John Evans, Archddiacon Meirionnydd

archddiacon Meirionnydd

Roedd Yr Hybarch John Evans (4 Mawrth, 181524 Mai, 1891) yn offeiriad Anglicanaidd Cymreig a wasanaethodd fel Archddiacon Meirionnydd, yn hynafiaethydd, yn achydd ac yn awdur.[1]

John Evans, Archddiacon Meirionnydd
Ganwyd4 Mawrth 1815 Edit this on Wikidata
Llanfair Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mai 1891 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad, archddiacon, Ficer Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Evans yn Nhŷ'n y Coed Llanfair, Harlech yn blentyn i John Evans, tirfeddiannwr ac Anne Owen ei wraig o deulu'r Crafnant, Llanbedr. Roedd Evans, gan hynny, yn disgyn o deuluoedd yr uchelwyr trwy'r ddau riant. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Biwmares a Choleg y Drindod, Dulyn lle graddiodd BA ym 1841 ac MA ym 1863.[2]

Gyrfa golygu

Wedi ymadael a'r ysgol aeth Evans i gwmni cyfreithiol David Williams AS, Castell Deudraeth fel clerc erthyglau, er mwyn cymhwyso i ddod yn gyfreithiwr. Wedi cyflawni ei erthyglau a gweithio fel cyfreithiwr am tua phedwar blynedd penderfynodd nad oedd byd y gyfraith at ei ddant ac aeth yn fyfyriwr diwinyddol i Goleg y Drindod, Dulyn.[3]

Wedi graddio o'r brifysgol fe'i hordeiniwyd yn ddiacon yn yr Eglwys Anglicanaidd ar Sul y Drindod 1841 ac yn offeiriad ym 1842 gan Christopher Bethell, Esgob Bangor. Ym 1841 fe'i penodwyd yn Gurad Llanbedr-y-cennin, Dyffryn Conwy gan wasanaethu yno o 1841 i 1844. Ym 1844 fe'i penodwyd yn Gurad parhaus Pentrefoelas a'i ddyrchafu yn Ficer yr un plwyf ychydig wedyn. Ym 1857 fe'i penodwyd yn Berson Machynlleth ac ym 1862 yn Rheithor Llanllechid. Ym 1866 fe'i codwyd yn Archddiacon Meirionnydd a Channon Trigiannol Eglwys Gadeiriol Bangor, gan barhau hefyd â bywoliaeth Llanllechid. Bu hefyd yn gyfrifol am achos Maes-y-groes rhwng Llandegai ac Abergwyngregyn. Sefydlodd ysgol ddyddiol Eglwysig ym Maes-y-groes. Ym 1888 fe'i penodwyd yn Rheithor Abergwyngregyn gan yr Arglwydd Penrhyn, perchennog y fywoliaeth.[4] Arhosodd yn Abergwyngregyn am weddill ei ddyddiau.

Ym 1881 bu Evans yn un o dri gŵr eglwysig a enwyd mewn gweithred gyfreithiol fel perchenogion darn o dir a defnyddiwyd fel estyniad i fynwent blwyf Llanfrothen. Y ddogfen gyfreithiol hon arweiniodd at Achos claddu Llanfrothen, 1888, yr achos llys a daeth a'r cyfreithiwr ifanc o Lanystumdwy, David Lloyd George i sylw Cymru.[5]

Hynafiaethydd golygu

Roedd Evans yn hynafiaethydd ac yn achydd brwd, yn aelod o bron y cyfan o gymdeithasau a oedd yn ymwneud a'r fath bynciau yn ei ddydd. Roedd yn siaradwr a darlithydd poblogaidd ar y pynciau. Yn anffodus ychydig o ffrwyth ei lafur a gyhoeddwyd ond mae ei lithiau ar hanes Pentrefoelas yn y Cambrian Journal rhwng 1854 a 1855 ac ysbytywyr Ysbyty Ifan yn Archæologia Cambrensis ym 1860 yn dangos faint ei allu fel hanesydd.[6]

Bu'n gwasanaethu fel beirniad mewn nifer o'r prif Eisteddfodau ar y cystadlaethau llenyddol a fu'n gadeirydd Pwyllgor Llên Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor 1890.

Teulu golygu

Priododd Mary Williams merch William Williams, Brynberllan, Pwllheli cawsant dau fab a dwy ferch. Bu'r ddau fab hefyd yn offeiriaid Anglicanaidd.[7]

Marwolaeth golygu

Bu farw ar Sul y Drindod 1891, ym Mangor o niwmonia yn 76 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. James, J. W., (1953). EVANS, JOHN (1815 - 1891), archddiacon Meirionnydd. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Chwefror 2020
  2. Y Bugeilydd, cylchgrawn misol at wasanaeth ysgol Sul yr eglwys. Cyf. I rhif. 10 - Awst 1881. Adferwyd 16 Chwefror 2020
  3. Bye-gones relating to Wales and the border counties; Mai 1891 - The Late Archdeacon of Merioneth adalwyd 16 Chwefror 2020
  4. Bye-gones relating to Wales and the border counties; Cyfrol Ebrill-Mehefin 1888 adalwyd 16 Chwefror 2020
  5. "HELYNT Y CLADDU YN LLANFROTHEN - Y Werin". D. W. Davies & Co. 1888-05-19. Cyrchwyd 2020-08-25.
  6. Y Geninen, Cylchgrawn Cenedlaethol Cyf. XII rhif. 3 - Gorffennaf 1894 - YR HYBARCH ARCHDDIACON EVANS adalwyd 16 Chwefror 2020
  7. "Y DIWEDDAR ARCHDDIACON JOHN EVANS - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1891-06-12. Cyrchwyd 2020-02-16.
  8. "Marwolaeth Archddiacon Meirionydd - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1891-05-28. Cyrchwyd 2020-02-16.