Y Bont-faen

(Ailgyfeiriad o Y Bontfaen)

Tref farchnad ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Y Bont-faen[1] (weithiau Y Bont faen a Bont-faen yn ogystal heb y cysylltnod; Saesneg: Cowbridge).[2] Enwyd y Bont-faen ar ôl yr hen bont ar Afon Ddawan, sy'n llifo trwy'r dref. Fe'i lleolir yng nghymuned Y Bont-faen a Llanfleiddan.

Y Bont-faen
Mathtref farchnad Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKlison Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirY Bont-faen a Llanfleiddan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4605°N 3.448°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS995745 Edit this on Wikidata
Cod postCF71 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map
Erthygl am y dref ym Mro Morgannwg yw hon. Am y pentref ym Mhowys, gweler Y Bont-faen, Powys. Gweler hefyd Pont-faen (Powys), Pontfaen (Sir Benfro).

Ar un adeg bu gan yr hynafiaethydd a'r ffugiwr llenyddol enwog Iolo Morganwg siop lyfrau yn y Bont-faen. Fe'i gwelir o hyd yn y Stryd Fawr ac arni lechen gyda'r arwyddair 'Y Gwir yn erbyn y Byd' arno, yn yr wyddor Gymraeg arferol a gwyddor Coelbren y Beirdd. Ym 1795 cynhaliodd Iolo gwrdd cyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain fymryn y tu allan i'r dref.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Capel Ramoth
  • Castell Llanfleiddan
  • Cofeb ryfel
  • Eglwys y Groes Sanctaidd
  • Gardd feddyginiaeth
  • Mur y dref
  • Neuadd y dref
  • Ysgol Ramadeg

Enwogion golygu

Gefeilldref golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 18 Chwefror 2022
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.