Gyrrwr a chyn-chwaraewr tenis o Loegr ac unig aelod benywaidd Lleng Dramor Ffrainc oedd Susan Travers (23 Medi 190918 Rhagfyr 2003). Gwobrwywyd Travers gyda'r Croix de Guerre am ei gweithgareddau ym Mrwydr Bir Hakeim (1942). Roedd hefyd yn Swyddog yn Urdd Nichan Iftikhar.

Susan Travers
Ganwyd23 Medi 1909 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 2003 Edit this on Wikidata
Ballainvilliers Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Heathfield, Ascot Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, person milwrol, nyrs, driver Edit this on Wikidata
TadFrancis Travers Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Croix de guerre 1939–1945, Colonial Medal Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Travers yn ne Lloegr, yn ferch i llyngesydd yn y Llynges Frenhinol, magwyd yn ne Ffrainc lle bu'n chwaraewr tenis rhannol-brofesiynol tennis.[1]

Rhyfel cynnar

golygu

Wedi i'r Almaen feddiannu Denmarc a Norwy, dihengodd Travers o Ddenmarc i'r Ffindir, lle gwasanaethodd fel gyrrwr ambiwlans. Dihengodd wedyn ar long i Wlad yr Iâ cyn dychwelyd i Loegr lle ymunodd â byddin Cadfridog de Gaulle. Erbyn 1941, roedd hi'n chauffeur ar gyfer swyddog meddygol yn y Légion Étrangère, yn ystod ymgyrch yn Syria lle bu llengwyr Vichy France yn ymladd yn erbyn y llengwyr Ffrengig Rhydd. Teithiodd i Ogledd Affrica dryw Dahomey, a'r Congo. Yn ystod y daith hwnnw cafodd berthynas byr â Dimitri Amilakhvari, a fu'n gyfaill iddi am weddill ei oes.

Bir Hakeim

golygu

Yn hwyr ym mis Mai 1942, tra roedd yr Afrika Korps yn paratoi i ymosod ar Bir Hakeim, gorchmynodd y Cadfridog Koenig i Travers a fenywaid eraill adael yr ardal. Ymosododd lluoedd yr Almaen ar 26 Mai. Ychydig yn ddiweddarach ymunodd Travers â chonfoi tu ôl i'r weithred, ond cytunodd Koenig i'w dymuniadau i dychwelyd i Bir Hakeim, gan ei fod yn credu i'r ymosodiad Almaenig fod yn fethiant. Yn ystod y pythefnos a ddilynodd, bu 1,400 sortie gan Luftwaffe yn erbyn amddiffynfeydd Bir Hakeim, tra bod y lluoedd Almaenaidd ac Eidalaidd yn ymosod ar droed. Yn ystod y bomio, trawodd ddarn o shrapnel gar y cadfridog a trwsiodd Travers y car gyda chymordd gyrrwr Fietnamaidd.

Ar 10 Mehefin, gyrrodd Travers gar y Cadfridog yn ystod yr enciliad, gan arwain y milwyr drwy faes ffrwydrynnau a thaniadau gwn peiriant yr Almaenwyr. Roedd yn gyrru drwy'r tywyllwch heb allu gweld dim, dywedodd mai ei phrif bryder oedd y buasai'r car yn stolio. Gyrrodd yn syth drwy'r lein Almaenig gan gyrraedd y llinell Prydeinig am 11.30 y bore ar 11 Mehefin, roedd y car wedi cael ei drywanu gan 11 bwled, y tawelwr ysgytiad wedi ei ddinistrio a'r brêciau ddim yn gweithio.

Yn ddiweddarach yn y rhyfel cafodd ei hanafu pan aeth y cae dros ffrwydryn. Aeth ymlaen i wasanaethu yn yr Eidal, Ffrainc a'r Almaen lle gyrrodd ambiwlans, lori, a gwn gwrth-danc.

Wedi'r Ail Ryfel Byd

golygu

Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, cofrestrodd yn swyddogol fel aelod o'r Légion Étrangère, fel Adjutant Chef. Ni nododd ei rhyw ar y ffurflen gais, ond cafodd y ffurflen ei stampio gan rhywun a fu ym Mir Hakeim gyda hi.

Gwasanaethodd Travers yn Fietnam, yn ystod y Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina. Priododd â Adjutant Chef Nicolas Schlegelmilch, a fu hefyd yn ymladd ym Mir Hakeim gyda'r 13ydd Hanner-brigâd y Lleng Dramor. Bu'n byw ym Mharis, Ffrainc hyd oleiaf 2000.

Yn 2000, yn 91 oed, ysgrifennodd ei hunanfywgraffiad, Tomorrow to Be Brave: A Memoir of the Only Woman Ever to Serve in the French Foreign Legion, gyda chymorth Wendy Holden, wedi iddi aros i'r prif cymeriadau yn ei stori farw.

Bu farw Susan Travers yn 94 oed, goroeswyd gan ei mab, Thomas a dwy wyres.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu