Uwchgynhadledd yr G8, 2001

Cynhaliwyd 27ain Uwchgynhadledd yr G8 o Ddydd Gwener 20 Gorffennaf i Ddydd Sul 22 Gorffennaf 2001 yn Genoa, Liguria, yng ngogledd yr Eidal a oedd yn llywyddu'r fforwm y flwyddyn honno. Cyfarfu pennau llywodraethol yr wyth gwlad a oedd yn aelodau'r G8: Silvio Berlusconi, Prif Weinidog yr Eidal; George W. Bush, Arlywydd Unol Daleithiau America; Gerhard Schröder, Canghellor yr Almaen; Tony Blair, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; Jacques Chirac, Arlywydd Ffrainc; Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia; Junichirō Koizumi, Prif Weinidog Japan; a Jean Chrétien, Prif Weinidog Canada. Yno hefyd bu Romano Prodi, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Guy Verhofstadt, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, y ddwy swydd a wahoddir fel rheol i gynrychioli'r Undeb Ewropeaidd yn yr uwchgynhadledd. Gwahoddwyd hefyd arweinwyr o dair gwlad arall—Abdelaziz Bouteflika, Arlywydd Algeria; Shahabuddin Ahmed, Arlywydd Bangladesh; ac Alpha Oumar Konare, Arlywydd Mali—yn ogystal â Kofi Annan, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig; Horst Köhler, Rheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF); James Wolfensohn, Llywydd Banc y Byd; a Mike Moore, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd (WTO).

Uwchgynhadledd yr G8, 2001
Enghraifft o'r canlynolG8 summit Edit this on Wikidata
Dechreuwyd21 Gorffennaf 2001 Edit this on Wikidata
Daeth i ben22 Gorffennaf 2001 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan26th G8 summit Edit this on Wikidata
Olynwyd gan28th G8 summit Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffotograff o arweinwyr gwledydd yr G8 a chynrychiolwyr yr Undeb Ewropeaidd yn y Palazzo Ducale ar ddiwrnod olaf yr uwchgynhadledd (22 Gorffennaf 2001).

Hon oedd un o uwchgynadleddau amlycaf yr G8 am iddi dynnu uwch na chan mil o wrthdystwyr i Genoa i brotestio ar amrywiol bynciau, yn bennaf globaleiddio, yr amgylchedd a dyled gwledydd y Trydydd Byd. Ymatebodd heddlu'r Eidal i'r protestwyr yn llym, a ffrwydrai terfysgoedd ac ymladd ar strydoedd Genoa. Bu'r penwythnos yn un o fflachbwyntiau'r mudiad gwrth-globaleiddio, ar y cyd â phrotestiadau Uwchgynhadledd yr G8 yng Nghwlen, 1999; Cynhadledd yr WTO yn Seattle, 1999; a chyfarfod Fforwm Economaidd y Byd yn Davos, 2003.

Cafodd protestiadau eu trefnu gan gannoedd o wahanol grwpiau – yn eu plith undebau llafur, amgylcheddwyr, ffermwyr, gwrth-gyfalafwyr, a phobl ddiwaith – a'u cydlynu gan Fforwm Cymdeithasol Genoa. Cyn i'r protestiadau cychwyn, bu si ar led bod grwpiau anarchaidd yn bwriadu annos yr heddlu i ymladd. Penderfynodd rhai ymgyrchwyr a charfanau pwyso, gan gynnwys Oxfam, Cymorth Cristnogol, a'r Asiantaeth Ddatblygu Gatholig, gynnal protestiadau heddychlon ar wahân. Ar ddiwrnod cyntaf yr uwchgynhadledd, ysgogwyd trais ymhlith y torfeydd gan gynhyrfwyr "y bloc du", anarchwyr yn bennaf. Parodd yr ymladd am chwech awr, a cheisiodd heddlu gwrth-derfysg y Carabinieri ostegu'r terfysgwyr. Saethwyd un protestiwr, Carlo Giuliani, yn farw wedi iddo daflu diffoddwr tân at fan yr heddlu. Ar y Sadwrn, gorymdeithiodd undebwyr, comiwnyddion ac ymgyrchwyr eraill y mudiad llafur ar hyd bromenâd ar gyrion Genoa, heb ymyrraeth gan yr heddlu. Bu cyffro unwaith eto yn y ddinas wrth i anarchwyr ddifrod ffenestri a thanio adeiladau, a saethwyd nwy dagrau arnynt gan yr heddlu.[1] Gwelwyd rhyw ddwy fil o bobl yn taflu poteli a cherrig at yr heddlu, a dygwyd nifer o wrthdystwyr ac heddweision i'r ysbyty.[2]

Ar noson y Sadwrn, dygwyd cyrch gan y Polizia di Stato, gyda chymorth y Carabinieri, ar bencadlys dros dro Fforwm Cymdeithasol Genoa yn adeilad ysgol Armando Diaz. Ymosododd yr heddlu yn gorfforol ar y bobl yn yr adeilad, gan gredu eu bod yn gysylltiedig a'r "bloc du", ac arestiwyd 93 ohonynt. Dygwyd 61 ohonynt i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol. Cafodd rhai o'r carcharorion eu cymryd i ddalfa dros dro a'u cam-drin yno cyn eu rhyddhau. Rhoddwyd 125 o heddweision ar brawf, ond ni chafodd yr un ohonynt eu cosbi. Yn 2015, dyfarnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop bod ymddygiad yr heddlu yn y cyrch ar adeilad Armando Diaz yn gyfystyr ag artaith.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Violence erupts again in Genoa", The Guardian (21 Gorffennaf 2001). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 7 Gorffennaf 2021.
  2. "G8: Cynhadledd yn dod i ben", BBC Cymru'r Byd (22 Gorffennaf 20021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 7 Gorffennaf 2021.
  3. (Saesneg) "Italian police 'tortured' Genoa G8 protester, says ECHR", BBC (7 Ebrill 2015). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 7 Gorffennaf 2021.