Caer Rufeinig Brithdir
caer Rufeinig yng Ngwynedd
Ceir olion Caer Rufeinig Brithdir ger pentref Brithdir, de Gwynedd; cyfeiriad grid SH772188.
Math | caer Rufeinig, adeilad Rhufeinig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.753277°N 3.820193°W ![]() |
![]() | |
Mae'n gaer Rufeinig fechan mewn safle strategol bwysig ar gyffordd y ffordd Rufeinig o Gaer Gai a Chaer o'r dwyrain â Sarn Helen sy'n ei chysylltu â Tomen y Mur i'r gogledd a chaer Pennal i'r de. Ni ddarganfuwyd y gaer gan archaeolegwyr tan yn gymharol ddiweddar. Y cwbl sydd i'w gweld o'r gaer heddiw yw llwyfan ddyrchafedig tua 50m², ac sydd wedi dioddef cryn dipyn trwy waith amaeth dros y blynyddoedd.[1]
Cadw golygu
Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: ME080.[2]
Llyfryddiaeth golygu
Ceir disgrifiad o'r safle yn
- Journal of Roman Studies cyfrol LI (1961), tud. 130.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, Llundain, 1978), tud. 108.
- ↑ Cofrestr Cadw.
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |