Aberafan Maesteg (etholaeth seneddol)
Mae etholaeth Aberafan Maesteg yn ethol aelod i senedd San Steffan. Fe'i crëwyd o'r rhan mwyaf o'r hen etholaeth Aberafan ynghyd â rhannau llai o'r hen etholaethau Castell-nedd, Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd yn ethol Aelod Seneddol am y tro cyntaf yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2024 (4 Gorffennaf).[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 4 Gorffennaf 2024 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Arolwg Seneddol 2023 - Cynigion Diwygiedig", Y Comisiwn Ffiniau i Gymru; adalwyd 4 Mehefin 2024
- ↑ (Saesneg) "Aberafan Maesteg: New Boundaries 2023 Calculation", Electoral Calculus; adalwyd 4 Mehefin 2024