Caer Gybi (caer)
wal mynwent rhestredig Gradd I yng Nghymuned Caergybi
Roedd Caer Gybi yn gaer Rufeinig sydd yn awr yng nghanol tref Caergybi, sy'n cymryd ei henw o'r gaer.
Caer Gybi: rhan o furiau'r gaer | |
Math | castellum, castell, wal mynwent eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Caergybi |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 12 metr |
Cyfesurynnau | 53.3114°N 4.63278°W |
Cod OS | SH2469682619 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN031 |
Disgrifiad a hanes
golyguMae'r gaer ar lechwedd creigiog uwchben y môr, gyda muriau ar dair ochr a'r traeth ar y bedwaredd ochr, yn ffurfio hirsgwar 75 medr wrth 45 medr. Credir ei bod yn dyddio o ddiwedd y 3g neu ddechrau'r 4g. Credir bod y gaer yma at ddefnydd y llynges Rufeinig.[1]
Ym muchedd Sant Cybi mae cyfeiriad at frenin Gwynedd, Maelgwn Gwynedd, yn rhoi'r tir yma iddo i adeiladu clas (mynachlog). Bellach mae eglwys y plwyf a'i mynwent ar safle'r gaer, ond mae'r muriau yn dal i sefyll hyd at uchder o bedair medr.[1]
Cadwraeth
golyguMae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: AN031.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Frances Lynch, A guide to ancient and historic Wales: Gwynedd (HMSO, 1995)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 A guide to ancient and historic Wales: Gwynedd (HMSO, 1995).
- ↑ Cofrestr Cadw.
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |