Kinshasa
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yw Kinshasa (Léopoldville tan 1966). Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad ar lan ddeheuol Afon Congo. Saif Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo, ar y lan gyferbyn. Kinshasa yw dinas fwyaf holl gyfandir Affrica gyda phoblogaeth o tua 11,855,000 (2016)[1].
Math | is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, tref ar y ffin, mega-ddinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Leopold II, brenin Gwlad Belg |
Poblogaeth | 11,855,000 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Kinshasa |
Gwlad | Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo |
Arwynebedd | 9,965 ±1 km² |
Uwch y môr | 240 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Congo |
Yn ffinio gyda | Rhanbarth Bas-Congo, Brazzaville, Talaith Mai-Ndombe, Kwilu, Talaith Kwango |
Cyfesurynnau | 4.3219°S 15.3119°E |
CD-KN | |
Sefydlwydwyd gan | Henry Morton Stanley |
Fe'i sefydlwyd fel canolfan fasnachol yn 1881 gan y Cymro Henry Morton Stanley o Lanelwy a enwodd y ddinas ar ôl Léopold II, brenin Gwlad Belg. Daeth Léopoldville yn brifddinas trefedigaeth Congo Felgaidd yn ystod y 1920au. Yn 1966 newidiwyd ei henw i Kinshasa, pentref bychan a oedd yma cyn y brifdinas, gan yr Arlywydd Mobutu Sese Soko.
Ar un adeg roedd Kinshasa'n bentrefi pysgota a masnachu; mae Kinshasa bellach yn un o'r mega-ddinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae'n wynebu Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo; y ddwy ddinas yma (Kinshasa' a Brazzaville) yw'r ddwy brifddinas agosaf at ei gilydd yn y byd. Mae dinas Kinshasa hefyd yn un o 26 talaith y wlad. Oherwydd bod ffiniau gweinyddol y ddinas-dalaith yn gorchuddio ardal helaeth, mae dros 90 y cant o dir y ddinas-dalaith yn wledig ei natur, ac mae'r ardal drefol yn meddiannu rhan fach, ond sy'n ehangu ar yr ochr orllewinol.[2]
Kinshasa yw trydydd ardal fetropolitan fwyaf Affrica, ar ôl Cairo a Lagos.[3] Hi hefyd yw ardal drefol Ffrangeg ei hiaith fwyaf y byd, gyda'r Ffrangeg yn iaith llywodraeth, addysg, y cyfryngau, gwasanaethau cyhoeddus a masnach, tra bod Lingala yn cael ei defnyddio fel iaith pob dydd ar y stryd.[4] Cynhaliodd Kinshasa 14eg Uwchgynhadledd Francophonie ym mis Hydref 2012.[5]
Gelwir dinasyddion Kinshasa yn "Kinois" (yn Ffrangeg ac weithiau yn Saesneg) neu Kinshasans (Saesneg). Mae pobl frodorol yr ardal yn cynnwys yr Humbu [fr] a Teke.
Hanes
golyguSefydlwyd y ddinas fel man masnachu gan y Cymro (a'r perchennog caethwaesion Henry Morton Stanley ym 1881.[6] Cafodd ei henwi’n "Léopoldville" er anrhydedd i’r Brenin Leopold II o’r Belgiaid, a oedd yn rheoli Gwladwriaeth Rydd y Congo, y diriogaeth helaeth sydd bellach yn Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo, nid fel trefedigaeth ond fel eiddo preifat. Ffynnodd y pentre masnachu hwn fel y porthladd cyntaf ar Afon Congo uwchben Rhaeadr Livingstone, cyfres o ddyfroedd gwyllt dros 300 cilomedr (190 milltir) islaw Leopoldville. Ar y dechrau, roedd yn rhaid i borthorion rhwng Léopoldville a Matadi gario'r holl nwyddau sy'n cyrraedd ar y môr neu'n cael eu hanfon ar y môr, gan fod y porthladd 150 km (93 milltir) o'r arfordir. Roedd cwblhau rheilffordd porthladd Matadi-Kinshasa, ym 1898, yn darparu llwybr amgen o amgylch y dyfroedd gwyllt ac yn sbardun i ddatblygiad cyflym Léopoldville. Ym 1914, gosodwyd pibell cludo olew crai o Matadi i'r cychod stemars i fyny'r afon yn Leopoldville.[7]
Erbyn 1923, roedd y ddinas wedi'i dyrchafu'n brifddinas 'Congo Gwlad Belg', gan ddisodli tref Boma yn aber y Congo.[7] Daeth y dref, a alwyd ar lafar am gryn amser yn "Léo" neu "Leopold", yn ganolfan fasnachol a thyfodd yn gyflym yn ystod y cyfnod trefedigaethol.
Ar ôl ennill ei hannibyniaeth ar 30 Mehefin 1960, yn dilyn terfysgoedd ym 1959, etholodd Gweriniaeth y Congo ei phrif weinidog cyntaf, Patrice Lumumba. Roedd gogwydd Sofietaidd Lumumba yn cael ei ystyried yn fygythiad gan fuddiannau'r Gorllewin. Dyma anterth y Rhyfel Oer, ac nid oedd yr Unol Daleithiau na Gwlad Belg eisiau colli rheolaeth ar gyfoeth strategol y Congo, oherwydd ei wraniwm. Lai na blwyddyn ar ôl etholiad Lumumba, prynodd y Belgiaid a’r Unol Daleithiau gefnogaeth ei gystadleuwyr Congolese a llofruddiwyd Lumumba.[8]
Ym 1965, gyda chymorth yr Unol Daleithiau a Gwlad Belg, cipiodd Joseph-Désiré Mobutu rym yn y Congo. Cychwynnodd bolisi o "Ddilysu" enwau pobl a lleoedd drwy'r wlad. Ym 1966, ailenwyd Léopoldville yn Kinshasa, ar ôl pentref o'r enw Kinshasa a arferai sefyll ger y safle, heddiw Kinshasa (cymuned). Tyfodd y ddinas yn gyflym o dan Mobutu, gan ddenu pobl o bob cwr o'r wlad a ddaeth i chwilio am eu gyfoeth, neu i ddianc rhag problemau ethnig mewn man arall, gan ychwanegu felly at y nifer fawr o wahanol ethnigrwydd ac ieithoedd oedd yno'n barod.
Yn y 1990au, cychwynnodd gwrthryfel a oedd erbyn 1997 wedi dymchwel cyfundrefn Mobutu.[7] Dioddefodd Kinshasa yn fawr oherwydd Mobutu: llygredd a rhoi swyddi i'w deulu ei hun, yn bennaf, a'r rhyfel cartref a arweiniodd i'w gwymp. Serch hynny, mae'n dal i fod yn ganolfan ddiwylliannol a deallusol o bwys ar gyfer Canolbarth Affrica, gyda chymuned lewyrchus o gerddorion ac artistiaid. Dyma hefyd brif ganolfan ddiwydiannol y wlad, gan brosesu llawer o'r cynhyrchion naturiol y wlad. Yn y 2010au bu’n rhaid i’r ddinas orfod atal milwyr y wlad, a oedd yn protestio oherwydd methiant y llywodraeth i dalu eu cyflog.
Nid oedd Joseph Kabila, llywydd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo rhwng 2001-2019, yn boblogaidd iawn yn Kinshasa.[9] Dechreuodd trais yn dilyn y cyhoeddiad am fuddugoliaeth Kabila yn etholiad 2006; bu'n rhaid i'r Undeb Ewropeaidd danfon milwyr (EUFOR RD Congo) i ymuno â llu'r Cenhedloedd Unedig yn y ddinas. Arweiniodd y cyhoeddiad yn 2016 y byddai etholiad newydd yn cael ei ohirio at ddwy flynedd o brotestiadau mawr ym mis Medi ac ym mis Rhagfyr; roedd y protestiadau'n cynnwys barricadau ar y strydoedd bu dwsinau o bobl farw. Caewyd ysgolion a busnesau am gryn amser.[10][11]
Daearyddiaeth
golyguDinas o wrthgyferbyniadau yw Knshasa, gydag ardaloedd preswyl a masnachol cyfoethog a thair prifysgol ochr yn ochr â slymiau gwasgarog. Fe'i lleolir ar hyd glan ddeheuol Afon Congo, ac yn union gyferbyn â dinas Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo.[12] Afon Congo yw'r ail afon hiraf yn Affrica ar ôl Afon Nîl, ac mae mwy o gyfaint o ddwr yn llifo drwyddi nac unrhyw afon arall ar Gyfandir Affrica. Fel dyfrffordd, mae'n darparu dull cludo ar gyfer llawer o fasn y Congo; gellir ei fordwyo ar gychod rhwng Kinshasa a Kisangani; mae llawer o'i llednentydd hefyd yn fordwyol. Dyma ffynhonnell bwysig o Egni hydro, ac i lawr yr afon o Kinshasa mae ganddi botensial i gynhyrchu digon o bŵer i hanner poblogaeth Affrica.[13]
Demograffeg
golyguYn ôl Cyfrifiad 1984 roedd 2.6 miliwn o ddinasyddion.[14] Yr amcangyfrif ar gyfer 2005 oedd rhwng 5.3 miliwn a 7.3 miliwn.[12] Yn 2017, roedd gan y ddinas boblogaeth o 11,855,000.[15]
Yn ôl UN-Habitat, mae 390,000 o bobl yn symud i fewn i Kinshasa yn flynyddol, gan ddianc o ryfeloedd neu'n chwilio am fywyd gwell. Mae llawer yn arnofio ar gychod neu rafftiau i lawr Afon Congo.[16]
Yn ôl amcanestyniad (2016) bydd poblogaeth Kinshasa metropolitan yn cynyddu’n sylweddol, i 35 miliwn erbyn 2050, 58 miliwn erbyn 2075 ac 83 miliwn erbyn 2100,[17] gan ei wneud yn un o'r ardaloedd metropolitan mwya'r byd.
Iaith
golyguEr mai Ffrangeg yw iaith swyddogol y Congo, ceir 4 iaith genedlaethol; Kongo, Lingala, Swahili, Tshiluba. Lingala yw prif iaith Kinshasa a gogledd orllewin Congo ac i fewn i Weriniaeth y Congo.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
- ↑ "Géographie de Kinshasa". Ville de Kinshasa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 25 Mehefin 2012.
- ↑ "DemographiaWorld Urban Areas – 13th Annual Edition" (PDF). Demographia. April 2017. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2018. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2017.
- ↑ Cécile B. Vigouroux & Salikoko S. Mufwene (2008). Globalization and Language Vitality: Perspectives from Africa, pp. 103 & 109. ISBN 9780826495150. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2015. Cyrchwyd 25 Mehefin 2012.
- ↑ "XIVe Sommet de la Francophonie". Organisation internationale de la Francophonie. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2012. Cyrchwyd 25 Mehefin 2012.
- ↑ Roman Adrian Cybriwsky, Capital Cities around the World: An Encyclopedia of Geography, History, and Culture, ABC-CLIO, USA, 2013, tud. 144
- ↑ 7.0 7.1 7.2 "Kinshasa – national capital, Democratic Republic of the Congo". britannica.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Hydref 2014. Cyrchwyd 25 Medi 2014.
- ↑ Georges Nzongola-Ntalaja (17 Ionawr 2011). "Patrice Lumumba: the most important assassination of the 20th century". The Guardian. Cyrchwyd 9 Chwefror 2020.
- ↑ Joe Trapido, "Kinshasa's Theater of Power Archifwyd 17 Medi 2017 yn y Peiriant Wayback", New Left Review 98, Mawrth-Ebrill 2016.
- ↑ "DR Congo election: 17 dead in anti-Kabila protests Archifwyd 16 Mehefin 2018 yn y Peiriant Wayback", BBC, 19 Medi 2016.
- ↑ Merritt Kennedy, "Congo A 'Powder Keg' As Security Forces Crack Down On Whistling Demonstrators Archifwyd 17 Mai 2018 yn y Peiriant Wayback", NPR, 21 Rhagfyr 2016.
- ↑ 12.0 12.1 Jean Flouriot, "Kinshasa 2005. Trente ans après la publication de l’Atlas de Kinshasa Archifwyd 17 Medi 2017 yn y Peiriant Wayback", Les Cahiers d’Outre-Mer 261, Ionawr-Mawrth 2013; doi:10.4000/com.6770.
- ↑ Wachter, Sarah J. (19 Mehefin 2007). "Giant dam projects aim to transform African power supplies". New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2010.
- ↑ Bédécarrats, Florent; Lafuente-Sampietro, Oriane; Leménager, Martin; Lukono Sowa, Dominique (2019). "Building commons to cope with chaotic urbanization? Performance and sustainability of decentralized water services in the outskirts of Kinshasa". Journal of Hydrology 573: 1096–1108. doi:10.1016/j.jhydrol.2016.07.023.
- ↑ "Archived copy" (PDF). Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2018. Cyrchwyd 26 Mehefin 2012.CS1 maint: archived copy as title (link)
- ↑ Gianluca Iazzolino, "Kinshasa, megalopolis of 12 million souls, expanding furiously on super-charged growth Archifwyd 9 Gorffennaf 2017 yn y Peiriant Wayback"; Mail & Guardian Africa, 2 Ebrill 2016.
- ↑ Hoornweg, Daniel; Pope, Kevin (2017). "Population predictions for the world's largest cities in the 21st century". Environment and Urbanization 29: 195–216. doi:10.1177/0956247816663557.