William Wotton

clerigwr ac ysgolhaig

Roedd William Wotton (13 Awst 166613 Chwefror 1727), yn ysgolhaig o Sais a aned yn Wrentham, Suffolk. Fe'i cofir yn bennaf am ei ddoniau ieithyddol eithriadol a'i ran ym Mrwydr y Llyfrau. Mae ei gyfrol arloesol Leges Wallicae wedi ennill iddo le yn hanes llenyddiaeth Gymraeg.

William Wotton
Ganwyd13 Awst 1666 Edit this on Wikidata
Wrentham, Suffolk Edit this on Wikidata
Bu farw13 Chwefror 1727 Edit this on Wikidata
o edema Edit this on Wikidata
Buxted Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Diwinyddiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethclerig, person dysgedig, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Ei yrfa gynnar golygu

Ganwyd William Wotton yn ail fab i'r Parch. Henry Wotton, rheithor Wrentham yn Suffolk. Roedd yn athrylith o blentyn a allai ddarllen penodau o'r Beibl yn Saesneg, Lladin, Groeg a Hebraeg cyn ei chweched benblwydd. Yn Ebrill 1676, ac yntau'n fachgen dan ddeg oed, cafodd ei anfon i Goleg y Santes Catrin, Caergrawnt, a graddiodd tair blynedd yn ddiweddarach, yn 1679, wedi ychwanegu Arabeg, Syriaeg a Chaldëeg, ynghyd â gwybodaeth o resymeg, athroniaeth, mathemateg, daearyddiaeth, cronoleg a hanes i'w gyrhaeddiadau.

Bu farw ei rieni tua diwedd ei gyfnod yng Nghaergrawnt a chafodd ei dderbyn ar bentan Gilbert Burnet, a fyddai'n nes ymlaen yn esgob Salisbury. Enillodd gymrodoriaeth yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, ac yno cafodd gradd M.A. yn 1683 a B.D. yn 1691. Cafodd ei ethol yn Gymrod o'r Gymdeithas Frenhinol (F.R.S.) yn 1687 yn ogystal. Yn fuan ar ôl iddo gael ei ordeinio cafodd ei wneud yn gaplan i Daniel Finch, Iarll Nottingham, ac yn diwtor i'w deulu. Fel arwydd o'i ddiolch rhoddodd Finch reithoriaeth Milton Keynes, Swydd Buckingham, iddo yn 1693.

Brwydr y Llyfrau golygu

 
Wynebdalen Leges Wallicae (Llundain, 1730)

Dechreuodd Wotton ar ei yrfa fel ysgolheig â chyfieithiad o waith swmpus Louis Dupin, A new history of ecclesiastical writers, (13 cyfrol, 1692-99). Roedd wedi dechrau ysgrifennu bywgraffiad y cemegydd Syr Robert Boyle hefyd ond collodd ei nodiadau ac ni welodd y llyfr olau dydd.

Ond fe'i gofir yn bennaf am ei ran yn y ddadl ffyrnig a losgodd ar ddiwedd yr 17g a dechrau'r ganrif ganlynol ynghylch rhinweddau a buddioldeb cymharol dysg hen a newydd ("Brwydr y Llyfrau", neu "Brwydr yr Hynafiaethwyr a'r Modernwyr"). Yn ei gyfrol Reflections upon Ancient and Modern Learning (1694, ac eto yn 1697), cymerodd ran y modernwyr. Heddiw perchir y gwaith hwnnw am ei ddidueddrwydd a'i ddysg. Ond er gwaethaf hynny ymosododdSwift ar bedantrwydd honedig Wotton yn ei lyfrau dychanol enwog The Battle of the Books ac A Tale of a Tub.

Ysgrifennodd Wotton ei History of Rome yn (1701) ar ofyniad yr Esgob Burnet, a defnyddiwyd y llyfr gan Edward Gibbon ar gyfer ei gyrfol adanbyddus ar hanes a chwymp Rhufain. Gwobr Wotton gan Burnet y tro yma oedd prebendiaeth Eglwys Gadeiriol Salisbury yn 1705. Yn 1707 dyfarnwyd "gradd Lambeth" fel Doethur mewn Diwinyddiaeth iddo gan yr Archesgob Thomas Tenison mewn cydnabyddiaeth o'i weithiau yn cefnogi'r Eglwys Loegr sefydliaethol yn erbyn y Deistiaid.

Ei gyfnod yng Nghymru golygu

Yn y flwyddyn 1714 bu rhaid i Wotton roi heibio ei reithioraeth ym Milton Keynes er mwyn osgoi ei gredydwyr, ac aeth i fyw am saith mlynedd yng Nghaerfyrddin dan yr enw ffug Dr William Edwards. Yn y dref honno ymroddodd i astudio'r iaith Gymraeg. Yn ystod y cyfnod ffrwythlon hwnnw golygodd destun cyfochrog dwyieithog pwysig o'r testunau cyfreithiol Lladin a Chymraeg a elwir ar lafar gwlad yn Gyfraith Hywel Dda. Noddwr y gwaith hwnnw oedd ei gyfaill yr Archesgob William Wake. Cafodd y gwaith ei gwblhau wedi marwolaeth Wotton gan ei gydweithiwr, yr ysgolhaig Moses Williams. Fe'i cyhoeddwyd yn 1730 gan William Clarke, mab-yng-nghyfraith Wotton, yn argraffiad ffolio mawr dan y teitl Leges Wallicae. Erys yn waith eithaf safonol hyd heddiw ond yn ei gyfnod yr oedd yn waith arloesol iawn. Yng Nghaerfyrddin hefyd gwnaeth Wotton arolygiadau o eglwysi cadeiriol Tyddewi a Llandaf a gyhoeddwyd gan gyfaill arall iddo, Browne Willis, yn 1717 a 1718. Cyhoeddodd yn ogystal Miscellaneous Discourses relating to the Traditions and Usages of the Scribes and Pharisees, a oedd yn cynnwys cyfieithiad o ran o'r Mishnah Iddewig, yn (1718).

Diwedd ei yrfa golygu

Llwyddasai Wotton i ad-dalu ei gredydwyr a medrodd ddychwelyd i Gaerfaddon yn Hydref, 1721 ac yna i Lundain ym Mehefin 1722, ond roedd ei iechyd yn fregus iawn. Roedd yn dal i weithio ar y Leges Wallicae pan fu farw o dropsy yn Buxted, Sussex, 13 Chwefror, 1727.

Llyfrau Wotton golygu

  • Cyfreithjeu Hywel Dda ac eraill, seu Leges Wallicae Ecclesiasticae et Civiles Hoeli boni et Aliorum Walliae Principum (Llundain, 1730)
  • A History of Rome (1701)
  • Miscellaneous Discourses relating to the Traditions and Usages of the Scribes and Pharisees (1718)
  • (cyf.), Louis Dupin, A new history of ecclesiastical writers (13 cyf. 1692-99)
  • Reflections upon Ancient and Modern Learning (1694, 1697)