42. The Celtic Languages in Contact, Hildegard L. C. Tristram, 2007
  43. Cornish Comments BBC
  44. Clare Hutchinson (16 January 2010). "First Cornish-speaking creche is inspired by example set inWales". Wales Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 January 2010. Cyrchwyd 2 August 2013.
  45. "Cornish Language (Hansard, 23 February 1999)". Hansard. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-22. Cyrchwyd 6 April 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato