Y Cwiltiaid

Grŵp pop a gwerin ysgafn o ardal Talgarreg, Ceredigion a bu'n perfformio yn ail hanner yr 1960au

Grŵp gitâr a canu harmoni clòs oedd y Cwiltiaid. Roeddent yn rhan o don pop Cymraeg ysgafn yr 1960au canol. Roeddent yn canu caneuon gwerin a gwreiddiol. Roeddent yn hanu o ardal Banc Siôn Cwilt ger Talgarreg a Synod Inn yng Ngheredigion. Oddi ar hynny y dewiswyd yr enw 'Y Cwiltiaid'.[1]

Y Cwiltiaid
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1960s Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1965 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, Cerddoriaeth pop a roc Cymreig, Canu gwerin Edit this on Wikidata
Capel Undodaidd Llwynrhydowen lle bu i aelodau'r Cwiltiaid ddechrau canu a pherfformio

Sefydlwyd y Cwiltiaid yn 1965 gan y tri aelod oedd yn aelodau o Gapel Undodaidd Llwydrhydowen yn Mhontsiân. Perfformio mewn cyngherddau Nadolig. Ysbrydolwyd y tri ffrind gan y poblogrwydd mewn pop Cymraeg ysgafn yr 1960au canol gan grwpiau fel Hogia Llandegai, Hogia'r Wyddfa gan ddechrau drwy ddynwared caneuon y Beatles.[1]

Y Grŵp

golygu

Y tri aelod oedd Morus Elfryn (Elfryn Jones yn wreiddiol), Tom Jones a John Jones. Roeddent yn eu hugeiniau cynnar, ac nid oeddent yn frodyr.[2] Bu Morus yn aelod maes o law o grŵp Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog a byw ym Mharis am gyfnod. Fel saer bu hefyd iddo helpu adeiladu stiwdio Recordiau Sain. Bu farw ym mis Mawrth 2022.[3]

Er nad oedd y grŵp yn cael eu gweld fel band protest, roedd rhai caneuon fel 'Marw a Wnaeth dy Dad' sy'n trafod marwolaethau mewn swyddi peryglus fel rhai mewn pyllau glo, chwareli llechi, ffatrïoedd a gydag olew yn brotest cynnil.[1]

Bu i'r grŵp berfformio ymhob un o hen siroedd Cymru [1] ac yng nghyngerdd enwog 'Pinaclau Pop' a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Mehefin 1968 i godi arian i Eisteddfod Genedlaeth yr Urdd, Aberystwyth 1969 ynghyd a pherfformwyr adnabyddus eraill bu'n perfformio fel Dafydd Iwan, Heather Jones, Hogia Llandegai, Y Derwyddon, Y Pelydrau, Aled a Reg, Mari Griffith, Y Diliau gyda Ryan Davies yn cyflwyno i gynulleidfa o 3,000 o bobl.[4]

Roedd y grŵp yn drawiadol am wisgo dillad wedi eu gwneud o gwilt Cymreig, gan gynnwys trowsus a chrysau.[1]

Disgyddiaeth

golygu

Cyhoeddwyd sawl record gan Y Cwiltiaid.[5]

Caneuon: Ochr A: Y Cadno Coch, A2 Yr Yns Ger Y Lli. Ochr B B1 Fy Ngweddi Fach Yw, B2 Rho Imi Nerth I Wneud Fy Rhan.
Caneuon: Ochr A: Pan Oeddwn, A2 Wyt Ti'n Cofio. Ochr B, B1 Dyma Fy Ngwlad, B2 Hafan Deg
Caneuon: Ochr A: Rwyf Yn Dy Garu; A2 Elen. Ochr B1 Heno; B2 Mynd Na'th Nghariad

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Morus Elfryn yn hel atgofion am Y Cwiltiaid". Rhaglen Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru. 11 Chwefror 2019. Cyrchwyd 7 Ebrill 2024.
  2. "Y Cwiltiaid (broliant cefn record sengl)". Qualiton. 1967.
  3. "Teyrngedau i Morus Elfryn, cerddor a rheolwr cynhyrchu "uchel iawn ei barch"". Golwg360. 2022.
  4. "'Pinaclau Pop' - Robat Gruffudd (1969)". Tudalen Facebook Y Lolfa. 19 Gorffennaf 2016.
  5. "Y Cwiltiaid". Discogs. Cyrchwyd 7 Ebrill 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato