Wicipedia:Asesiad cynnwys

Gweler hefyd: Erthyglau ddethol, Cynnig erthygl ddethol

Dyma strwythr safonni erthyglau gorau'r Wicipedia Cymraeg.

Gellir ychwanegu statws unrhyw un o'r nodiadau canlynol i dudalen cyn belled ei bod yn cyrraedd y safon a nodir. Dylid defnyddio'r tabl a'r enghreifftiau isod i arwain y safonni ond mae rhywfaint o le ar gyfer defnyddio barn i safon B a C. Dylid glynnu yn fwy llym at bwyntiau'r tabl ar gyfer safon Erthygl ddethol ac A.

Ar gyfer erthygl 'Erthygl ddethol' dylid nodi'r bwriad i ychwanegu'r statws hyn ar y dudalen Wicipedia:Cynnig erthygl ddethol.

Statws Disgrfiad posib bras Delwedd Dolen i ychwanegu nodyn
Erthygl ddethol
  • Trafodaeth eang gyda manylder dda ym mhob agwedd o'r pwnc.
  • Dim cynnwys o gwbl heb gyfeiriad (heblaw'r cyflwyniad).
  • Trafodaeth o bob pennawd amlwg.
  • Yn cynnwys nifer addas o ddelweddau.
  • O leiaf 5 ffynhonnell.
  • Dim gwallau amlwg.
  • Yn ffeithiol gywir.
  • Cymraeg cywir ac eglur.
  • Perspectif Cymreig yn ogystal ag un byd-eang
  • O leiaf 5 paragraff o hyd ac yn trin y testun yn gyflawn.
  • Yn ddiduedd.
  • Dylai'r categorïau ar waelod yr erthygl ffurfio cadwyn gyflawn. Hynny yw, ni ddylai cadwyn diweddu â chategori coch.
  • Dylai'r dolenni rhyngwici arwain yn syth at yr erthygl gyfatebol yn yr ieithoedd eraill.
  • Dylai lleiafrif o ddolenni'r erthygl fod yn rhai coch.
  • Dylai'r cysylltiadau at wefannau allanol weithio.

Argymhellir hefyd (nid yw'n ofynnol):

  • Llyfyddiaeth

Rhestr:

golygu
Nodyn:Erthygl ddethol i'w deipio yn y blwch nodyn ar yr erthygl dan sylw.
A
  • Yr erthygl yn cynnwys pob agwedd o'r pwnc gan gynnwys manylder dda.
  • Agos at statws 'Erthygl ddethol' ond nid yw'n cyrraedd o leiaf un o'r pwyntiau uchod.
  • Dim pennawd amlwg ar goll.
  • Hyd at ~3 brawddeg heb gyfeiriad NEU hyd at 2 baragraph heb gyfeiriad.
  • Hyd at ~3 pennawd sydd angen rhywfaint mwy o fanylder.
  • Yn cynnwys delweddau a thrafodaeth eang gyda manylder addas.
  • O leiaf ~4 ffynhonnell.

Rhestr:

golygu
  • Y Ddraig Goch - aros am adolygiad golygydd arall.
  • Datganoli Cymru - angen gwrthddadlau.
  • Draig Y Brythoniaid - Angen adolygiad iaith arall. Addawol; angen cyd-destun symbolaeth anifeiliaid eraill y cyfnod; mwy ar fytholeg ac o bosib mwy o fanylion ar draddodiad perthnasol y Derwyddon.
Nodyn:Erthygl A i'w deipio yn y blwch nodyn ar yr erthygl dan sylw.
B
  • Y testun yn cynnwys rhan fwyaf helaeth o agweddau'r pwnc a manylder dda.
  • Dim mwy na un pennawd amlwg ar goll.
  • Hyd at ~5 brawddeg heb gyfeiriad NEU hyd at ~3 paragraph heb gyfeiriad.
  • Hyd at ~3 pennawd heb fanylder llawn.
  • Yn cynnwys o leiaf un delwedd.
  • O leiaf ~3 ffynhonnell.

Rhestr:

golygu
Nodyn:Erthygl B i'w deipio yn y blwch nodyn ar yr erthygl dan sylw.
C
  • Yr erthygl yn cynnwys rhan fwyaf o agweddau'r pwnc ac ymdrech dda i gyfeirio rhan fwyaf helaeth or erthygl
  • Manylder amlwg; agweddau amlwg; neu cyfeiriadau niferus ar goll.
  • Hyd at ddau bennawd amlwg ar goll.
  • Yn cynnwys o leiaf ~2 ffynhonnell
  • Cyfeiriadau i ran fwyaf o'r erthygl
  • Cyfeiriadau i ran fwyaf o bob pennawd ond sawl cyfeiriad ar goll.
  • Hyd at ~4 pennawd heb fanylder llawn.

Rhestr:

golygu
Nodyn:Erthygl C i'w deipio yn y blwch nodyn ar yr erthygl dan sylw.