Caer Rufeinig Pennal
Lleolir Caer Rufeinig Pennal ar gwr pentref Pennal, Gwynedd; cyfeiriad grid SH705000. Mae enw'r Rhufeiniaid am y gaer hon yn anhysbys.
Math | caer Rufeinig, adeilad Rhufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.582802°N 3.912016°W |
Roedd ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd heibio'r fan, a chodwyd caer Rufeinig fechan yma, efallai yn gwarchod man croesi Afon Dyfi. Roedd hyn yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid.
Ni ellir gweld lawer o weddillion y gaer, mae rhan ohoni wedi ei gorchuddio gan dŷ Cefn Caer i'r de-ddwyrain o'r pentref, yn nes i'r afon. Roedd y gaer yn cynnwys 12 acer o dir, sef tua 670 troedfedd wrth 505 troedfedd, wedi ei chodi ar ben caer gynharach o 4.38 acer. Cafwyd arian bath o gyfnod Titus a Domitian ar y safle. Y darganfyddiad mwyaf diddorol oedd teil lleng Rufeinig sy'n darllen LEG II AVG ANTO(ninia), sy'n perthyn i'r cyfnod 212-222 efallai.
Cadw
golyguMae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: ME009.[1]
Cyfeiriadau
golygu
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |