Varis
Caer Rufeinig yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd Varis (Lladin). Mae ei union safle yn ddirgelwch. Yn y gorffennol, credai rhai archaeolegwyr a hynafiaethwyr fod tref Caerwys yn sefyll ar safle Varis, ond erbyn heddiw credir mai yn Llanelwy neu'r cyffiniau oedd y safle. Cyfeirir at Varis yn yr Itinerarium Antoninus am dalaith Prydain (adran XI). Gorweddai ar ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm rhywle rhwng Deva (Caer) a Canovium (Caerhun) yn Nyffryn Conwy. Byddai disgwyl i'r gaer orwedd tua hanner ffordd rhwng y ddwy gaer honno, ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, o fewn taith diwrnod ar draed iddynt. Mae Llanelwy yn cynnig ei hun fel safle i'r gaer am sawl rheswm. Yn un peth mae'n gorwedd ar y brif ffordd Rufeinig ger rhyd strategol ar afon Clwyd. Gwyddys fod tref Rufeinig fechan yno a bod Prestatyn yn harbwr pwysig (roedd lefel y môr yn uwch) i allforio plwm o'r mwynfeydd Rhufeinig ym mhen gogleddol Bryniau Clwyd. Yn ogystal, damcaniaethir y bu ffordd Rufeinig arall yn rhedeg ar hyd Dyffryn Clwyd, gyda chaer fechan yn Rhuthun efallai, i gysylltu â'r ffordd Rufeinig o Deva (Caer) i Gaer Gai (ger Llyn Tegid) yng Nghorwen. Naturiol felly fyddai codi caer ar safle Llanelwy. Ond hyd yn hyn ni lwyddwyd i ddarganfod olion o'r gaer. Cafwyd darnau o grochenwaith a theiliau Rhufeinig ger yr A541 a chredir erbyn hyn fod y gaer yn aros i'w darganfod ger Bryn Polyn, ar gefnen isel rhwng afon Clwyd ac afon Elwy.
Math | safle archaeolegol Rhufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfeiriadau
golygu- Kevin Blockley, 'The Romano-British period', yn The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir Clwyd, 1991).
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |