Wicipedia:Cynnig erthygl ddethol

Sylwer: Ceir eglurhad o'r gofynion ar gyfer erthygl ddethol a'r ffordd y mae'r system erthyglau dethol yn gweithio ar y dudalen gymorth Wicipedia:Erthygl ddethol.
Gweler hefyd: Wicipedia:Asesiad cynnwys.

Os ydych am gynnig bod erthygl arbennig yn cael ei chynnwys ymhlith erthyglau dethol Wicipedia yna croeso i chi ei hychwanegu at waelod y rhestr erthyglau isod.

Mater o gwrteisi yw rhoi gwybod i brif gyfrannwyr y darpar erthygl ddethol bod yr erthygl yn cael ei thrin a'i thrafod. Pan nad yw ffynhonnell yr erthygl eisoes wedi ei nodi dylid holi'r cyfrannwyr am gyfeiriadau, cyn mynd ati i chwilio am ffynonellau o'r newydd.

Nodwch eich bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu enwebiad fan hyn da chi. Os nad oes gwrthywnebiad yna mae'r cynnig yn sefyll. Gellir gwneud sylwadau pellach ar dudalen sgwrs yr erthygl. Yno hefyd y dylid cytuno neu wrthwynebu bod yr erthygl wedi cyrraedd safon erthygl ddethol.

Os ydych am gyfrannu at y gwaith adolygu gallwch ychwanegu'ch enw unrhywbryd at yr adolygwyr sy'n gweithio ar ryw erthygl, gan nodi pa agwedd(au) o'r gwaith adolygu yr ydych yn bwriadu gwneud. Dylid trafod yr erthygl yn fanwl ar dudalen sgwrs yr erthygl.


    • Wedi derbyn marc erthygl ddethol.
    • Wedi derbyn marc erthygl ddethol

Cynnig bod yr erthygl yma yn cyrraedd y gofynion --Llygad Ebrill 12:11, 23 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Mae'n edrych yn dda i mi. Un cwestiwn, fel rhywun sy'n weddol anghyfarwydd a gwaith Gorecki: Yn y paragraff cyntaf, mae'n dweud "Mae'r symffoni yn enghraifft o'r trawsnewidiad a fu rhwng arddull anghyseiniol Górecki yn ei weithiau cynnar a'i arddull gyweiraidd ddiweddarach." Dydw i ddim yn siwr beth a loygir yma - ydi'r symffoni yn cynnwys elfennau o'r ddwy arddull, neu yn enghraifft gynnar o'r ail arddull neu beth? Porius1 11:28, 24 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno i roi statws erthygl ddethol iddi. Llywelyn2000 09:15, 4 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]
Heb fod trwyddi'n llawn eto (mae'r ychydig (bach bach iawn) o'r cyfieithu yn lletchith o'r ychydig dw i wedi ei ddarllen). Ond fel arall mae'n edrych yn addas iawn i gael statws erthygl dethol. Dof yn ol yma i gadarnhau y nghefnogaeth lawn pan gaf gyfle i'w ddarllen drwyddi'n fanwl.--Ben Bore (sgwrs) 15:42, 21 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Cytuno. Mae'n hen bryd! —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:56, 2 Medi 2012 (UTC)[ateb]

Carwn gynnig yr erthygl ar y Tabl cyfnodol. Llywelyn2000 09:15, 4 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]

  • Cynigiwyd gan Deb ar dudalen sgwrs yr erthygl.

Rwyf wedi ychwanegu at yr erthygl yma er mwyn cael ei ystyried ar gyfer y dudalen flaen yn ystod yr wythnos dathlu canmlwyddiant y Gwarchodlu Blogdroed (sgwrs) 21:24, 5 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

@Blogdroed: Rwan dw i'n gweld hwn! F'ymddiheuriadau! Da ni'n rhy hwyr ar gyfer y diwrnod pwysig, ond mae angen gwerthuso'r erthygl ar gyfer Erthygl Ddethol.
Dw i'n credu fod na chydig o waith ar hon, a gormod o ddolennau coch. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:19, 2 Mai 2017 (UTC)[ateb]
Mae gen i ragor o nodiadau ar y gatrawd hon yn rhywle. Mi geisiaf dod o hyd iddynt ac ehangu'r erthygl ychydig, a dileu'r dolenni cochion (gyda lwc, "glasu" ambell un). Down yn ôl iddi mewn pythefnos. —Adam (sgwrscyfraniadau) 00:39, 14 Mai 2017 (UTC)[ateb]
Cynnig! Fe'i sgennwyd yn bennaf gan @Duncan Brown:. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:19, 2 Mai 2017 (UTC)[ateb]
Cynnig! Fe'i sgennwyd yn bennaf gan @Duncan Brown:. Angen ychydig o waith, ond mae hi bron yna! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 14:50, 10 Mai 2017 (UTC)[ateb]
Mi gymra i gip ar y ddwy dros y penwythnos; diolch am ymateb! Ond mae rhain ar y ffordd yno! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:54, 10 Mai 2017 (UTC)[ateb]
Cynnig hon gan @AlwynapHuw:; mymryn o waith arni o ran teipio, gan fwyaf. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 14:50, 10 Mai 2017 (UTC)[ateb]
Wedi ychwanegu'r nodyn erthygl ddethol i'r erthygl hon cyn gweld y dudalen sgwrs yma. Mae pob rhan o'r erthygl yn cynnwys ffynhonnell/cyfeiriad.Titus Gold (sgwrs) 17:48, 23 Ionawr 2024 (UTC)[ateb]
Croeso i chi ddileu'r nodyn oddi ar y dudalen os ydych yn anghytuno. Titus Gold (sgwrs) 17:56, 23 Ionawr 2024 (UTC)[ateb]
Wedi adolygu'r iaith fan hyn yn drylwyr. Oes eraill yn hapus iddo gadw statws 'Erthygl ddethol'? Titus Gold (sgwrs) 15:33, 29 Mai 2024 (UTC)[ateb]

Dileu nodyn ar dudalennau sydd ddim yn cyrraedd y safon

golygu

Dwi wedi dileu'r nodyn erthygl ddethol ar dudalennau Y Gwarchodlu Cymreig, Symffoni rhif 3 (Górecki), Diwydiant llechi Cymru a Tom Pryce am y rheswm syml eu bod i gyd yn cynnwys brawddegau neu baragraffau heb ffynhonnell/cyfeiriad. Croeso i ail-ychwanegu'r nodyn unwaith mae'r holl destun yn cynnwys ffynhonnell/cyfeiriad. Diolch Titus Gold (sgwrs) 17:48, 23 Ionawr 2024 (UTC)[ateb]

Dw i ddim yn meddwl fod angen cyfeiriad/au yn y paragraff cyntaf, na'r agoriad, gan mai crynodeb syml o weddill yr erthygl ydyw. Dylid eu rhoi yng nghorff yr erthygl, wrth reswm. Eithriad arall yw brawddegau na fyddai neb yn eu cwestiynu ee 'Mae'r lleuad yn cylchdroi o amgylch y Ddaear'. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:02, 29 Mai 2024 (UTC)[ateb]
Wedi ail-asesu rhain ac ychwanegu nodyn addas yn ôl safon. Gweler y tudalennau eu hunain neuWicipedia:Asesiad cynnwys. Diolch Titus Gold (sgwrs) 00:56, 28 Mai 2024 (UTC)[ateb]
Cytuno. Diolch am dy waith diflino! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:02, 29 Mai 2024 (UTC)[ateb]

Yn cynig Datganoli Cymru ar gyfer statws erthygl dethol. Diolch Titus Gold (sgwrs) 01:42, 28 Mai 2024 (UTC)[ateb]

Gwrthwynebu. Mae'r erthygl yn un dda, a diolch i @Titus Gold am ei waith di-flino, ond erys gwallau iaith a brawddegau sydd wedi eu cam-gyfieithu a'u hor-gyfieithu (Cymeriad Gwleidyddol-Gyfreithiol? Talaith Lloegr?̠) Da hefyd byddai gweld bod rhywun heblaw yr awdur (a diolch eto iddo) wedi cael amser i graffu'n fanwl ar yr erthygl ac yn cefnogi. Llygad Ebrill (sgwrs) 14:21, 29 Mai 2024 (UTC)[ateb]
Digon teg ynglyn a'r iaith. Fe wnai adolygu'r rhannau sydd wedi'u cyfieithu. Diolch am yr ymateb. Titus Gold (sgwrs) 14:52, 29 Mai 2024 (UTC)[ateb]
Gweler uchod hefyd fy mod wedi adolyu'r erthygl Y Ddraig Goch. Ydy'r erthygl hon yn iawn i gadw'r statws "Erthygl ddethol"? Diolch Titus Gold (sgwrs) 15:34, 29 Mai 2024 (UTC)[ateb]

Archifau cynnig erthyglau dethol