Trawsblannu organau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:29, 22 Tachwedd 2015

Trawsblannu organau yw'r llawdriniaeth meddygol o symud un neu fwy o organau anifail neu ddyn o'r 'rhoddwr (doner) i'r 'derbynydd', fel arfer gan fod organ y derbynydd yn ddiffygiol. Ystyrir fod trawsblannu meinwe hefyd yn 'drawsblannu organ'. Mae'n bosibl hefyd i'r rhoddwr a'r derbyniwr fod yr un person e.e. gellir cadw [[had gell|had gelloedd person sy'n dioddef o lwcimia mewn labordy, dileu'r hen gelloedd y gwaed drwy radiotherapi a cimotherapi ac yna trawsblannu'r celloedd a gadwyd yn ôl i'r un person. Gelwir hyn yn autograft a'r trawsblaniadau rhwng dau berson gwahanol yn allograft. Gall trawsblaniad o'r math hwn (allograft) olygu fod y rhoddwr yn fyw, neu wedi marw. Mae Cymru'n wlad blaenllaw yn y maes hwn, gan i Lywodraeth Cymru basio bil (Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013) sy'n caniatáu i ysbytu ddefnyddio organnau person sydd newydd farw heb ei ganiatâd ysgrifenedig; caniateir, hefyd optio allan o'r drefn hon, cyn i'r person farw. Daeth y Ddeddf hon i rym ar 1 Rhagfyr 2015.

Y prif organau dynol

Yr organau a ddefnyddir amlaf mewn trawsblaniadau yw arennau, y galon, yr iau, yr ysgyfaint, y pancreas a'r coluddyn bach.

Mae rhoi meinweoedd yn golygu defnyddio celloedd corff iach fel cornbilennau, croen, esgyrn, gewynnau, cartilag a falfiau'r galon. Mae esgyrn, tendonau a chartilag yn cael eu defnyddio ar gyfer ailadeiladu ar ôl anaf neu yn ystod llawdriniaeth i osod cymal newydd. Mae impiadau (neu grafft) croen yn cael eu defnyddio i drin pobl â llosgiadau difrifol.

Cymru

Cafodd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2013. Mae’r Ddeddf yn nodi fframwaith cyfreithiol ar gyfer sut y dylid rhoi cydsyniad yng Nghymru i roi organau a meinweoedd i’w trawsblannu i gorff arall. Mae’n ymdrin â gweithgareddau trawsblannu ar gyfer rhoddwyr byw a rhoddwyr sydd wedi marw yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn creu dau fath newydd o gydsyniad cyfreithiol – sef cydsyniad datganedig a chydsyniad tybiedig. Nid yw cydsyniad tybiedig yn gymwys ond i rodd gan berson sydd wedi marw. I gydsyniad tybiedig fod yn gymwys, bydd angen i bobl farw yng Nghymru, bod dros 18 oed ac wedi ‘preswylio fel arfer’ yng Nghymru am 12 mis neu fwy.<ref>[

Bernir bod oedolion wedi rhoi cydsyniad i roi organau a meinweoedd oni bai:

  • eu bod eisoes wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig eu hunain trwy ddweud nad oeddent yn dymuno bod yn rhoddwr (hy wedi 'optio i mewn');
  • eu bod eisoes wedi datgan nad oeddent yn dymuno bod yn rhoddwr (hy wedi 'optio allan');
  • eu bod wedi penodi cynrychiolydd i wneud penderfyniad drostynt;
  • nad oedd ganddynt y gallu i ddeall y drefn hon y gallai cydsyniad fod yn gydsyniad tybiedig (ee person gyda phroblemau meddyliol) neu
  • fod person sydd mewn perthynas â hwy neu sy’n perthyn iddynt yn gwrthwynebu ar sail dymuniadau’r person sydd wedi marw

Dolennau allanol

Cyfeiriadau