Swdan
Gwlad fawr yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Gweriniaeth Swdan neu Swdan (hefyd Sudan neu Siwdan). Mae'n ffinio â'r Aifft i'r gogledd, Eritrea ac Ethiopia i'r dwyrain, De Swdan i'r de, Gweriniaeth Canolbarth Affrica a Tsiad i'r gorllewin a Libia i'r gogledd-orllewin. Mae'r Môr Coch yn gorwedd i'r gogledd-ddwyrain ac mae Afon Nîl yn llifo trwy'r wlad. Yn y Cyfrifiad Cenedlaethol diwethaf, roedd poblogaeth Swdan yn 40,533,330 (2017)[1].
Gweriniaeth Swdan جمهورية السودان (Arabeg) Jumhūriyyat as-Sūdān | |
Arwyddair | النصر لنا |
---|---|
Math | gweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad, gwlad a oedd unwaith yn enfawr |
Prifddinas | Khartoum |
Poblogaeth | 40,533,330 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Nahnu Jund Allah Jund Al-watan |
Pennaeth llywodraeth | Abdalla Hamdok |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Affrica, Affrica |
Gwlad | Swdan |
Arwynebedd | 1,886,068 km² |
Yn ffinio gyda | De Swdan, Tsiad, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Ethiopia, Eritrea, Yr Aifft, Libia, Cenia, Wganda, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Bir Tawil, Y Dwyrain Canol |
Cyfesurynnau | 15°N 32°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Corff Deddfu Genedlaethol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Cadeirydd y Cyngor Milwrol Trosiannol |
Pennaeth y wladwriaeth | Abdel Fattah al-Burhan |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Swdan |
Pennaeth y Llywodraeth | Abdalla Hamdok |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $34,230 million, $51,662 million |
Arian | punt Swdan |
Canran y diwaith | 15 canran |
Cyfartaledd plant | 4.353 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.508 |
- Am y rhanbarth, gweler Sudan (rhanbarth).
Hanes
golyguHanes cynnar Swdan
golyguHyd at ddechrau'r 5ed ganrif, bron iawn, cefnogai'r Ymerodraeth Rufeinig dylwyth y Nobatae, a ddefnyddiai deyrnas Meroë fel amddiffynfa rhwng yr Aifft a thylwyth y Blemmyae. Tua'r flwyddyn 350 OC, daeth annibyniaeth Meroë i ben, pan ddinistriwyd y ddinas gan fyddin o Abyssinia.
Teyrnasoedd Cristnogol
golyguErbyn y 6ed ganrif, ymddangosodd tair gwladwriaeth newydd: Nobatia yn y gogledd, Muqurra yn y canolbarth, ac Alawa (oedd a'i phrifddinas ger safle Khartoum heddiw). Tua 540, anfonodd Theodora, ymerodres Bysantiwm, genhadwyr i hybu'r Efengyl Gristnogol yn Nobatia. Derbyniodd brenhinoedd Nubia awdurdod patriarchaid eglwys Goptig yr Aifft.
Dyfod Islam
golyguWedi sawl ymgais aflwyddiannus ar wladychiad milwrol, arwyddodd lluoedd Arabaidd o'r Aifft gyfres o gytundebau (AlBaqt) gyda'r Nubiaid. Bu'r cytundebau yn sail i berthynas yr Arabiaid a'r Nubiaid am gyfnod o dros 600 mlynedd. Lledaenodd Islam trwy'r ardal yn raddol iawn, trwy briodi a masnachu gyda mewnfudwyr a masnachwyr Arabaidd. Ym 1315, esgynodd tywysog o Fwslim o dras Nubiaidd i orsedd Dunqulah.
Ymddyngasodd dau grŵp Arabeg eu hiaith, y Jaali a'r Juhayna. Yn gorfforol, roeddynt yn ddi-dor gyda'r boblogaeth gyn-Islamaidd. Mae elfennau Arabaidd a Nubiaidd i ddiwylliant gogledd Swdan sydd ohoni.
Teyrnas Sinnar
golyguYn y 17eg ganrif, ymddangosodd pobl y Funj yn neheubarth Nubia, gan gymryd lle adfeilion teyrnas Gristnogol, gan sefydlu As-Saltana az-Zarqa.
Rheolaeth o'r Aifft - 1821-1885
golyguYn 1820, daeth gogledd Swdan dan reolaeth Muhammad Ali, rhaglaw yr Ymerodraeth Otomanaidd yn yr Aifft. Gydag annogaeth o Brydain, ceisiodd Ismail Pasha, estyn y ddylanwad Eifftaidd tua'r de yn y blynyddoedd 1863-1879.
Gwrthryfel Mahdaidd
golyguYsgogwyd Muhammad ibn Abdalla i arwain wrthryfel oherwydd cam-lywodraeth Eifftaidd a dymuniad i burháu Islam yn Swdan. Ym 1885, lladdwyd y Cadfridog prydeinig Charles George Gordon, gadawodd yr Eifftiaid, a sefydlwyd wladwriaeth grefyddol Mahdaidd newydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.