Brynmor John
Roedd Brynmor Thomas John (18 Ebrill, 1934 – 13 Rhagfyr, 1988) yn gyfreithiwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol y Blaid Lafur dros etholaeth Pontypridd yn Senedd y Deyrnas Unedig.[1]
Brynmor John | |
---|---|
Ganwyd | 18 Ebrill 1934 |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1988 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Shadow Secretary of State for Northern Ireland, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Amddiffyn |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Cefndir
golyguGanwyd John yn ardal cofrestru genedigaethau Pontypridd [2] yn blentyn i William Henry John, paentiwr ac addurnwr a Sarah Jane (née Williams) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd a Choleg Prifysgol, Llundain lle enillodd gradd LlB (Baglor y Gyfraith) ym 1954. Ar ôl ymadael a'r coleg aeth i astudio i fod yn gyfreithiwr gan gymhwyso ym 1957.
Gyrfa
golyguAr ôl i'r Ail Ryfel Byd dod i ben hyd 1957 roedd yn orfodol i bob bachgen oedd yn cyrraedd 17 mlwydd oed gwneud Gwasanaeth Cenedlaethol. Roedd Gwasanaeth Cenedlaethol yn gyfnod o wasanaeth milwrol gorfodol yn y lluoedd arfog am gyfnod o ddwy flynedd. Roedd modd gohirio ymuno a'r lluoedd er mwyn cwblhau cyrsiau addysgol. Gohiriwyd gwasanaeth John hyd iddo gymhwyso yn gyfreithiwr. Er bod Gwasanaeth Cenedlaethol i fechgyn 17 mlwydd oed wedi dod i ben ym 1957, roedd disgwyl i'r sawl a chafodd ohiriad i gyflawni'r gwasanaeth a ohiriwyd. Cyflawnodd John ei wasanaeth fel swyddog yn adran addysg yr Awyrlu Brenhinol.[3]
Ar ôl ymadael a'r awyrlu ym 1960 bu John yn gweithio fel cyfreithiwr damweiniau diwydiannol ym mhartneriaeth Morgan, Bruce a Nicholas, Pontypridd gan barhau yn y swydd hyd ei ethol i San Steffan.
Gyrfa wleidyddol
golyguBu John yn gefnogol i'r Blaid Lafur ers ei ieuenctid cynnar gan ymuno fel aelod cyflawn yn 18 oed. Daeth yn ysgrifennydd cangen ei brifysgol o'i blaid.
Pan ymddeolodd Arthur Pearson o'r fel AS Pontypridd ar adeg etholiad cyffredinol 1970, dewiswyd John i sefyll fel yr ymgeisydd Llafur i'w olynu yn y sedd Lafur saff. Llwyddodd i gadw'r sedd i Lafur gyda 58.6% o'r pleidleisiau (er hynny gyda -16% o ganlyniad ei ragflaenydd yn etholiad 1966, gyda'r Rhyddfrydwyr yn sefyll am y tro cyntaf ers 1950 yn cipio 14% a Phlaid Cymru yn sefyll am y tro cyntaf erioed yn cipio 10% o'r bleidlais) [4]
Daeth John i sylw'r cyhoedd yn fuan wedi ei ethol am gondemnio Tîm Hoci Cymru am fynd ar daith i Rhodesia a oedd, fel De Affrica yn ymarfer Apartheid ar y pryd.[5] Roedd yn un o'r aelodau Llafur bu'n alw am ddiswyddo tri uwch swyddog yn y fyddin oedd wedi awgrymu dylai'r fyddin cael defnyddio grym angheuol i dorri streiciau a phrotestiadau ym 1972.[6]
Pan ffurfiwyd Llywodraeth Lafur o dan arweiniad Harold Wilson ar ôl etholiad Chwefror 1974 penodwyd John i swydd Is Ysgrifennydd yr Awyrlu yn y weinyddiaeth amddiffyn [7] Yn fuan wedi ei apwyntio cafodd ei ddanfon i Giprus gan y llywodraeth i arolygu ac adrodd ar ddiogelwch aelodau'r lluoedd arfog a sifiliaid Prydain wedi i Dwrci oresgyn rhannau o'r ynys. Cafodd ei feirniadu'n hallt gan yr wrthbleidiau am doriadau i gyllideb yr awyrlu a arweiniodd at dros 6,000 o ddiswyddiadau.[8]. Bu John yn gefnogol i'r achos o blaid Datganoli yn ystod refferendwm 1974. Yn refferendwm Y Farchnad Gyffredin ym 1975 roedd John yn gefnogol i'r ochr ymadael.
Wedi i Harold Wilson ymddeol o fod yn brif weinidog ym 1976, rhoddodd James Callaghan, ei olynydd, swydd Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref i John. Swydd a daliodd hyd gwymp y llywodraeth ym 1979.[9]. Fel y gweinidog oedd a chyfrifoldeb am fewnfudo, John fu'n gyfrifol am ymateb y llywodraeth i ymgyrch Enoch Powell a'i gefnogwyr i alltudio pobl o gefndiroedd Caribî, Affricanaidd ac Asiaidd o wledydd Prydain.[10]
Ym 1979 fu John yn llefarydd yr wrthblaid ar Ogledd Iwerddon. Ym 1980 fe symudodd i fod yn llefarydd yr wrthblaid ar amddiffyn. Yn ei gyfnod fel y llefarydd ar amddiffyn bu anghydfod rhyngddo a nifer mawr o aelodau cyffredin ei blaid. Roedd aelodau a changhennau Y Blaid Lafur yn dueddol o fod yn gefnogol i'r Ymgyrch Dros Ddiarfogi Niwclear (CND) tra fo John a'r mwyafrif o'r Blaid Seneddol am i Brydain i barhau i fod yn wladwriaeth niwclear. Bu yn arbennig o hallt ei feirniadaeth o gefnogwyr CND pan wrthodwyd caniatâd iddo siarad mewn dadl ar y pwnc, yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd amddiffyn, yng Nghynhadledd y Blaid Lafur ym 1981. Ym 1981 symudodd o fod yn llefarydd ar amddiffyn i fod yn llefarydd ar wasanaethau cymdeithasol o 1981 i 1983, ac wedyn yn llefarydd yr wrthblaid ar amaethyddiaeth o 1984 i 1987. Bu drwgdeimlad rhwng John a Neil Kinnock ers amser y refferendwm ar ddatganoli a gwrthododd John roi ei gefnogaeth i ymgyrch Kinnock i ddod yn arweinydd Llafur ym 1983. Wedi i Kinnock ennill yr arweinyddiaeth diswyddodd John o'r cabinet cysgodol ym 1987. Gwasanaethodd fel cadeirydd y Grŵp Llafur Cymreig rhwng 1983 a 1984.
Teulu
golyguPriododd Anne Pryce, merch David L. Hughes, Pentre'r Eglwys ym 1960 bu iddynt fab a merch.[11]
Marwolaeth
golyguBu John yn dioddef o Syndrom Blinder Cronig llethol am rai blynyddoedd. Yn ei eiriau ei hun:
“ | :Er nad oes ond graddiant bach o’n tŷ ni i’r briffordd, gallai fod wedi bod yn wyneb Gogleddol yr Eiger. Allwn i ddim ei ddringo.[12] | ” |
Cafodd cyngor (ffug) meddygol bod ymarfer yr ymennydd yn foddion i liniaru'r afiechyd a dechreuodd ysgrifennu traethawd MA ar Hanes yr Unol Daleithiau fel myfyriwr allanol Prifysgol Llundain, ond bu farw cyn ei gyflawni.[13] Cafodd ffug cyngor, hefyd, i ddefnyddio ymarfer corff fel moddion i liniaru effaith y salwch.[12][14] Wedi bod yn gweithio allan yng nghampfa Tŷ'r Cyffredin cafodd trawiad ar ei galon, aed ag ef i Ysbyty St Thomas gerllaw lle fu farw ychydig wedyn yn 54 mlwydd oed.[15]
Claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Illtyd, Llanilltud Fawr. Enwyd Stryd ym Mhentre'r Eglwys yn Heol Brynmor John er anrhydedd iddo.[16]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ JOHN, BRYNMOR THOMAS (1934-1988), gwleidydd Llafur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 19 Meh 2020
- ↑ Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Mynegai i enedigaethau Pontypridd 1934.Cyfrol 11A805
- ↑ BBC History The Peacetime Conscripts: National Service in the Post-war Years adalwyd 18 Gorffennaf 2020
- ↑ James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0850886848
- ↑ Hansard 25 Mai 1971. Atebion Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd yr Amgylchedd: Taith Tîm Hoci Cymru i Rhodesia adalwyd 19 Mehefin 20290
- ↑ The Daily Telegraph, (Llundain, Lloegr); Rhifyn: 36425; 23 Mehefin, 1972; "Call to dismiss senior Army officers rejected" adalwyd 19 Mehefin 2020 trwy Gale Primary Sources (mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus)
- ↑ Daily Mirror; 9 Mawrth, 1974; ""Beaten MP in Wilson's New Team." adalwyd 19 Mehefin 2020 trwy Gale Primary Sources (mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus)
- ↑ Daily Telegraph, 21 Mawrth 1975; "300-400 RAF pilots face axe." adalwyd 19 Mehefin 2020 trwy Gale Primary Sources (mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus)
- ↑ gwefan Llywodraeth y DU Gyrfa Seneddol Brynmor John AS adalwyd 19 Mehefin 2020
- ↑ Schofield, C. (2013). The war within, 1968-1970. Yn Enoch Powell and the Making of Postcolonial Britain (tud. 208-263). Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt. ISBN 9781107007949
- ↑ "John, Brynmor Thomas, (18 April 1934–13 Dec. 1988), MP (Lab) Pontypridd since 1970". WHO'S WHO & WHO WAS WHO. doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u165809. Cyrchwyd 2020-06-19.
- ↑ 12.0 12.1 MAGICAL MEDICINE: HOW TO MAKE A DISEASE DISAPPEAR Tudalen 15 adalwyd 19 Mehefin 2020
- ↑ The Independent, 15 Rhagfyr 1988 Obituary - Brynmore John
- ↑ Twisk, F. N.; Maes, M. (2009). "A review on cognitive behavorial therapy (CBT) and graded exercise therapy (GET) in myalgic encephalomyelitis (ME) / chronic fatigue syndrome (CFS): CBT/GET is not only ineffective and not evidence-based, but also potentially harmful for many patients with ME/CFS". Neuro Endocrinol Letters. 30 (3): 284–299. PMID 19855350
- ↑ New York Times 15 Rhagfyr 1988 Brynmor John, Legislator, 54 adalwyd 19 Mehefin 2020
- ↑ Street Lists Heol Brynmor John CF38 1UH adalwyd 19 Mehefin 2020
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Arthur Pearson |
Aelod Seneddol | Olynydd: Kim Howells |