Caer Rufeinig Pen y Gaer

Caer Rufeinig a saif i'r gorllewin o afon Rhiangoll ac i'r dwyrain o bentref Bwlch, Powys, Cyf. OS SO168219, yw Caer Rufeinig Pen y Gaer. Mae ffermdy yng nghanol y safle rwan.

Caer Rufeinig Pen y Gaer
Pen-y-gaer Roman Fort - geograph.org.uk - 354841.jpg
Mathcaer Rufeinig, adeilad Rhufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dynodwr CadwBR174 Edit this on Wikidata

Bu cloddio yma yn 1804, pan gafwyd hyd i grochenwaith, yn cynnwys darnau o gwpan yn dyddio o 150 - 160 OC, ac ychydig o ddarnau arian. Roedd y cynharaf o'r rhain yn denarius o gyfnod yr ymeradwr Nero (bu farw 68 OC), sy'n awgrymu fod y gaer yn un gynnar. Credir i'r garsiwn adael y gaer tua dechrau'r 2g.

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: BR174.[1]

LlyfryddiaethGolygu

  • Symons, S. Fortresses and treasures of Roman Wales (Breedon Books, 2009)

CyfeiriadauGolygu


Caerau Rhufeinig Cymru  
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis