Agor y brif ddewislen

Lleng-gaer enfawr o'r cyfnod Rhufeinig ydy Caer Rufeinig Caerllion, Caerllion, Sir Casnewydd; cyfeiriad grid ST338906. Dyma bencadlys y Rhufeiniaid yn eu hymgyrch i orchfygu brodorion De Cymru.

Caer Rufeinig Caerllion
Caerleon-Roman Prysg Field Barracks.JPG
Math adeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Cymru Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.6103°N 2.9589°W Edit this on Wikidata

I'r Rhufeiniwr o leng Legio II Augusta, fel "Isca Silurum" gan mai yn nhiriogaeth y Silwriaid yr oeddent neu fel 'Isca Augusta yr adnabyddid y lleng-gaer hon. Symudodd y lleng i Gaerllion tua'r flwyddyn 74 OC, a bu yma am ganrifoedd, efallai tan ddechrau'r 4g. Mae'r olion o'r cyfnod yma yn parhau i fod yn nodwedd amlycaf Caerllion. Ymhlith yr olion mae olion barics y llengfilwyr, y baddondy, y muriau oedd yn amgylchynu'r gaer, a'r amffitheatr tu allan i'r muriau. Enw Rhufeinig ar y dref oedd 'Iskalis' a ddaeth o enw'r afon: Wysg.

Golygfa o'r olion Rhufeinig
Amffitheatr Rhufeinig y gaer

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM: MM252, MM230 ac eraill.[1]

Mae olion Rhufeinig wedi cael eu darganfod yn ddiweddar mewn rhan arall o Gaerllion, sef, "The Mynde".[2]

Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion yw prifddinas y Brenin Arthur.

Yr amffitheatrGolygu

 
Yr Amffitheatr Rufeinig

Arferai'r trigolion lleol alw'r amffitheatr yn "Fwrdd Crwn Arthur" oherwydd ei siap a'r cysylltiad honedig gydag Arthur. Rhwng 1909 ac 1926 cafwyd cloddio archaeolegol o dan arweiniad Victor Erle Nash-Williams, a ddaeth i'r canlyniad mai oddeutu 90 OC y cychwynwyd ar y gwaith o'i godi. Erys y rhan fwyaf ohono heb ei gloddio. Siap ofal sydd iddo mewn gwirionedd a chredir y gallesid ddal oddeutu chwe mil o bobl. Mae'n cynnwys clawdd pridd yn cael ei gynnal gan furt o gerrig, lle mae wyth mynedfa i'r man perfformio.[3]

Golygfa panoramig 360° o'r amffitheatr.

Caerau Rhufeinig cyfagosGolygu

Ceir Caer Penrhos gerllaw: rhif SAM MM011; cyfeiriad grid ST342917.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Cofrestr Cadw.
  2. The Mynde, Caerleon
  3. Over Wales Cyhoeddwyd Pitkin Unichrome 2000

Dolen allanolGolygu