Safle Rufeinig Caersŵs
Saif Safle Rufeinig Caersŵs gerllaw Caersŵs, Powys, a ger afon Hafren; cyfeiriad grid SO029921.
Math | caer Rufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caersŵs |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.522221°N 3.411324°W, 52.5162°N 3.4329°W |
Disgrifiad
golyguCeir dwy gaer Rufeinig yma. Adeilawyd y gaer gyntaf, Caersŵs I, ar dir uchel uwchben afon Hafren. Mae'n perthyn i'r cyfnod cynnar, cyn 69 OC, ac efallai yn perthyn i gyfnod yr ymladd rhwng y Rhufeiniaid a'r Ordoficiaid.
Saif yr ail gaer, Caersŵs II, ar dir gwastad ger glan ogleddol afon Carno. Adeiladwyd hon yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Vespasian, yn y 70au OC. Mae ganddi arwynebedd o 7.7 acer, sy'n awgrymu ei bod wedi ei bwriadu ar gyfer garsiwn o cohors milaria o fil o filwyr atodol. Cafwyd hyd i grochenwaith a darnau arian, yn enwedig ar safle'r baddondy, yn dyddio o deyrnasiad Antoninus Pius (138 - 161) hyd gyfnod Victorinus a Tetricus I (268 - 273). Ceir cofnod i gohort cynhtaf y Celtiberiaid ffurfio'r garsiwn yn ystod y 3g. Nid oes unrhyw arwydd o filwyr yma at ôl 280, ond ymddengys i'r gaer hon gael ei defnyddio'n barhaus am gyfnod hwy nag unthyw gaer arall yng Nghymru.
Tu allan i'r gaer, ceir olion vicus sylweddol, yn cynnwys siopau ac efallai tafarn. Gerllaw, roedd fila Rufeinig, gyda'i baddondy ei hun.
Cadw
golyguMae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: MG001.[1]
Ceir ail gaer Rufeinig yn cyfeiriad grid SO029918, gyda'r rhif SAM unigryw: MG222.
Cyfeiriadau
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Symons, S. Fortresses and treasures of Roman Wales (Breedon Books, 2009)
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |