Donmar Warehouse
Theatr ddi-elw, 251 sedd yn Covent Garden, Llundain, yw'r Donmar Warehouse. Agorwyd y theatr am y tro cyntaf ar 18 Gorffennaf 1977.
Math | theatr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | The Crafts Centre |
Lleoliad | Covent Garden |
Sir | Camden |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 51.5139°N 0.1259°W |
Bu Sam Mendes, Michael Grandage, Josie Rourke a Michael Longhurst yn gwasanaethu fel cyfarwyddwyr artistig. Mae'r theatr yn llwyfannu dramâu newydd, addasiadau cyfoes o glasuron Ewropeaidd, dramâu Prydeinig ac Americanaidd a theatr gerddorol.
Yn ogystal â chyflwyno o leiaf chwe chynhyrchiad y flwyddyn yn Covent Garden, mae'r theatr yn trosglwyddo sioeau i'r West End, Broadway a mannau eraill.
Hanes
golyguSefydlwyd Donmar Productions tua 1953 gan y cynhyrchydd theatrig Donald Albery. [1] Crëwyd yr enw o dair llythyren gyntaf ei enw a thair llythyren gyntaf ei ffrind, y ballerina Margot Fonteyn. [2] Ym 1961, prynodd yr hen warws, a fu'n stordy hopys ar gyfer y bragdy lleol yn Covent Garden, ac a ddefnyddiwyd fel stiwdio ffilm yn y 1920au. [2] Addasodd ei fab Ian Albery, cynhyrchydd ac ymgynghorydd dylunio theatr, y warws yn stiwdio ymarfer breifat. [2]
Ym 1977, prynodd y Royal Shakespeare Company y theatr a'i ailenwi'n Warehouse, gan ei drawsnewid ar "gyflymder aruthrol". [3] Y sioe gyntaf, a agorodd ar 18 Gorffennaf 1977, oedd Schweik in the Second World War, dan gyfarwyddyd Howard Davies, a drosglwyddwyd o'r Other Place yn Stratford . Cafodd y trydan ar gyfer y theatr ei droi ymlaen dim ond 30 munud cyn i'r llen godi, ac roedd y grisiau concrit i fyny at y theatr yn dal yn wlyb. [3]
Roedd y Warws yn weithdy i'r RSC yn ogystal â gofod arddangosfa ac roedd y tymhorau’n hynod arloesol, gan gynnwys cynhyrchiad clodwiw Trevor Nunn o Macbeth, [Stratford 1976], gyda Judi Dench ac Ian McKellen, a welwyd am y tro cyntaf ym mis Medi 1977 cyn trosglwyddo i’r Young Vic. Ym 1980, gyda bron i bawb o'r cwmni yn ymwneud â Nicholas Nickleby, daethpwyd o hyd i ddrama newydd o'r pentwr o sgriptiau a gyflwynwyd. Educating Rita oedd honno, a llwyfannwyd y ddrama gyda Julie Walters a Mark Kingston dan gyfarwyddyd Mike Ockrent. Daeth y cynhyrchiad yma yn un o lwyddiannau mwyaf yr RSC.
O 1983 i 1989 daeth y theatr o dan gyfarwyddwyd artistig Nica Burns .
Ym 1990, Roger Wingate oedd yn gyfrifol am y Donmar Warehouse. Fe'i hailadeiladodd yn llwyr a'i hail-gyfarparu fel ag y mae heddiw. Cyn ei hailagor ym 1992, penododd Sam Mendes yn Gyfarwyddwr Artistig cyntaf y theatr.
Cyfnod Sam Mendes (1992-2002)
golyguDaeth y Donmar yn dŷ cynhyrchu annibynnol ym 1992 gyda Sam Mendes yn gyfarwyddwr artistig. Ei gynhyrchiad agoriadol oedd Assassins Stephen Sondheim . Dilynodd hyn gyda chyfres o addasiadau clasurol.
Ymhlith cynyrchiadau Mendes roedd Cabaret gan John Kander a Fred Ebb, The Glass Menagerie gan Tennessee Williams, Company gan Stephen Sondheim, Habeas Corpus gan Alan Bennett a'i gynyrchiadau olaf o Uncle Vanya a Twelfth Night, Chekhov, a drosglwyddodd i Academi Gerdd Brooklyn .
O dan arweinyddiaeth Mendes, gwelwyd cynyrchiadau gan Matthew Warchus o True West, Sam Shepard, Katie Mitchell o Endgame gan Beckett, David Leveaux o Elektra gan Sophocles a The Real Thing gan Tom Stoppard. Cyfarwyddodd olynydd Mendes, Michael Grandage, gynyrchiadau allweddol fel Passion Play a Privates on Parade gan Peter Nichols a Merrily We Roll Along gan Sondheim.
Cyfnod Michael Grandage (2002-2011)
golyguYn 2002, olynodd Michael Grandage Sam Mendes fel Cyfarwyddwr Artistig. Penododd Grandage Douglas Hodge a Jamie Lloyd yn Gyfarwyddwyr Cyswllt; yn 2007, olynodd Rob Ashford, Hodge.
Ar gyfer ei addasiadau o ddramâu tramor, comisiynodd y cwmni gyfieithiadau newydd, gan gynnwys The Wild Duck ( David Eldridge ) gan Ibsen, Phaedra gan Racine ( Frank McGuinness ), Accidental Death of an Anarchist gan Dario Fo ( Simon Nye ) a Creditors Strindberg (David Greig ).
Roedd ei gynyrchiadau cerddorol yn cynnwys Grand Hotel a gweithiau Stephen Sondheim, Pacific Overtures, Merrily We Roll Along, Company, Into the Woods a chynhyrchiad o Assassins (1992) a agorodd ddeiliadaeth Sam Mendes fel Cyfarwyddwr Artistig.
O dan ymbarél Warehouse Productions, roedd y theatr weithiau'n agor sioeau yn y West End, gan gynnwys Suddenly Last Summer 1999 a Guys and Dolls 2005.
Mae nifer o actorion adnabyddus wedi ymddangos yn y theatr, gan gynnwys Nicole Kidman ( The Blue Room ), Gwyneth Paltrow ( Proof ), Ian McKellen ( The Cut ) ac Ewan McGregor ( Othello ). [4]
Gyda dim ond 250 o seddi, roedd cymaint o alw am docynnau Othello gyda McGregor fel bod Grandage yn ofni y gallai ddod yn "stori newyddion drwg". [5] Ei ymateb oedd cynllunio tymor o flwyddyn yn Theatr Wyndhams gyda'i 750 o seddi. Gwelwyd pedwar cynhyrchiad newydd a gyflwynwyd gan Donmar West End . Dechreuodd ar 12 Medi 2008, gyda Kenneth Branagh fel Ivanov Chekhov, mewn addasiad newydd gan Tom Stoppard a'i gyfarwyddo gan Grandage. [6] Parhaodd tymor y West End gyda Derek Jacobi yn Twelfth Night, Judi Dench yn Madame de Sade, Yukio Mishima a Jude Law yn Hamlet, i gyd wedi'u cyfarwyddo gan Grandage . Yn dilyn tymor Donmar West End, cynhaliodd y Donmar dri chynhyrchiad rhyngwladol: trosglwyddiadau o Red, Piaf a Creditors, i Broadway, Madrid ac Academi Gerdd Brooklyn yn y drefn honno. [7] [8]
Ym mis Chwefror 2011, cydweithiodd y Donmar â rhaglen National Theatre Live i ddarlledu ei chynhyrchiad o King Lear, gyda Derek Jacobi yn serennu, i sinemâu ledled y byd. Gyda dros 350 o sgriniau mewn 20 gwlad, gwelwyd y perfformiad hwn o King Lear gan fwy na 30,000 o bobl. [9]
Cyfnod Josie Rourke (2012-2019)
golyguYm mis Ionawr 2012, daeth Josie Rourke yn drydydd Cyfarwyddwr Artistig yn hanes y Donmar. Y cynhyrchiad cyntaf dan ei harweiniad oedd The Recruiting Officer gan George Farquhar, a gyfarwyddwyd gan Rourke hefyd. Roedd ei thymor cyntaf hefyd yn cynnwys drama Robert Holman ym 1987, Making Noise Quietly, a gyfarwyddwyd gan y Cymro Peter Gill; fersiwn newydd Jack Thorne o The Physicists gan y dramodydd o'r Swistir Friedrich Duerrenmatt ; Philadelphia, Here I Come! gan Brian Friel a gyfarwyddwyd gan Lyndsey Turner; a chynhyrchiad Rourke ei hun o Berenice Jean Racine, mewn cyfieithiad newydd gan Alan Hollinghurst a chynhyrchiad benywaidd Phyllida Lloyd, Julius Caesar, a drosglwyddwyd i St. Ann's Warehouse, Efrog Newydd .
Cyfnod Michael Longhurst (2019-2024)
golyguYm mis Mehefin 2018, enwyd Michael Longhurst yn bedwerydd Cyfarwyddwr Artistig y Donmar Warehouse. Roedd llwyddiannau Longhurst yn cynnwys Constellations yn y Royal Court Theatre ac Amadeus yn y National Theatre .
Dechreuodd tymor cyntaf Longhurst yn y Donmar ar 20 Mehefin 2019 gydag Europe David Greig, ac yna dangosiad cyntaf yn y DU o Appropriate gan Branden Jacobs-Jenkins .
Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddwyd [10] y byddai Tim Sheader, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Awyr Agored Regent's Park, yn cymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Artistig ym mis Mawrth 2024.
Gweler hefyd
golygu- Theatr y West End
- Rhestr o leoliadau Llundain
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Donmar Productions Ltd", AusStage. Retrieved 2012-10-13.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Donmar Warehouse", The Theatres Trust. Retrieved 2012-10-13.
- ↑ 3.0 3.1 Beauman, Sally, The Royal Shakespeare Company, OUP (1982)
- ↑ "Cast of Othello". Donmar Warehouse Theatre. Archifwyd o'r gwreiddiol (Site) ar 13 December 2007. Cyrchwyd 2007-12-16.
- ↑ Sarah Hemming, "West End Story", Financial Times, 6 September 2008
- ↑ Thaxter, John, Ivanov, thestage.co.uk, published 18 September 2008
- ↑ "BAM's 2010 Season to Feature Donmar's CREDITORS, Broadway's Alan Rickman Directs", BroadwayWorld.com, 19 October 2009. Retrieved 2012-12-15.
- ↑ "Donmar Warehouse | Donmar International". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 April 2010. Cyrchwyd 2010-06-05.
- ↑ "National Theatre Live". Nationaltheatre.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 June 2012. Cyrchwyd 2013-12-02.
- ↑ Wiegand, Chris; editor, Chris Wiegand Stage (2023-06-07). "London's Donmar Warehouse appoints Tim Sheader as artistic director". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-06-07.CS1 maint: extra text: authors list (link)