Rhethreg

(Ailgyfeiriad o Areithyddiaeth)

Celfyddyd neu astudiaeth llefaru ac ysgrifennu yw rhethreg,[1] rheitheg, areitheg neu areithyddiaeth. Yn ei ystyr eangaf, mae'r gair hwn yn golygu'r ddamcaniaeth o huodledd, pa un ai llafaredig neu ysgrifenedig. Ei amcan yw egluro'r arferion sydd yn rheoli cyfansoddiadau rhyddieithol ac areithiau fel ei gilydd, a fwriedir i ddylanwadu ar farn neu deimladau'r gynulledifa. Gan hynny, mae'n ymdrin â'r hyn sydd yn dwyn perthynas â phrydferthwch a nerth arddull – hynny yw, trwy ddefnyddio cywirdeb ieithyddol, cyfansoddi brawddegau yn rheolaidd, ac arfer ffigurau a chymariaethau priodol. Yn ei ystyr manylaf a mwyaf cyfyng, mae rhethreg yn ymwneud â'r egwyddorion sylfaenol ar ba rai y mae anerchiadau areithyddol yn cael eu cyfansoddi. Rhethregwr ydyw un sydd yn dysgu ysgrifennu ar areithyddiaeth, ac areithiwr ydyw un sydd yn ymarfer y gelfyddyd.

Alegori o Rethreg, paentiad (tua 1650) gan Artemisia Gentileschi (1593–1653)

Prif amcan rhethreg yw argyhoeddi a pherswadio. Nid yw'n ymwneud â'r olrheiniad o wirionedd ond megis ail beth yn unig. Fel ei sylfaen, y mae'n cymryd yn ganiataol fodolaeth egwyddorion neu ffeithiau; a'r amcan ganddi ydyw, cyflwyno'r rhai hynny yn y ffurf mwyaf cyfaddasol i ennill cydsyniad y deall a gwneuthur argraff ar y galon, er peri i un ymatal rhag, neu i'w dueddu tuag at ryw benderfyniad neu weithrediad neilltuol.

Roedd rhethreg yn gyfrwng hollbwysig ym mywyd deallusol yr hen Roegwyr a Rhufeiniaid, ac yn un o wyddorau'r trifiwm yn addysg Ewropeaidd yr Oesoedd Canol. Yr ysgrifenwyr enwocaf ar rethreg ac areithyddiaeth yn mysg yr hynafiaid oedd Aristoteles, Cicero, a Quintilian, ac mewn amseroedd diweddar y Saeson Blair, Campbell, Whately, a Spalding, yr Almaenwyr Erneste Maass, Schott, Fichter, a Falknann, a'r Ffrancod Rollin, Gilbery, La Batteux, La Harpe, Marmontel, ac Andrieux.

Y traddodiad llenyddol

golygu

Y Groegiaid

golygu

Oddi wrth yr Iliad, yr ydym yn casglu fod y gelfyddyd o rethreg yn sefyll yn uchel yn syniadau y Groegiaid mewn cyfnod pur foreol. Yn ôl Quintilian, fodd bynnag, un o'r rhai cyntaf a'i diwylliodd fel celfyddyd oedd Empedocles a flodeuai rywbryd tua'r flwyddyn 450 CC. Roedd Corax a Tisias, y rhai a ysgrifenasant gyntaf ar y gelfyddyd, medd efe, yn frodorion o Sisili. Roedd Gorgias hefyd yn cydoesi â hwy yn Sisili, ac yn cael ei fawrygu i'r fath raddau am ei huodledd fel y cyfodwyd cerflun euraidd ohono yn Delphi. Disgybl enwocaf Gorgias oedd Isocrates; yr hwn, yn ôl disgrifiad Cicero, oedd prif ddysgawdwr y gelfyddyd areithyddol. Traethawd Aristoteles ar rethreg yw'r hynaf sydd gennym, a diau ei fod yn un o'r llyfrau gwerthfawrocaf a ddaeth i lawr i ni o'r henfyd. Llwyddodd Demosthenes, yr hwn, dybygid, a gafodd fwynhau addysgiaeth Isocrates ac Isæus, trwy ymroddiad a llafur dirfawr i orchfygu'r anhawsderau naturiol oedd ar ei ffordd i ddyfod yn areithiwr; a chyrhaeddodd raddau helaeth o ragoriaeth yn y gelfyddyd sydd wedi anfarwoli ei enw. Mynegir hefyd fod ei wrthwynebydd a'i gydymgeisydd mawr, Æschines, ar ôl ei alltudiaeth, wedi bod yn addysgu eraill mewn rhethreg yn Rhodes. Nid oes un traethawd gan y meistriaid mawr hyn ar gael yn bresennol, ond y mae gennym, yn yr areithiau a draddodwyd ganddynt ag sydd wedi ei trosglwyddo i lawr i ni, gynlluniau areithyddol sydd yn werthfawrocach nag y gallasai un traethawd o'r eiddynt fod o gwbl. Cyfansoddodd Theodectes a Theophrastus, disgyblion Aristoteles, draethodau ar rethreg; ac wedi hynny talodd yr athronyddion, yn enwedig y Stoiciaid a'r Epicwreaid, sylw dyfael i reolau areithyddiaeth. Mae ar gael yn awr draethawd rhagorol ar gyfansoddi, awduriaeth yr hwn a briodolir i Demetrius Phalereus; ac yr oedd Dionysius o Halicarnassus yn awdur traethawd ar rethreg, ynghyd â sylwadau beirniadol ar yr areithwyr Groegaidd, yr hwn sydd yn deilwng o'i ddarllen yn ofalus. Heblaw'r rhai a enwyd, sonir am areithwyr Groegaidd eraill gan Quintilian, ac yn eu plith Hermagoras, Athenæus, Apollonius Molon o Rhodes, yr hwn oedd un o athrawon Cicero, Arius Cæcilius, Apollonius o Pergamus, a Theodorus o Gadara. Ar ôl Quintilian, yr ysgrifenwyr enwocaf ar y gangen hon o gelfyddyd ymhlith yr hynafiaid oedd Hermogenes a Longinus.

Parhaodd teyrnasiad huodledd yng Ngroeg yn llawer hwy nag y gwnaeth yn Rhufain. Dechreuodd ymhlith y Groegiaid gyda chyfodiad sefydliadau gwerinol, a pharhaodd i flodeuo hyd ddyddiau Alecsander Fawr, sef am gyfnod o gant a hanner o flynyddoedd; ond yn mysg y Rhufeiniaid, o'r bron nad ellir dywedyd i'r cyfnod ddechreu a diweddu gydag oes Cicero. Mae'r gwahaniaeth yn cael ei briodoli i'r rhyddid a'r ffurfiau poblogaidd hynny o lywodraethau oedd yn cael eu mwynhau mewn llawer o'r taleithiau Groegaidd; ac y mae'n ymddangos fod y syniad hwn yn cael ei gadarnhau wrth ystyried fod y cyfnod mwyaf blodeuog ar hyawdledd a rhyddid tir Groeg bron yn cydoesi â'i gilydd. Peidiodd y naill pan y cafodd y llall ei ddinistrio. Gellir dywedyd fod oes y rheithegwyr yn Groeg wedi dilyn oes yr areithwyr; ac er nad oedd amgylchiadau yn ffafrïol mwyach i areithyddiaeth cyffelyb i'r eiddo Demosthenes ac Æachines, eto yr oedd athrawon yn dysgu rheitheg ymhlith y Groegiaid, yn diwyllio'r gelfyddyd fel disgyblaeth feddyliol, ac yn ei defnyddio fel math o arddangosiad chwarëyddol. Ymhlith y dosbarth hwn o areithwyr yr oedd Aristides, ac eraill.

Y Rhufeiniaid

golygu

Roedd y gelfyddyd rethregol wedi cyrhaedd perffeithrwydd mawr yng ngwlad Groeg cyn iddi erioed dynnu sylw na chael nemawr o'i hastudio yn Rhufain. Mor ddiweddar a'r flwyddyn 161 CC, pasiodd y senedd yno benderfyniad i yrru'r holl athronyddion a'r rhethregwyr allan o'r ddinas. Ond tua chwe blynedd yn ddiweddarach, daeth Carneades, Critolaus, a Diogenes, yn genhadwyr o Athen i Rufain, a swynwyd pobl ieuanc Rhufain gymaint gan ei hyawdledd rhyfeddol fel y penderfynasant hwythau hefyd astudio'r gelfyddyd drostynt eu hunain. Dywed Seneca mai Lucius Plotinus o Âl oedd y cyntaf a ddysgodd areithyddiaeth yn Rhufain. Mae Quintilian yn enwi'r personau canlynol ym mygs yr ysgrifenwyr Rhufeinig ar rethreg: Marcus Cato, Antony'r areithydd, Cornificius, Stertinius, a Gallio; ac yn oes Quintilian, yr oedd Virginius, Pliny, a Rutilius yn deilwng o'u chwanegu atynt.

Roedd Cicero hefyd, y mwyaf ardderchog o'r holl areithwyr Rhufeinig, yn un o'r hen ysgrifenwyr a gyfansoddodd yn fwyaf helaeth a rhagorol ar areithyddiaeth. Efe a ysgrifennodd oddeutu pump neu chwech o draethodau helaeth ar y testun hwn. Mae'r Orator yn gynwysedig mewn tri llyfr; ac y mae wedi ei gyfansoddi mewn ffurf ymddiddanol. Y prif siaradwyr ydynt L. Crassus ac M. Antonius; ac y mae Cicero yn gosod ei opiniynau ei hun yn ngenau'r blaenaf. Mae y llyfr cyntaf yn ymdrin â'r pwnc yn gyffredinol, ac yn cyfeirio yn neillduol at anhawsderau'r gelfyddyd o areithyddiaeth, a'r canghennau hynny oefrydiaeth â pha rai y dylai'r areithiwr penigamp fod yn gydnabyddus. Yn ôl Crassus, dylai cymhwysderau yr areithydd fod o'r radd uchaf; ac mai amcan y gelfyddyd ydyw, dysgu dyn i siarad neu i areithio yn y modd mwyaf galluog a dylanwadol; ac y dylai yr areithydd wneuthur ei hun yn gyfarwydd ym mhob dosbarth a changen o ddysgeidiaeth. Dywed nad ydyw huodledd yn gynwysedig mewn cadw yn fanwl at reolau celfyddydol: ond mai rheolau ydynt mewn gwirionedd wedi eu tynnu fel casgliadau wrth chwilio i ansoddau hyawdledd. Dylai'r ymarferiadau o ddarllen, traddodi, a gwellhau'r cof gael eu diwyllio yn ofalus gan yr areithydd; ac uwch law y cwbl dylai fod yn gyfarwydd hollol mewn materion a berthynant i'r gyfraith wladol. Dadleuai Antonius yn erbyn y gosodiadau hyn, ac eraill cyffelyb iddynt; a haerai nad ydyw adnabyddiaeth helaeth a chyfarwydd o'r gyfraith ddim yn angenrheidiol a hanfodol, a bod yr hwn a all siarad ar achosion cyffredin gyda pharodrwydd a nerth nes argyhoeddi'r gwrandawyr yn deilwng o'r alw yn areithydd. Ymdrina yr awdur yn yr ail lyfr â dyfais, trefn, a chof. Edrychir ar y cyntaf mewn golygiad triphlyg, yn ôl amcan y siaradwr ar y pryd; sef, addysgu, perswadio, neu ddifyru. O dan y pennawd o drefniad, ymdrinir â'r amrywiol rannau o araith; sef, yr arweiniad i mewn, yr adroddiad, y rhaniadau, y cadarnhâd, y gwrth-ddadleuon, a'r diweddglo. Yna ymdrina gwahanol fathau o areithyddiaeth; a diwedda'r llyfr gyda sylwadau ar y cof pan wedi ei gryfhau gan gelfyddyd. Yn y trydydd llyfr, cymerir i fyny y pwnc o hyawdledd. Mae teithi geiriau, cyfansoddiad ac adddurniant brawddegau, a phethau eraill cysylltiedig ag iaith ac arddull,yn cael eu hegluro yn helaeth ynddo; a therfynir yr holl waith gydag ymdriniaeth a sylwadau ar agwedd ac ystum corff y llefarwr pan yn areithio.

Ysgrifennodd Quintilian, yr hwn oedd ei hunan yn rhethregwr o gymeriad uchel, ar ôl Cicero. O ganlyniad, cafodd y fantais o weld ac astudio ysgrifeniadau ysblenydd yr olaf; ac y mae ei Institutions of Oratory, mewn deuddeg llyfr, yn cael ei ystyried y gyffredinol y gwaith mwyaf cyflawn sydd yn bod ar y pwnc. Mae rhai areithiau sydd ar gael eto yn cael eu priodoli iddo ef; ond yn gymaint ag nad ydynt yn cytuno â'r rheolau y mae efe ei hun wedi eu gosod i lawr, nid ydyw eu dilysrwydd yn cael ei gydnabod yn gyffredinol.

Yr Oesoedd Canol

golygu

Sant Awstin o Hippo, un o'r Tadau Eglwysig boreuaf, oedd un o'r cyntaf i ysgrifennu esiampl rethregol i'r Cristion. Y pedwerydd llyfr o'i destun De doctrina christiana yw'r ddamcaniaeth rethregol gyntaf at ddiben y gweinidog neu'r pregethwr Cristnogol. Nid yw'r gwaith yn ceisio osod rhethreg yn uwch na diwinyddiaeth neu resymeg, ond ymdrechodd i gyfuno dehongliad y Beibl â rhethreg.

Yn niwedd y 13g, blodeuodd dau o ddisgyblion yr athronydd Almaenig Albertus Magnus a gawsant ddylanwad sylweddol ar addysg y prifysgolion canoloesol: Tomos o Acwin a Phedr o Sbaen (yn hwyrach Pab Ioan XXI). Dysgawdwr pennaf y cwricwlwm diwinyddol oedd Tomos, a ysgrifennodd ar resymeg yr haniaeth a symbolaeth. Cafodd ei ysgrifau ddylanwad ar ddiwinyddiaeth ac athroniaeth fel ei gilydd, yn bennaf traddodiad yr ysgolwyr. Athro blaena'r celfyddydau breiniol oedd Pedr ac efe oedd yn gyfrifol am osod rhesymeg yn bwnc y mae'r myfyriwr rhethreg yn anelu at ei astudio. Ysgrifennodd ar resymeg y dilechdid.

Y Dadeni

golygu

Yn oes y Dadeni Dysg, llewyrchodd llên mewn ieithoedd y werin ac felly rhethreg. Y Ffrancwr Petrus Ramus oedd prif rethregwr y 16g.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  rhethreg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Ionawr 2017.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.