Tŷ Drybridge, Trefynwy
adeilad yn Nhrefynwy
Mae Tŷ Drybridge, Trefynwy yn adeilad o'r 17g wedi'i leoli yn Nhrefynwy, Sir Fynwy ac sydd wedi'i gofrestru gan CADW fel adeilad Gradd II*. Mae wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin y dref, yn agos at "bont sych" dros nant fechan, sydd bellach dan gylchfan y ffordd. Mae'n un o 24 adeilad ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.
Math | adeilad |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trefynwy |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 17 metr |
Cyfesurynnau | 51.809497°N 2.7233°W, 51.8095°N 2.7231°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Yn 1558 y codwyd y tŷ gwreiddiol: ffermdy du a gwyn, o bosib; codwyd y tŷ presennol yn 1671 gan William Roberts o Fynwy a oedd yn "Receiver and Paymaster of the King's Works" yng Nghastell Windsor. Un o'i ddisgynyddion Charles Henry Crompton-Roberts a atgyweiriodd y tŷ yn 1867; roedd yn Uwch Siryf Sir Fynwy yn 1877.[1]
Bu'r lle yn nwylo teulu Crompton-Roberts am 400 mlynedd, teulu a fu'n gefnogol iawn i'r dref.
Yr adeiladau
golygu- Tŷ Drybridge House
- Eglwys Sant Tomos y Merthyr, Trefynwy
- Pont Trefynwy
- Gwesty Robin Hood, Trefynwy
- Caer Rhufeinig Blestiwm
- Gwesty'r Kings Head Hotel, Trefynwy
- Neuadd y Sir, Trefynwy
- Great Castle House, Trefynwy
- Neuadd y Farchnad, Trefynwy
- Priordy Trefynwy
- Priordy Eglwys y Santes Fair, Trefynwy
- Carchar Trefynwy
- Neuadd Rolls, Trefynwy
- Tŷ'r Barnwrr
- Y Fferyllfa, Trefynwy
- Capel Methodistaidd Trefynwy
- Eglwys Gatholig Santes Fair, Trefynwy
- Gwesty’r Angel, Trefynwy
- Theatr y Savoy
- Tafarn yr Alarch Wen, Trefynwy
- Agincourt House, Trefynwy
- Gwesty The Beaufort Arms, Trefynwy
- Gwaith Dŵr Potel Hyam
- Gerddi Nelson
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [Cofnodion gan William Gardner, Trefynwy. Cyfarwyddiadau gan Frederick Pring Robjent, Sheriff 1937. Mai 1937 (Mai 1937). Cofnodion: "Sheriffs of Monmouthshire 1547 – 1937".]